Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn nodi Diwrnod Dyfrgwn y Byd

30 Mai 2018

Two Eurasian otters in wood
Llun gan David Bailey

Gallwch wylio’r broses o ddyrannu dyfrgi fel pe bai’n fyw ar Ddiwrnod Dyfrgwn y Byd, gan gynnig mewnwelediad ichi i ymchwil Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, sy’n ceisio diogelu a gwarchod dyfrgwn ledled y DU.

Mae’r Prosiect Dyfrgwn yn gynllun sy’n casglu dyfrgwn a ganfuwyd yn farw yng Nghymru, Lloegr, yr a’r Alban ar gyfer archwiliad post-mortem i ymchwilio i halogion, clefydau a bioleg poblogaeth. I ddathlu Diwrnod y Ddyfrgi y Gronfa Rhyngwladol Goroesi Dyfrgwn, mae tîm y Prosiect Dyfrgwn wedi ffilmio un o’u dyraniadau dyfrgi arferol, wrth archwilio i farwolaeth dyfrgi ac esbonio sut y gellir defnyddio’r wybodaeth i warchod y rhywogaeth.

Dywedodd Dr Elizabeth Chadwick, Pennaeth Prosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn dyrannu dyfrgwn marw o bob cwr o’r DU i ymchwilio i’w marwolaethau er mwyn helpu i ddiogelu yr anifail poblogaidd hwn o wledydd Prydain.

“Cawn ein rhybuddio pan fydd dyfrgwn marw yn cael eu canfod, ac mae hyn yn caniatáu i ni gasglu’r corff er mwyn eu defnyddio yn ein gwaith. Mae’r rhan fwyaf o ddyfrgwn a gawn ni wedi marw mewn damweiniau traffig ar y ffyrdd, ac mae ein hymchwil yn cael ei ddefnyddio i helpu cadwraeth y dyfrgwn, gan gynnwys helpu lleihau nifer y damweiniau traffig ar y ffyrdd yn y dyfodol.

Ar gyfer Diwrnod Dyfrgwn y Byd, roeddem ni am agor y drysau i’n labordy trwy ddefnyddio fideo, gan ddangos sut y mae archwilio cyrff dyfrgwn sydd wedi marw yn chwarae rôl bwysig yn y maes hwn o ymchwil biolegol. Drwy archwilio dyfrgwn marw, gallwn gasglu gwybodaeth am achos eu marwolaethau a sut y gellir atal hyn yn y dyfodol.

“Gallwn edrych ar lefelau’r llygryddion yn eu meinweoedd, sy’n ddangosydd defnyddiol o lefelau’r llygredd maent yn dod i gysylltiad â hwy yn eu hamgylchedd.

“Trwy ddyrannu dyfrgwn marw o ledled y DU, gallwn gasglu data am barasitiaid, deiet, oedran a bridio.

“Gallwn hefyd ddefnyddio’r wybodaeth i roi gwybod i ymchwilwyr am sut y mae dyfrgwn yn cyfathrebu drwy arogl.

“Mae ein ffilm yn rhoi’r cyfle i chi gael gwell ddealltwriaeth o’n hymchwil, yn ogystal â chynnig cyfle dysgu i’n myfyrwyr i’w helpu i ddatblygu’n wyddonwyr y dyfodol.”

Cyflwynwyd y fideo gan Dr Rhys Jones, cyflwynydd teledu a darlithydd o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd Rhys: “Mae’n bosibl y bydd y fideo o’r dyrannu’n eithaf graffig i wylwyr, ond mae’n gyfle unigryw i weld beth sy’n digwydd ym Mhrosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd, sy’n gweithio i ddiogelu’r anifail carismatig hwn.

“Trwy ddyrannu dyfrgwn, gallwn gael gwybodaeth am sut mae’r anifeiliaid hyn yn marw, ac atal marwolaethau yn y dyfodol.

“Mae nifer o ffyrdd y gall pobl helpu’r Prosiect Dyfrgwn.

Os ydych yn dod o hyd i ddyfrgi wedi marw, gallwch gysylltu â’r prosiect er mwyn eu galluogi i’w ddefnyddio yn rhan o’u gwaith ymchwil.

“Fel elusen, rydym yn dibynnu ar gymorth i barhau â’n gwaith, a gallwn ddefnyddio unrhyw roddion i helpu i warchod dyfrgwn Prydain. Bydd rhodd o £30 yn unig yn ariannu’r gwaith o gludo corff un dyfrgi i’r Prosiect Dyfrgwn.

“Mae croeso i’n myfyrwyr israddedig sydd â diddordeb mewn bioleg dyfrgwn gysylltu â ni i drafod cwblhau gradd Meistr neu Ddoethuriaeth gyda’r Prosiect Dyfrgwn, a datblygu i fod y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr dyfrgwn.”

Rhannu’r stori hon