Ewch i’r prif gynnwys

Coedwigoedd diraddiedig yn hanfodol ar gyfer cadwraeth eliffantod

16 Ebrill 2018

Bornean Elephants

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd, Canolfan Maes Danau Girang, Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Sefydliad Carnegie ar gyfer Gwyddoniaeth wedi darganfod bod ardaloedd o goedwigoedd diraddiedig a gliriwyd gynt drwy gymynu neu amaethyddiaeth yn gynefinoedd delfrydol ar gyfer eliffantod yn Sabah.

Mae’r gortho isel a geir mewn ardaloedd o goedwig ddiraddedig yn cynnig amgylchedd delfrydol i eliffantod Borneo, er gwaethaf cael ei ystyried fel coedwig o ansawdd isel.

Dywedodd Luke Evans, ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Sefydliad Carnegie ar gyfer Gwyddoniaeth a Chanolfan Maes Danau Girang: "Mae ein hastudiaeth yn dangos mai coedwigoedd gydag uchder gortho cymedrig o 13m yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu defnyddio gan eliffantod Borneo.

“Mae’r coedwigoedd hyn yn gyson â thirweddau diraddedig neu’r rheiny sy’n adfer o gymynu neu glirio yn y gorffennol.”

Olrheiniodd yr ymchwil gydweithredol symudiadau’r eliffantod ym Morneo drwy goleri GPS a chan ddefnyddio delweddu laser o’r awyr i ddadansoddi coedwigoedd Sabah, gan roi map tri dimensiwn o uchder gortho’r goedwig law a’i strwythur.

Traciwyd naw eliffant ar hugain, gan ddarparu data eglur iawn wedi eu lledaenu ar draws sawl blwyddyn. Rhoddodd hyn syniad newydd, manwl i’r ymchwil o ddewisiadau cynefin yr eliffantod.

Dywedodd Greg Asner, Arsyllfa Awyr Carnegie a Sefydliad Carnegie ar gyfer Gwyddoniaeth:  "Mae’n mapio o goedwigoedd Sabah yn unigryw am ei fod yn darparu gwybodaeth ofodol fanwl a thra-chywir ynghylch strwythur y goedwig.

“Ynghyd â’r data GPS ar gyfer yr eliffantod, daeth y cysylltiad rhwng gorthoeon cymharol isel eu llenwad a chynefinoedd eliffantod i’r amlwg mewn ffyrdd a oedd yn anhysbys yn flaenorol.”

Mae ardaloedd o goedwig â gorthoeon is yn debygol o gael eu targedu ar gyfer eu trosi’n ardaloedd ar gyfer amaethyddiaeth, ac mae’r ymchwil newydd yn amlygu fel y gallai hyn gael canlyniadau echrydus ar gyfer cadwraeth eliffantod ym Morneo.

Wedi’i ariannu gan Ymddiriedolaeth y Goedwig Law ac yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Adran Coedwigaeth Sabah, SEARRP, Sefydliad Carnegie ar gyfer Gwyddoniaeth, Ymddiriedolaeth PACOS a Menter BC, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymdrech barhaus i gynyddu’r ardaloedd gwarchodedig i 30% o arwynebedd tir Sabah.

Yn ôl Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang a Phrifysgol Caerdydd: "Y perygl yw y gallai cyfran fawr o’r cynefinoedd coedwig gortho is fod yn ddeniadol i’w trosi at ddefnydd amaethyddiaeth raddfa fawr cyn y sylweddolir eu pwysigrwydd.

"Y gobaith yw y bydd yr astudiaeth hon yn atgyfnerthu pwysigrwydd diogelu cynefinoedd yr ystyrir eu bod yn ansawdd-isel, yn hytrach na dim ond coedwigoedd hŷn, carbon uchel.”

Rhannu’r stori hon

The centre is a collaborative research and training facility based in Sabah, Malaysia.