Syniadau’r myfyrwyr yn tanio gwobrau SPARK
12 Ebrill 2018
Mae myfyrwyr a’u syniadau busnes arbennig yn dathlu ennill yng Ngwobrau SPARK cyntaf Prifysgol Caerdydd.
Roedd y noson wobrwyo yn arddangos enghreifftiau o arloesedd gan gynnwys cynwysyddion storio bwyd cywasgedig, technoleg arbed ynni i leihau tlodi tanwydd mewn cartrefi, a system tocynnau ar-lein ar gyfer clybiau pêl-droed i fynd i'r afael â gwerthiant tocynnau ar y farchnad ddu.
Roedd y Gwobrau yn gyfle i fyfyrwyr a chynfyfyrwyr gystadlu am werth £20,000 o arian parod a chefnogaeth. Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Fenter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd, a Stifyn Parry oedd y cyflwynydd ar y noson.
Cyflwynodd S3 Advertising £3,000 a phecyn ymgynghori gan fyd diwydiant i CAUKIN, grŵp dylunio dan arweiniad myfyrwyr sy’n ymchwilio, dylunio ac adeiladu prosiectau adeiladu cymdeithasol bychain yn rhanbarthau de-ddwyrain Asia a'r Cefnfor Tawel yn bennaf.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i fod wedi ennill Menter eto,” meddai Joshua Peasley, o CAUKIN. Mae gwaith Menter Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn rhoi hwb gwirioneddol i’r busnes ac rydym yn annog yr holl fyfyrwyr i fynd ar drywydd eu syniadau gyda’r tîm. Bydd yr arian yn mynd tuag at hyfforddi mwy o aelodau’r tîm er mwyn datblygu eu sgiliau adeiladu ymhellach fel y gallwn helpu mwy o gymunedau dramor."
Enillodd Samuel Stainton a’i dîm a’u cwmni ‘Tŷ Ni’ wobr o £2,000 am gynllun busnes gwych sy'n ceisio lleihau tlodi tanwydd yn y DU. Drwy ddarparu technoleg arbed ynni er mwyn defnyddio llai o ynni, mae cangen gymdeithasol Tŷ Ni yn gosod blychau am bris gostyngol mewn tai a ystyrir yn 'dlawd o ran tanwydd.' Mae'r fenter wedi ei threialu'n llwyddiannus yn ardal Grangetown, Caerdydd.
Meddai Sam: "Mae ennill cysyniad SPARK yn gyfle anhygoel i mi a Tŷ Ni. Mae wedi cadarnhau’r ffaith fod potensial i’n prosiect. Caiff yr arian ei ddefnyddio i brynu stoc a allai ddod yn rhan o’n cynnyrch a’i ddefnyddio i ddylunio’r côd newydd ar gyfer deall ynni.”
Cyflwynwyd Gwobr Entrepreneur y Dyfodol, a noddir gan Sefydliad Alactrity, i Ommlayla Gilani, a enillodd arhosiad i ddau yng ngwesty Celtic Manor. Mae Ommelyla yn sefydlu ei chwmni VFX ei hun, sy'n arbenigo mewn ffilmio fideos a graffigwaith symudol.
Enillodd y myfyriwr Paddy Gardner wobr Gwneud Gwahaniaeth am ei waith gydag Enactus Caerdydd i roi tystysgrifau achrededig o Brifysgol Caerdydd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches o Gymru ac am ehangu'r tîm i gynnwys prosiectau sy’n ymwneud â gwastraff bwyd gyda’u cwmni Coffee Candle Company.
Cyflwynwyd gwobr Cynfyfyriwr Entrepreneuraidd i George Pearce a sefydlodd IAMP Media, sef ymgynghorwyr arbenigol ar gyfer datblygu’r we. Pum mlynedd ers graddio yn y Brifysgol, mae George bellach yn cyflogi 12 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn a dau fusnes cynaliadwy sy’n gwneud elw.
Yn ôl Sean Hoare, Rheolwr Dros Dro Menter Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: "Mae ein gwobrau SPARK cyntaf erioed wedi helpu i arddangos amrediad a dyfnder y syniadau a ddatblygwyd gan ein myfyrwyr entrepreneuraidd dawnus. Nid yn unig y maent yn helpu i adeiladu busnesau masnachol, maent hefyd yn ymdrechu i fynd i'r afael â materion cymdeithasol yng Nghymru a thramor."
Noddwyd SPARK 2018 gan Brifysgolion Santander, S3 Advertising, TramshedTech a Paperclip.