Ewch i’r prif gynnwys

Mynd i'r afael â gordewdra

24 Mehefin 2015

Prof Kevin Morgan

Mae cost clefydau sy'n gysylltiedig â deiet yn bygwth dyfodol y GIG oni bai bod Cymru'n dilyn esiampl yr Alban wrth sicrhau bod bwyd da ar gael i bawb, yn ôl arbenigwr yn y Brifysgol ar fwyd cynaliadwy

Mae Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygiad yn yr Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth, yn dadlau y gallai gordewdra lethu'r gwasanaeth iechyd oni eir i'r afael â'r lefelau cynyddol o ordewdra ymhlith plant yng Nghymru.

Mae'n cyflwyno'r ddadl fel rhan o lwyfan i arbenigwyr blaenllaw gyflwyno syniadau ymarferol ar gyfer llunwyr polisi yng Nghymru.

Mae cyfres Papurau'r Senedd yn bartneriaeth rhwng y felin drafod annibynnol, y Sefydliad Materion Cymreig (IWA), a Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, y Fonesig Rosemary Butler.

Dywedodd yr Athro Morgan, Deon Ymgysylltu'r Brifysgol: "Mae defnyddwyr Prydain wedi gorfod dioddef cymaint o argyfyngau o ran bwyd – o glwy'r traed a'r genau yn 2001 i sgandal cig ceffyl 2013. Mae'n bosibl nad oes dim yn ein synnu mwyach am y diwydiant bwyd.

"Ond yr hyn sy'n peri'r syndod mwyaf yw yr ystyrir bod oddeutu 50 gwaith yn fwy o achosion o salwch oherwydd deiet nad yw'n iach na salwch oherwydd clefydau a gludir gan fwyd, sef canfyddiad sy'n codi cwestiynau mawr ynghylch natur ein diwydiant bwyd."

Yn nhrydydd Papur Senedd IWA, Good Food for All, mae'r Athro Morgan yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydweithio â mudiadau cymdeithas sifil a busnesau gwybodus i "drechu pŵer aruthrol y diwydiant bwyd sothach, sef ffynhonnell sylfaenol ein hamgylchedd obesogenig".

Mae'n nodi sut mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud ymdrech sylweddol i hyrwyddo Marc Arlwyo'r Alban, Food for Life, mewn ysgolion, gweithleoedd, cartrefi gofal, canolfannau hamdden ac atyniadau i ymwelwyr.

Mae gan yr Alban gynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y bobl sy'n dewis bwyta bwyd da, a'r nod yw gwella iechyd y cyhoedd a rhoi hwb i ddiwydiant bwyd yr Alban.

Dywedodd yr Athro Morgan: "Gan fod Llywodraeth Cymru yn rhannu'r nodau hyn, nid oes unrhyw reswm pam na allai efelychu'r Alban a hyrwyddo bwyd da i bawb.

"Tra gallai gweinidogion ddweud eu bod eisoes yn cefnogi egwyddor bwyd da i bawb, y pwynt yw nad oes dim yn dweud mwy na'r drwydded Food for Life, sy'n rhoi'r dystiolaeth ddiymwad bod cyrff cyhoeddus nid yn unig yn sôn am werthoedd, ond yn eu harfer hefyd - y gwahaniaeth rhwng bwriadau da ac arfer dda."

Mae'n nodi cynllun tri phwynt i awduron maniffesto eu hystyried:

  • Tîm arbennig o ddwsin o arbenigwyr caffael bwyd i'w sefydlu'n ganolog i helpu cyrff sector cyhoeddus ledled Cymru i ddefnyddio pŵer prynu i sicrhau bwyd da i bawb mewn lleoliadau cyhoeddus
  • Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru efelychu penderfyniad Llywodraeth yr Alban i ddod yn Genedl Bwyd Da drwy arwain o'r blaen a mabwysiadu model y Marc Arlwyo Food for Life yn ei gweithgareddau arlwyo ei hun, a hyrwyddo'r model i bobl eraill hefyd
  • Treialu'r safonau Bwyd am Oes, cyn eu cyflwyno mewn ysgolion drwy Rwydwaith Cymru o Gynlluniau Ysgolion Iach.

Dywedodd Lee Waters, Cyfarwyddwr IWA, bod Papur Senedd yr Athro Morgan "yn ddarn o waith pwysig ac angerddol sy'n seiliedig ar dystiolaeth".

"Drwy gymharu â gweithgarwch Llywodraeth yr Alban, mae'r Athro Morgan yn herio pawb i sicrhau bwyd da i bawb," dywedodd.

Mae'r papur yn cael ei lansio yn ystafell briffio'r cyfryngau yn y Senedd ar 24 Mehefin, lle bydd yr Athro Morgan yn trafod ei gynigion gyda phanel.