Ewch i’r prif gynnwys

Cau'r bwlch sgiliau TG

18 Gorffennaf 2018

National Academy Software students

Mae'r myfyrwyr cyntaf erioed i raddio o Academi Meddalwedd Genedlaethol Prifysgol Caerdydd yn dathlu heddiw wrth iddynt ddechrau swyddi mewn cwmnïau blaenllaw ar draws y wlad.

Mae'r myfyrwyr – fel y rhai cyntaf i gwblhau'r rhaglen gradd tair blynedd mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol – yn camu i fyd gwaith gyda set o sgiliau cwbl ddatblygedig, diolch i agwedd unigryw ac arloesol yr Academi tuag at addysgu.

Gyda lwc, bydd y garreg filltir hon yn hwb i gyflenwad o raddedigion medrus mewn sector sydd, hyd yn hyn, wedi bod yn brin o weithwyr addas. Yn ôl ymchwil y farchnad gan Lywodraeth Cymru, mae gofyn am oddeutu 3,000 o weithwyr proffesiynol cymwysedig ym maes TG yn niwydiannau Cymru bob blwyddyn.

Lansiwyd yr Academi dair blynedd yn ôl, â'r dasg o gynnig profiadau gwaith 'bywyd go iawn' i fyfyrwyr drwy gydol cyfnod eu gradd.

Roedd hynny'n ymateb i adborth a gafwyd gan ddiwydiant, nad oedd gan raddedigion nifer o sgiliau hanfodol i'w gwneud yn barod ar gyfer byd gwaith ar ôl gadael y brifysgol.

Lansiwyd yr Academi gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cael ei rhedeg mewn cydweithrediad agos â diwydiant.

Mae'n efelychu amgylchedd y gweithle gyda phwyslais ar weithio mewn grwpiau bach yn ôl arferion gwaith y diwydiant.

Drwy gydol cyfnod y radd, mae myfyrwyr yn mynd i'r afael â phroblemau a phrosiectau sy'n bodoli eisoes, o dan fentoriaeth ymarferwyr profiadol sy'n hanu o ystod eang o bartneriaid yn y diwydiant, gan gynnwys Acorn, Admiral, Laing O'Rourke a Chyngor Dinas Casnewydd.

Paratoi ar gyfer y gweithle

Roedd Gareth Livermore – sy'n 29 oed ac yn wreiddiol o Gaerffili – wedi gwneud cais i astudio am radd mewn cyfrifiadureg, ond cafodd ei ddenu gan y dull ymarferol sydd ar waith yn yr Academi sy’n canolbwyntio ar addysgu.

Ar ôl cychwyn ar y rhaglen Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol, a gweithio ar leoliad dros yr haf ar ôl hynny gydag Admiral, mae wedi cael swydd yn nhîm TG y cwmni erbyn hyn.

"Rwy'n sicr yn teimlo bod y cwrs wedi fy helpu i baratoi ar gyfer y gweithle", meddai Gareth. "Mae wedi rhoi'r profiad i mi o ddeall a bodloni anghenion cleientiaid, yn ogystal â chyfrifoldebau cysylltiedig tîm datblygu, megis rheoli disgwyliadau ac amcangyfrif llwythi gwaith."

Fe wnaeth Gareth ganu clodydd yr hyblygrwydd a geir yn yr Academi i astudio, a hyd a lled yr addysgu sydd wedi galluogi iddo ddatblygu ystod eang o sgiliau.

"Roedd gofalu am fy mab dwyflwydd oed yn golygu bod fy nyletswyddau fel rhiant weithiau'n cael blaenoriaeth dros fy astudiaethau, ond cefais yr amser a'r offer bob tro er mwyn dal i fyny. Roedd y darlithwyr yn hawdd iawn mynd atynt, ac roeddynt yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu gwahanol, i fodloni'r ffyrdd gwahanol sydd gan fyfyrwyr unigol o ddysgu.

"Teimlaf fy mod yn hyblyg iawn yn sgîl cymryd y cwrs, felly rwyf yn edrych ymlaen nawr at ganfod pa faes yr hoffwn arbenigo ynddo yn y dyfodol."

Adeiladu ar y llwyddiant

Mae'r Academi wedi cael sawl gwobr ers ei lansio a chyn hir, bydd yn ehangu i swyddfeydd newydd yng Nghasnewydd er mwyn gwneud lle ar gyfer y nifer cynyddol o fyfyrwyr.

Ym mis Medi, bydd yr Academi hefyd yn cyflwyno gradd ôl-raddedig mewn Peirianneg Meddalwedd, â'r bwriad o roi'r sgiliau hanfodol i raddedigion o amrywiaeth o gefndiroedd academaidd, yn ogystal â phrofiad ymarferol ar gyfer gweithio yn y sector TG.

Yn ôl Matthew Turner, rheolwr yr Academi Meddalwedd Genedlaethol: "Ers trafod y syniad o gael canolfan genedlaethol ar gyfer peirianneg meddalwedd am y tro cyntaf nifer o flynyddoedd yn ôl, bu'n siwrnai hir er mwyn cyrraedd y man heddiw lle rydym wrthi'n dathlu gyda'n graddedigion cyntaf erioed.

"Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Sefydliad Alacrity, ein partneriaid yn y diwydiant ac, yn bwysicaf oll, y staff ymroddedig o fewn yr Academi.

"Rydym yn falch iawn o'r graddedigion a phopeth y maent wedi'i gyflawni. Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy calonogol yw bod y myfyrwyr hyn yn dod o hyd i swyddi o fewn y diwydiant a'u bod yn eithriadol o gymwys i fwrw ati ar eu diwrnod cyntaf yn y gwaith. Dyna oedd nod yr Academi Meddalwedd Genedlaethol, ac edrychaf ymlaen at ddathlu gyda llawer iawn mwy o raddedigion yn y blynyddoedd sydd i ddod."