Ewch i’r prif gynnwys

Tracio’r llewpard cymylog

10 Mai 2018

Clouded leopard

Mae coleri lloeren wedi rhoi cipolwg newydd ar symudiadau cyfrin llewpard cymylog Sunda i ymchwilwyr yn Borneo, gan helpu i sicrhau dyfodol y rhywogaeth fregus hon.

Mae'r tîm rhyngwladol, sy’n cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Chanolfan Maes Danau Girang, wedi tagio pedwar o'r llewpardiaid gyda'r coleri lloeren. Maent wedi ymchwilio i ba ffactorau sy'n dylanwadu ar eu symudiadau drwy'r dirwedd, ac ystyried sut y gallai newidiadau yn y dirwedd yn y dyfodol effeithio arnynt.

Dywedodd Dr Andre Hearn, o Uned Ymchwil Cadwraeth Bywyd Gwyllt Prifysgol Rhydychen: "Gwelsom fod canopi'r goedwig yn hwyluso symudiadau'r cathod hyn drwy'r dirwedd, ond bod ardaloedd oedd newydd eu clirio neu blanhigfeydd palmwydd olew tangynhyrchiol gyda llifogydd yn tueddu i atal eu symudiadau.

"Mae ein hastudiaeth ni'n cynnig y dystiolaeth gyntaf fod gorchudd y goedwig yn hanfodol i gynnal cysylltedd poblogaethau’r llewpard cymylog, ac yn pwysleisio bod diogelu'r ardaloedd helaeth o goedwigoedd preifat yn Kinabatangan, y mae llawer ohonynt wedi'u neilltuo i'w trosi'n blanhigfeydd, yn hanfodol iddynt gael goroesi yn y rhanbarth."

Drwy dracio'r ysglyfaethwr anodd ei ganfod, nod yr ymchwil cydweithredol oedd dylanwadu ar bolisïau i helpu gyda chadwraeth llewpard cymylog Sunda.

Yn ôl Dr Benoit Goossens, o Brifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang: "Dangosodd ein hymchwil y byddai trosi planhigfeydd tangynhyrchiol sy'n dioddef llifogydd mynych yn goedwig yn hynod o fuddiol i lewpard cymylog Sunda, gydag effaith fach iawn ar y diwydiant planhigfeydd.

"Rhagwelom ni y gallai ailgoedwigo coridorau coedwigol cul fod yn offeryn cadwraeth pwysig a chost effeithiol i'r rhywogaeth hon.

"Caiff y canfyddiadau hyn eu cynnwys yng Nghynllun Gweithredu'r Wladwriaeth ar gyfer llewpard cymylog Sunda sy'n cael ei ddrafftio ar hyn o bryd ac a gaiff ei lansio ym mis Medi 2018."

Dywedodd Dr Samuel Cushman, Cyfarwyddwr Canolfan Gwasanaeth Coedwigol USDA er Gwyddor Tirwedd: "Cynhyrchodd y dadansoddiad ganfyddiad clir iawn bod y llewpard cymylog yn amharod iawn i symud allan o orchudd y goedwig ac mae'r dadansoddiadau senario yn cynnig arweiniad clir a defnyddiol i reolwyr ynghylch costau a manteision cynllunio cadwraeth amgen yn rhanbarth Kinabatangan."

Rhannu’r stori hon

Sut mae cysylltu â'r ganolfan, ein cyfeiriad post a'n rhif ffôn.