Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth yn cynnig cipolwg pwysig ac amserol

12 Gorffennaf 2018

Justice

Bydd ymchwil a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd yn helpu gwneuthurwyr polisi i benderfynu ar ddyfodol y system gyfiawnder yng Nghymru.

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi sicrhau cefnogaeth gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Llywodraeth Cymru am ei phrosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth. Dan arweiniad yr Athro Richard Wyn Jones mewn cydweithrediad â Dr Huw Pritchard a Dr Robert Jones, bydd yr ymchwil yn cyfrannu at waith Comisiwn Llywodraeth Cymru ar Gyfiawnder yng Nghymru, a sefydlwyd gan y Prif Weinidog i adolygu gweithrediad system gyfiawnder y wlad.

Bydd Cyfiawnder ac Awdurdodaeth yn brosiect rhyngddisgyblaethol yn dod â gwyddonwyr gwleidyddol, arbenigwyr cyfraith gyfansoddiadol a throseddegwyr at ei gilydd i ymchwilio: gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru; y berthynas rhwng y polisïau datganoledig a heb eu datganoli; ac effaith un system gyfreithiol 'Cymru a Lloegr'.

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r Ganolfan wedi cyhoeddi ‘Carcharu yng Nghymru: Ffeil Ffeithiau’, adroddiad gan Dr Robert Jones, sy'n cyflwyno trosolwg ystadegol o gyfraddau carcharu a lleoliadau carcharorion yng Nghymru neu o Gymru. Denodd yr adroddiad ddiddordeb sylweddol yn y cyfryngau ac yn wleidyddol.  Fe'i trafodwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol a'i ddyfynnu gan ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin i ddarpariaeth carchardai.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones: "Rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyllid gan yr ESRC a Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cyfiawnder ac Awdurdodaeth. Mae Cymru mewn sefyllfa afreolaidd yn rhyngwladol gan fod ganddi weithrediaeth a deddfwriaeth ond dim awdurdodaeth gyfreithiol gysylltiedig. Mae hyn oherwydd penderfyniad llywodraethau olynol y DU i gynnal un awdurdodaeth 'Cymru a Lloegr' a system gyfiawnder gysylltiedig.

"Ond mae dyfodol y drefn hon bellach yn cael ei gwestiynu. Mae Llywodraeth Cymru a mwyafrif yn y Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi datganoli cyfiawnder a sefydlu awdurdodaeth i Gymru - barn a gefnogwyd gan y Blaid Lafur yn ei Maniffesto yn 2017. Mae hyn, yn ogystal â sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru dan gadeiryddiaeth y cyn Arglwydd Brif Ustus yr Arglwydd Thomas, yn golygu ei bod yn adeg amserol tu hwnt i fod yn cynnal yr ymchwil hwn.

"Yn ogystal ag edrych ymlaen at y cyfle i effeithio ar waith y Comisiwn a llywio'r drafodaeth gyhoeddus ehangach ar y materion pwysig hyn, fel grŵp o ymchwilwyr rydym ni'n teimlo'n llawn cyffro ynghylch natur wirioneddol ryngddisgyblaethol y prosiect. Nid yn aml y caiff gwyddonwyr gwleidyddol gyfle i gydweithio mor agos â throseddegwyr ac arbenigwyr cyfraith gyfansoddiadol. Rydym ni'n edrych ymlaen at yr her."

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.