Ewch i’r prif gynnwys

O Newyddion Ffug a'r Cyfryngau Cymdeithasol i Awtomeiddio a Gemau

15 Mai 2018

Using mobile phone

Mae gŵyl athroniaeth a drefnir gan ysgolheigion Prifysgol Caerdydd yn mynd i'r afael â moeseg ac effaith technoleg ar y gymdeithas.

Yn nigwyddiad ‘Peiriannau: Athroniaeth Technoleg Caerdydd' bydd academyddion o Gaerdydd a thu hwnt yn rhannu'r syniadau diweddaraf ac yn annog trafodaethau yn Theatr Sherman ar 15 Mai.

Bydd y rhai sy'n mynd i'r ŵyl yn clywed gan dros 15 o arbenigwyr mewn darlithoedd byr a saith sesiwn grŵp am 60 munud, ac yn trafod pynciau amrywiol mewn meysydd sy'n cynnwys athroniaeth a busnes, neu gyfrifiadureg a'r gyfraith.

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn ystyried amrywiaeth o gwestiynau cyfoes, gan gynnwys:

  • A yw aildrydar yn fath o gefnogaeth?
  • A yw rhannu ar Facebook yn fath o dystiolaeth?
  • A yw gemau fideo yn anfoesol?
  • A all peiriannau fod yn ymwybodol? A ydyn nhw'n gallu teimlo poen? A oes gennym rwymedigaethau moesegol atyn nhw?
  • A ydym yn gallu credu mewn 'siarad heb ystyried y gwirionedd'?
  • A allai cyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru ddatrys y ffaith bod y farchnad gyflogaeth yn newid yn ddramatig mewn un genhedlaeth drwy awtomeiddio?

Drwy gydol y prynhawn bydd trafodaethau grŵp manwl yn edrych yn fwy manwl ar y theorïau diweddaraf, ac yn arddangos sut y gall athroniaeth ein helpu i ddeall ein byd gyda'r themâu canlynol:

  • Awtomeiddio – Gwaith a'r Incwm Sylfaenol
  • Chwarae gemau fideo? Na, rwy'n gwneud athroniaeth
  • Bomiau Atom a Ffonau Clyfar: Moeseg Fyd-eang yn yr Oes Ddigidol
  • Moeseg Gwella Technoleg
  • Technoleg mewn Naratifau
  • Ymwybod Artiffisial
  • Newyddion Ffug, Dibynadwyedd a Didueddrwydd
  • Unigolrwydd Technolegol: Nefoedd neu Uffern?

Bydd y dydd yn cloi gyda darlith arbennig, Newyddion Ffug a Gwleidyddiaeth Gwirionedd, gan yr athronydd nodedig yr Athro Michael Lynch, o Brifysgol Connecticut am 7pm.

Dywedodd y trefnwyr o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, Dr Mona Simion a Dr Orestis Palermos: "Mae technolegau newydd yn ymddangos yn hynod gyflym heddiw, ac mae'n bryd i ni gymryd cam yn ôl a meddwl yn feirniadol am eu heffaith ar ein cymdeithas, ein hunaniaeth a'n lles. Nawr, yn fwy nag erioed, mae ymgysylltu'n athronyddol â phynciau o'r math yn gallu cael effaith sylweddol ar ein penderfyniadau unigol a gwleidyddol.

"Yr ŵyl hon am bwnc technoleg fydd y cyntaf mewn cyfres a drefnir gan Uned Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, gyda'r nod o gyflwyno'r trafodaethau hynod ddiddorol hyn i'r cyhoedd.."

Peiriannau: Cynhelir Gŵyl Athroniaeth Caerdydd: Technoleg ddydd Mawrth 15 Mai o 4pm ymlaen yn Theatr Sherman (tocynnau £4/unigolyn; £10/teulu; myfyriwr/£1).

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cyfuno'r safonuchwaf o ddysgu gydag ymagweddau unigryw at ein diddordebau craidd ym meysydd iaith, cyfathrebu, llenyddiaeth, damcaniaeth feirniadol ac athroniaeth.