Ewch i’r prif gynnwys

Arloeswr y Flwyddyn

22 Mai 2018

Sabrina Cohen-Hatton and Rob Honey

Mae Dr Sabrina Cohen-Hatton a’r Athro Rob Honey o Brifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr arloeswr y flwyddyn BBSRC.

Mae’r gwobrau hyn, sy’n dathlu ymchwil ragorol sydd wedi cael effaith amlwg, yn cynnwys nifer o gategorïau, gan gynnwys effaith fasnachol, effaith gymdeithasol, effaith ryngwladol ac effaith gyrfa gynnar.

Roedd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol wedi cyflawni amrywiaeth o wahanol waith ymchwil, gan gynnwys; niwrowyddoniaeth ymddygiadol a helpodd i lunio canllawiau newydd ar gyfer gwasanaethau brys, datblygu ffwngladdwyr newydd i fynd i'r afael ag ymwrthedd ffwngaidd ac adeiladu gwytnwch yn y gadwyn gyflenwi fanila i helpu i warchod hoff flas y byd.

Roedd yr enillwyr cyffredinol, Dr Sabrina Cohen-Hatton a’r Athro Rob Honey, o’r Ysgol Seicoleg, yn teimlo’n freintiedig ac wrth eu bodd eu bod wedi llwyddo i ennill y wobr am effaith gymdeithasol a hefyd wobr yr enillydd cyffredinol.

"Rydym wrth ein bodd bod ansawdd ac effaith ein gwyddoniaeth wedi cael cydnabyddiaeth ar ffurf gwobr mor uchel ei bri. Byddwn yn parhau â'n rhaglen o waith ymchwil, gan ddefnyddio gwyddoniaeth yr ymennydd i gadw ein hymladdwyr yn ddiogel fel eu bod hwythau’n gallu eich cadw chi’n ddiogel”,  meddai Dr Sabrina Cohen-Hatton a'r Athro Rob Honey.

Dywedodd yr Athro Syr Mark Walport, Prif Weithredwr UKRI: "Hoffwn longyfarch Dr Sabrina Cohen-Hatton a’r Athro Rob Honey a phawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Arloeswr y Flwyddyn BBSRC. Mae'r gwobrwyon yn dathlu ein cymuned ymchwil ac arloesi ddawnus a bywiog a’i hawydd i sicrhau bod gwyddoniaeth ysbrydoledig yn gwella bywydau.

"Mae Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig yn cefnogi’r Deyrnas Unedig fel economi seiliedig ar wybodaeth sy'n arwain y byd drwy weithio ar y cyd ag ymchwilwyr, arloeswyr ac entrepreneuriaid i ddatblygu’r syniadau a’r technolegau mwyaf cyffrous a sicrhau eu bod yn dwyn ffrwyth."

Ychwanegodd yr Athro Melanie Welham, Cadeirydd Gweithredol BBSRC: "Unwaith eto roedd gwobrau Arloeswr y Flwyddyn yn gyfle perffaith i ymchwilwyr gael y gydnabyddiaeth y maen nhw a’u timau yn bendant yn ei haeddu. Maent yn glod i ymchwil yn y Deyrnas Unedig ac rwyf wrth fy modd bod BBSRC oddi mewn i UKRI yn parhau i’w cefnogi a’u hannog yn eu gwaith. Rwy’n gobeithio y bydd eu llwyddiant yn eu galluogi i fwyafu manteision eu gwaith, ac y byddant yn parhau i ddefnyddio’u doniau i arloesi.”

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.