Ewch i’r prif gynnwys

Profiad ymarferol o’r gorffennol: Myfyrwyr yn mynd ar leoliad ledled y DU a thramor

13 Gorffennaf 2018

Excavation at Cosmeston

Mae mwy na 100 o fyfyrwyr Archaeoleg a Chadwraeth y Brifysgol bellach ar leoliad fel rhan o elfen fwyaf poblogaidd y radd.

Mae lleoliadau 4 wythnos yn cael eu cynnal bob haf ar ddiwedd Blwyddyn Un a Blwyddyn Dau, gan gynnig cyfoeth o brofiad ymarferol.

Mae myfyrwyr BA a BSc fel ei gilydd yn manteisio ar bartneriaethau hirsefydlog yr Ysgol gyda rhanddeiliaid ac ymarferwyr ym mhob cwr o Gymru a’r DU, gan wneud gwaith cloddio yn y DU a thramor neu weithio yn y meysydd rheoli treftadaeth ac archeoleg gymunedol ac arbrofol.

Yr haf hwn, mae myfyrwyr Archeoleg wedi gallu dewis eu profiad 4 wythnos, sy’n cael ei asesu, o fwy nag 20 o opsiynau gwahanol, gyda’r rhan fwyaf yn dewis gwaith cloddio. Mae’r mwyafrif wedi dewis lleoliadau cloddio dramor yng Nghreta, yr Almaen, yr Eidal, Portiwgal, Serbia a Sbaen, gyda’r niferoedd mwyaf yn cymryd rhan mewn gwaith cloddio ym Mryngaerau Lippe yng ngorllewin yr Almaen ac Idjos yn Serbia. Mae 30 ar eu ffordd i safleoedd yn y DU. Mae’r rhain yn cynnwys lleoliadau gydag Archeoleg Cymru, Amgueddfa Archeoleg Llundain (MOLA) a gwaith cloddio sy’n cael ei redeg gan ein Prifysgol ni yn safle canoloesol Cosmeston ym Mro Morgannwg.

Mae’r cyfleoedd eraill yn cynnwys profiad ymarferol o archaeoleg gymunedol, megis profiad arloesol o Archaeoleg Gymunedol gyda Guerrilla Archaeology, y gydweithfa o Gaerdydd sy’n ymrwymedig i annog y cyhoedd i ymgysylltu â’r gorffennol.

Fel myfyriwr israddedig, dewisodd Katie Faillace, yn ystod ei BSc mewn Archeoleg, gyflawni gwaith cloddio ym mryngaer Caerau yng Nghaerdydd, safle sy’n dyddio o Oes yr Haearn, wedi’i ddilyn gan leoliad mewn uned fasnachol fawr yn Amgueddfa Archeoleg Llundain.

‘Mae lleoliadau archaeoleg yr haf Prifysgol Caerdydd yn amhrisiadwy - ro’n i’n ddigon ffodus o gael gweithio yn y maes ac mewn uned fasnachol fawr, a roddodd sgiliau amrywiol i mi ar gyfer gweithio yn y maes archaeoleg yn y dyfodol, cysylltiadau amrywiol yn y diwydiant a ffrindiau newydd arbennig’ meddai Katie, sydd nawr yn astudio ei PhD.

Mae myfyrwyr Cadwraeth yn dechrau’r broses o ddatblygu rhwydweithiau proffesiynol drwy gyflawni lleoliadau mewn amgueddfeydd, tai hanesyddol a gwaith cloddio ledled y byd. Mae myfyrwyr yn manteisio ar eu lleoliadau drwy fynd â’r hyn a ddysgant i mewn i amgylcheddau gwaith go iawn, gan ennill sgiliau ychwanegol yn amrywio o ddatblygu sgiliau technegol a gweithio gyda’r cyhoedd i gefnogi cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu hamgueddfa.

Yn ei hail flwyddyn o’i BSc mewn Cadwraeth Gwrthrychau Amgueddfa, mae Emily Franks ar leoliad yn Amgueddfa Awstralia yn Sydney. ‘Mae lleoliad yn dod â phopeth rydych chi wedi’i ddysgu drwy gydol y flwyddyn ynghyd ac yn eich helpu i ddatblygu mwy o hunan-hyder, gwybodaeth a gallu’, meddai.

‘Mae pob cyflogwr yn chwilio am brofiad, ac mae lleoliad yn rhoi profiad a dealltwriaeth o’r diwydiant i chi, ac yn rhoi mantais i chi wrth chwilio am swydd.’

‘Mae lleoliadau’n elfen annatod o’r graddau Archaeoleg a Chadwraeth yng Nghaerdydd, sy’n amlwg o’n hymrwymiad i ffeindio, diogelu ac ariannu’r elfen werthfawr hon o’r rhaglen’, esbonia Dr Jacqui Mulville, y Pennaeth Archaeoleg a Chadwraeth.

Cynigir Archaeoleg yng Nghaerdydd fel BA Anrhydedd Sengl a BSC, ac ar y cyd â Hanes yr Henfyd a Hanes Canoloesol, yn llawn amser ac yn rhan amser. Mae graddau Cyd-Anrhydedd ag amrywiaeth eang o bynciau’r Dyniaethau hefyd ar gael, gyda’r rhan fwyaf yn cynnwys opsiwn o Astudio Dramor mewn amrywiaeth o leoliadau rhyngwladol.

Mae’r radd 3 blynedd Cadwraeth Gwrthrychau mewn Amgueddfeydd ac Archaeoleg (BSc) ar gael fel Anrhydedd Sengl, ac yn cynnwys opsiynau ar gyfer Astudio Dramor am flwyddyn.

Rhannu’r stori hon