Ewch i’r prif gynnwys

Menywod ysbrydoledig ar restr fer ar gyfer gwobrau

5 Mehefin 2018

Womeninspire

Mae tri aelod o staff ysbrydoledig ym Mhrifysgol Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau sy'n dathlu llwyddiannau menywod.

Cynhelir gwobrau Womenspire 18, a drefnwyd gan yr elusen cydraddoldeb rhwng y rhywiau Chwarae Teg, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Mawrth 5 Mehefin.

Dyma'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol:

  • Dr Mhairi McVicar, Ysgol Pensaernïaeth Cymru, categori Ymgyrchydd Cymunedol
  • Dr Kelly Morgan, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, categori Chwaraeon
  • Dr Kate Brain, Ysgol Meddygaeth, Gwobr Dewis y Bobl

Dr McVicar, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, yw arweinydd prosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd yn Grangetown.

Mae'r Porth Cymunedol, sydd wedi ennill gwobrau, yn helpu i wneud Grangetown yn lle gwell fyth i fyw drwy weithio law yn llaw â'r trigolion a grwpiau cymunedol i gefnogi amrywiaeth o brosiectau cymunedol.

Mae Dr Kelly Morgan yn gymrawd ymchwil ar gyfer DECIPHer, y Ganolfan ar gyfer Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar brosiectau ymarfer corff.

Mae hi hefyd yn chwaraewr pêl rwyd o fri – hi oedd is-gapten Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia yn ddiweddar, ac roedd hi'n cynrychioli'r Dreigiau Celtaidd yn Uwch-gynghrair Pêl-rwyd Vitality.

Mae Dr Brain ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl, rhan o ymgyrch Menywod Rhagorol Cymru gan Chwarae Teg, sy'n cynnwys menywod rhagorol o'r gorffennol a'r presennol.

Mae'r seicolegydd iechyd Dr Brain yn arwain rhaglen ymchwil ar gyfer sgrinio ac atal canser, a rhoi diagnosis cynnar.

Nod gwobrau Womenspsire yw arddangos llwyddiannau menywod ledled Cymru.