Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuwyr o’r Brifysgol yn barod ar gyfer Gemau’r Gymanwlad

20 Mawrth 2018

Lewis Oliva
Bydd Lewis Oliva yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad am y trydydd tro

Mae llu o athletwyr sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd yn gosod eu golygon ar lwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 wrth iddynt edrych ymlaen at ddechrau’r gemau ar yr Arfordir Aur yn Awstralia ddydd Mercher 4 Ebrill.

Bydd 13 o’n myfyrwyr, cynfyfyrwyr a staff yn cynrychioli Cymru mewn chwaraeon mor amrywiol â phêl-rwyd, y ras 400m dros y clwydi a beicio, a bydd un yn cynrychioli Lloegr ac un arall yn cystadlu i Guernsey.

Dyma’r myfyrwyr fydd yn cymryd rhan: Lewis Oliva (meddygaeth) – beiciwr sbrint; Coral Kennerley (peirianneg fecanyddol) - saethu pistol; Dean Bale (gwyddoniaeth gyfrifiadurol) Dean Bale (gwyddoniaeth gyfrifiadurol) - saethu reiffl i Loegr; Hallam Amos (meddygaeth) – rygbi saith bob ochr i ddynion; a bydd Sarah Llewelyn (meddygaeth) a Leila Thomas (gwyddorau biolegol) yn aelodau o’r garfan bêl-rwyd.

Dyma’r cynfyfyrwyr fydd yn cystadlu: Caryl Granville (BSc 2011) 400m dros y clwydi; Sally Peake (MSc 2017) – naid bolyn; Josh Lewis (MA 2017) – triathlon i Guernsey; Philippa Tuttiett (BA 2005) ac Elinor Snowsil (TAR 2014) – y ddwy yn aelodau o’r tîm rygbi saith bob ochr i fenywod; Dan Kyriakides (BSc 2016), Rupert Shipperley (BSc 2014) a Sophie Clayton (BDS 2015) – y tri yn aelodau o’r timoedd hoci.

Dr Kelly Morgan, cymrawd ymchwil o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yw’r aelod staff fydd yn cymryd rhan. Hi yw is-gapten tîm menywod pêl-rwyd Cymru, a bydd yn ymuno â’n myfyrwyr Sarah a Leila yn y garfan bêl-rwyd.

Sarah Llewelyn
Sarah Llewelyn

Mae’r pum myfyriwr sy’n cystadlu yn rhan o Raglen Perfformiad Uchel y Brifysgol, sy’n helpu myfyrwyr i ragori yn eu gyrfaoedd chwaraeon a’u gyrfaoedd academaidd yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd.

Dywedodd y Pennaeth Chwaraeon, Stuart Vanstone: "Ein nod yw helpu ein myfyrwyr i lwyddo yn eu diddordebau academaidd a chwaraeon yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Mae'r holl fyfyrwyr wedi gallu cydbwyso eu hastudiaethau â’u hamserlenni hyfforddi heriol yn y cyfnod cyn y broses ddethol.

"Mae cael eich dewis i gynrychioli eich gwlad yn gamp anhygoel ac rydyn ni'n falch iawn o lwyddiant ein myfyrwyr, cynfyfyrwyr a staff ym myd y campau. Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn Awstralia a byddwn yn eu cefnogi’n frwd o Gaerdydd."

https://youtu.be/J0HMkDhTZiA

Rhannu’r stori hon