Ewch i’r prif gynnwys

Gwella cyfathrebu ynghylch canllawiau ar gyfer yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd

17 Mai 2018

Drinking wine

Gallai cyngor ynghylch yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd gael ei gyfleu'n fwy effeithiol i rieni a gweithwyr iechyd, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Ers 2016, mae canllawiau gan Brif Swyddogion Meddygol y DU yn argymell y dylai menywod sy'n bwriadu bod yn feichiog neu sy'n feichiog roi'r gorau i yfed alcohol yn gyfan gwbl.

Fe wnaeth astudiaeth rhanddeiliaid gan Dr Rachel Brown a Heather Trickey o DECIPHer, (Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd) ym Mhrifysgol Caerdydd, ystyried y gwahanol brofiadau o'r canllawiau hyn gan wahanol grwpiau, a sut maent yn eu cyfathrebu. Gofynnwyd i famau, athrawon cyn geni, bydwragedd a llunwyr polisïau am eu barn. Yn dilyn y gwaith hwn, mae'r ymchwilwyr wedi awgrymu ffyrdd o wella cyfathrebu cyngor.

Dywedodd Trickey: "Mae tystiolaeth dda i ddangos bod yfed llawer yn ystod beichiogrwydd yn gallu bod yn niweidiol. Mae hefyd effaith 'dos-ymateb' gyda mwy o alcohol yn arwain at ganlyniadau negyddol, ac nid oedd modd i Brif Swyddogion Meddygol benderfynu ar 'lefel ddiogel' ar ôl comisiynu adolygiad cynhwysfawr o'r dystiolaeth.

"Fodd bynnag, prin yw'r dystiolaeth i ddangos bod yfed ychydig o alcohol yn ystod beichiogrwydd (llai na 1-2 uned yr wythnos) yn achosi niwed. Daeth y Prif Swyddogion Meddygol i'r casgliad nad yw diffyg tystiolaeth yr un peth â dim niwed. Penderfynwyd, felly, mabwysiadu ymagwedd 'gwell diogel nac edifar' (rhagofalus) drwy roi neges syml 'Peidiwch ag Yfed' er mwyn helpu menywod i osgoi unrhyw risg.

Ychwanegodd Dr Brown: "Gan ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, y dewis mwyaf diogel yn sicr yw osgoi yfed alcohol yn gyfan gwbl.  Ond mae ein hymchwil hefyd yn tynnu sylw at y posibilrwydd o sgîl-effeithiau negyddol anfwriadol o ganlyniad i'r cyngor i beidio ag yfed. Mae'r rhain yn cynnwys peri pryder i fenywod a yfodd alcohol cyn gwybod eu bod yn feichiog, profiadau o eraill yn codi cywilydd arnynt am ddewis yfed, a phrofiadau o ddieithriaid yn beirniadu eu penderfyniadau. Dylai'r canllawiau fod yna i gynghori a chefnogi mamau sy'n disgwyl babi mewn modd cadarnhaol."

Mae Brown a Trickey yn credu bod angen i strategaethau cyfathrebu alinio ag agenda fwy eang i wella dealltwriaeth y cyhoedd o'r dystiolaeth, a gallent wneud rhagor i fod yn berthnasol i brofiadau menywod o gynllunio beichiogrwydd, a'r ffaith bod yfed yn gymdeithasol yn rhan arferol o fywyd llawer o fenywod. Yn hytrach na thargedu negeseuon i famau unigol, maen nhw'n awgrymu ymagwedd sy'n ystyried rôl partneriaid, aelodau teulu, a ffrindiau i gadarnhau a chefnogi penderfyniadau mamau, er enghraifft, drwy gytuno i beidio ag yfed hefyd.

Nod yr ymchwilwyr yw ystyried ffyrdd mwy effeithiol o gyfathrebu'r canllawiau ynglŷn ag yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd.

Mae eu canfyddiadau ar gael yma: http://alcoholresearchuk.org/downloads/finalReports/FinalReport_0151.1.pdf

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.