Ewch i’r prif gynnwys

Adroddiad yn dod i’r casgliad bod rhwystrau o hyd sy’n atal ymgeiswyr posibl rhag sefyll yn etholiadau’r Cynulliad

5 Gorffennaf 2018

Senedd building

Mae angen cymryd camau i annog ystod ehangach o bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, yn ôl academyddion.

Astudiodd y tîm o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Llundain yr hyn sy’n cymell ac yn rhwystro pobl rhag ystyried sefyll fel ymgeiswyr ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae ymgyrch yn mynd rhagddi ar hyn o bryd i annog y Cynulliad i gynnig adlewyrchiad gwell o’r bobl sy'n byw yng Nghymru, gan gynnwys y rheini sydd o ystod ehangach o gefndiroedd galwedigaethol. Cynrychiolaeth wan a geir ar hyn o bryd o bobl ifanc, menywod, pobl ag anableddau, a'r rheini o gefndiroedd LGBT a BAME.

Fe wnaeth y gwaith, a gomisiynwyd gan Fwrdd Taliadau’r Cynulliad, geisio barn pobl ledled Cymru, gan gynnwys y rheini sydd wedi sefyll mewn etholiad yn flaenorol. Dros gyfnod o bum mis, fe gasglodd yr ymchwilwyr ystod eang o safbwyntiau drwy gyfrwng arolygon, cyn gofyn cwestiynau manylach mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau wyneb yn wyneb.

Yn ôl y canlyniadau, roedd 78% o’r rheini rhwng 18-24 a 55% o’r rheini dros 65 yn ystyried bod eu hoedran yn rhwystr. Dim ond 13% o’r rheini rhwng 45-54 a 15% o’r rheini rhwng 35-44 oedd yn ystyried y byddai eu hoedran yn rhwystr.

Roedd menywod yn llawer fwy tebygol o werthfawrogi cymhellion ac yn ystyried rhwystrau posibl – gan gynnwys teulu, diogelwch a llwyth gwaith – yn fwy arwyddocaol. Yn ôl y canlyniadau, byddai cwotâu amrywiaeth yn gwneud 44% o fenywod yn fwy tebygol o sefyll. Roedd rhannu swydd hefyd yn gymhelliad poblogaidd ymysg menywod, gyda 68% yn dweud y byddai’n eu gwneud yn fwy tebygol o sefyll.

Roedd cost yn rhwystr arwyddocaol ar gyfer y rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil. Dywedodd dros 65% o ymatebwyr fod y gost o sefyll fel ymgeisydd yn rhwystr y byddai angen cymorth arnynt i'w oresgyn; roedd 20.7% yn ystyried bod hynny’n rhwystr sylweddol sy’n golygu na fyddent yn sefyll. Roedd y materion hyn yn dylanwadu’n arbennig ar bobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Roedd ffactorau eraill sy’n effeithio ar bobl sy’n ystyried sefyll fel ymgeisydd yn cynnwys cymhlethdodau wrth lywio drwy weithdrefnau etholiad fel ymgeisydd plaid, a’r system etholiadol. Mae hinsawdd ymddangosiadol "wenwynig" mewn gwleidyddiaeth hefyd yn rhwystro pobl rhag sefyll.

System fentora sy’n cynnig cyfleoedd i gysgodi Aelodau o’r Cynulliad a chefnogaeth ar ôl etholiad oedd y ffordd fwyaf poblogaidd o annog ymgeiswyr posibl; dywedodd 48% y byddent yn fwy tebygol o sefyll â chyngor mentor sy’n Aelod o’r Cynulliad, gyda 27.1% yn datgan y byddent yn llawer yn fwy tebygol o sefyll pe byddai cynllun o’r fath yn bodoli. Dylid rhoi sylw arbennig i’r rheini nad oeddynt wedi llwyddo i gael eu hethol, yn ôl y canfyddiadau. Roedd 83% o fenywod a 68% o bobl ag anabledd o blaid cael cynllun mentora.

Yn ôl yr Athro Roger Awan-Scully, gwyddonydd gwleidyddol yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru: “Yr adroddiad hwn yw un o'r ymchwiliadau manylaf erioed i resymau pam y mae pobl yn teimlo na allant sefyll i fod yn ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Bydd unrhyw un sy’n ymwneud â’r broses ddemocrataidd yn adnabod y rhwystrau a nodwyd gennym, sy’n cael effaith arbennig ar y grwpiau sydd eisoes wedi’u tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth. Maent yn atal pobl dalentog rhag rhoi eu henwau ymlaen...”

“Byddai cynlluniau mentora yn rhoi profiad i ymgeiswyr posibl o’r broses wleidyddol a’r cyfle iddynt feddu ar y sgiliau, y rhwydweithiau a’r hyder sydd eu hangen i gael eu dewis fel ymgeiswyr.”

Mae’r adroddiad, Dadbacio amrywiaeth: Rhwystrau a chymhellion ar gyfer sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gwneud 11 o argymhellion, gan gynnwys:

  • Cynlluniau mentora a chysgodi er mwyn i ymgeiswyr posibl allu dysgu am rôl Aelod Cynulliad;
  • Cymryd rhan mewn ‘Wythnos Senedd Agored’ a theithiau ymgeiswyr o amgylch Cymru i roi gwybodaeth i gymunedau am sefyll fel ymgeisydd;
  • Cronfa ‘Mynediad i Wleidyddiaeth’ i’w hystyried ar y cyd â’r Comisiwn Etholiadol, y Cynulliad a Llywodraeth Cymru, gan alluogi ymgeiswyr ag anableddau – a’r rheini o grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli – i sefyll mewn etholiadau;
  • Strategaeth ymgysylltu newydd gyda’r cyhoedd a darpar ymgeiswyr, gan gynnwys ailddylunio gwefan y Bwrdd Taliadau fel bod arni gynnwys rhyngweithiol a hygyrch sy’n esbonio sut caiff ACau eu cefnogi.

Ychwanegodd yr Athro Awan-Scully: “Wrth i ni ystyried newidiadau o bwys i ddemocratiaeth Cymru, megis dyfodol y system etholiadol a maint y Cynulliad, rhaid ystyried yr argymhellion hyn fel bod ein Cynulliad yn adlewyrchu gwir amrywiaeth Cymru.”

Yn ôl y Fonesig Dawn Primarolo, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau: "Mae'r Bwrdd yn croesawu'r adroddiad ac mae’n ddiolchgar i'r awduron am gynnal yr ymchwil ar ei ran. Mae canfyddiadau wedi nodi nifer o rwystrau y gall darpar ymgeiswyr eu hwynebu wrth iddynt ystyried a ydynt am sefyll i gael eu hethol yn aelod o’r Cynulliad.

"Bydd y Bwrdd yn ystyried argymhellion yr adroddiad maes o law, a byddwn hefyd yn ceisio gweithio gyda sefydliadau eraill i fynd i'r afael â'r materion hynny a amlygir nad ydynt yn rhan o’n cylch gwaith. Drwy gydweithio er mwyn cefnogi unigolion o ystod eang o gefndiroedd i sefyll fel ymgeiswyr ar gyfer etholiad y Cynulliad, mae’n anochel y bydd hyn yn cryfhau gallu'r sefydliad i ddarparu ar gyfer pobl a chymunedau Cymru."

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.