Ewch i’r prif gynnwys

Technoleg 3D yn achub seren chwaraeon rhyngwladol

11 Ebrill 2018

Dan-Biggar-Kicking-Tee

Pan adawyd ti cicio ffyddlon Dan Biggar mewn darnau ar ôl 15 mlynedd o wasanaeth, roedd angen dybryd ar un o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru i ddod o hyd i un yn ei le.

Fodd bynnag, roedd dod o hyd i rywbeth oedd yn edrych ac yn teimlo fel yr un yr oedd wedi’i ddefnyddio ers iddo ddechrau chwarae i dîm bechgyn ysgol Gorseinon ac Abertawe pan oedd yn 14 mlwydd oed, yn dalcen caled.

Yn ffodus, yn sgîl partneriaeth rhwng Undeb Rygbi Cymru (URC) a Phrifysgol Caerdydd, crëwyd un yn union yr un fath gan ddefnyddio technoleg sganio ac argraffu 3D modern.

Yr Athro David Marhsall a arweiniodd y fenter. Mae’r Athro Marshall yn arbenigwr mewn gweledigaeth gyfrifiadurol yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg y Brifysgol. Mae’n gweithio’n agos gyda Phennaeth Dadansoddi Perfformiad URC ar feddalwedd dadansoddi fideo o gemau.

Yn ôl yr Athro Marshall, “dechreuodd Rhodri [Pennaeth Dadansoddi Perfformiad URC] a minnau gasglu syniadau dros goffi, ac esgor ar y syniad o greu atgynhyrchiad union o’r ti cicio yr oedd Dan yn ei ddefnyddio drwy gyfuniad o sganio ac argraffu 3D yn y Brifysgol”.

Ochr yn ochr â myfyriwr PhD David Williams, defnyddiodd yr Athro Marshall sganiwr 3D Artec Space Spider i gymryd llu o luniau o’r ti cicio a ddefnyddiwyd gan Dan, o amryw o onglau.

Gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol, cafodd y delweddau, wedyn, eu glanhau a’u pwytho at ei gilydd i ffurfio cynrychiolaeth gyfrifiadurol gyflawn o’r ti ar gyfer cicio.

Anfonwyd y ddelwedd hon wedyn at Dr Peter Theobald, o’r Ysgol Peirianneg oedd, ynghyd â’i fyfyriwr PhD Benjamin Hanna, yn gallu creu atgynhyrchiad o’r ti cicio drwy ddefnyddio argraffydd 3D.

Mae'r argraffydd 3D yn gweithio drwy adeiladu gwrthrych o'r gwaelod i fyny, gan osod haenau o ddeunyddiau mewn ffordd hynod drefnus a mecanyddol, hyd nes y crëir y gwrthrych terfynol. O ganlyniad i'r broses haenu hon, a’r ffaith nad oes angen rheolaeth ddynol ar ei chyfer, gall argraffydd 3D gynhyrchu strwythurau cymhleth iawn.

Cafodd y ti cicio ei greu o ddeunydd polyẅrethan thermpoplastig ar sail ffilament o’r enw ‘Ninjaflex’ ac fe gymerodd oddeutu 72 awr i’w argraffu’n llawn.

Mae Dr Theobald wedi cydweithio â nifer o sefydliadau chwaraeon yn y gorffennol yn benodol ar brosiectau sy'n ceisio ddatblygu deunyddiau i leihau anafiadau i'r pen mewn chwaraeon.

Mae tîm y Brifysgol bellach wedi creu sawl ti cicio i Dan, ac mae wedi eu defnyddio wrth chwarae i Cymru, y Gweilch a’r Llewod.

“Dydw i ddim yn arbennig o sentimental, mae’n ymwneud yn fwy â threfn, arfer a theimlad cyfarwydd. Pryd bynnag yr roeddwn yn defnyddio ti cicio arall, nid oedd yn teimlo’n union yr yr un fath”, meddai Biggar wrth WalesOnline.

“Y peth olaf rydw i eisiau ei wneud yw newid ti cicio, a chael effaith seicolegol ddrwg, neu unrhyw beth felly. Pan na allwn ei ddefnyddio mwyach, ni allwn ddod o hyd i un yn union yr un fath o gwbl, felly chwarae teg iddyn nhw ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Maent wedi bod yn gwbl wych ac wedi mowldio un newydd gan ddefnyddio technoleg 3D, sy’n gamp sylweddol. Mae union yr un marciau a rhiciau arno. Mae wedi’i wneud o’r un deunydd hefyd ac rwy’n ofnadwy o ddiolchgar iddynt nhw. Mae wedi bod yn wych a gobeithio bydd y rhain yn para tan ddiwedd fy ngyrfa. Maen nhw'n gwneud ambell un sbâr i mi, rhag ofn fy mod yn ei adael ar awyren neu mewn stadiwm yn rhywle.”

Rhannu’r stori hon