Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu’r economi greadigol yng Ngwlad Thai

20 Mawrth 2018

British Council in Thailand

Mae llwyddiant economi greadigol prifddinas Cymru yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol, diolch i waith tîm o Brifysgol Caerdydd.

Mae Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, Sara Pepper, wedi cynnal rhaglen hyfforddi ar gyfer y Cyngor Prydeinig yng Ngwlad Thai sy’n canolbwyntio ar ganolfannau creadigol. Canolbwyntiodd y rhaglen tri diwrnod ar greu rhwydweithiau, tyfu cymunedau a chynllunio digwyddiadau yn ogystal â rhoi canllawiau ar sut i greu mannau diddorol a modelau busnes effeithiol.

Yng Ngwlad Thai, mae twf a datblygiad yr economi greadigol yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth ar hyn o bryd. Mae’r sîn greadigol yng Nghaerdydd wedi blaguro dros y pum mlynedd diwethaf, gyda chanolfannau cydweithio’n dod yn rhan annatod o fywyd gwaith ar gyfer gweithwyr llawrydd a busnesau bach.

Bu uned Economi Greadigol y Brifysgol ar flaen y gad yn y datblygiad hwnnw ers 2014, gan hwyluso rhwydweithio a rhannu gwybodaeth ar gyfer pobl sy'n arwain ac sy'n gweithio mewn canolfannau creadigol. Yn ddiweddar, fe wnaethon nhw ffurfio’r Grŵp Cydweithio Creadigol; grŵp i gysylltu, ymgysylltu a chefnogi mannau cydweithio a chanolfannau creadigol ar draws Cymru.

Yn ôl Sara: “Roedd yr amser a dreuliais yng Ngwlad Thai yn wobrwyol ac yn ysbrydoledig iawn. Er bod canolfannau creadigol a mannau gweithio ar y cyd yn eithaf cyffredin yn y DU, maent yn bethau mwy newydd i ecosystemau gwaith Gwlad Thai. Ceir cyfle gwirioneddol i weld manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol go iawn drwy ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau y tu allan i Bangkok i gefnogi a gwella twf a datblygiad y diwydiannau creadigol a'r economi greadigol ehangach yn y dyfodol.”

Yn ôl yr Athro George Boyne, Dirprwy Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Rwy’n estyn croeso cynnes i’r prosiect hwn rhwng tîm Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd a Chyngor Prydeinig Gwlad Thai i gynorthwyo menter arloesol Llywodraeth Gwlad Thai..."

“Rwy’n falch bod y tîm, o dan arweiniad Sara Pepper, yn creu cysylltiadau byd-eang er mwyn rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth ymhellach. Edrychaf ymlaen at weld y fenter hon yn symud ymlaen ac at gryfhau ein cysylltiadau gyda Gwlad Thai.”

Dr. Suwit Maysinsee, Gweinidog Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a agorodd y cwrs hyfforddi.

Dywedodd: “Dyma gyfle gwych i ymgysylltu â'r DU a’i arbenigedd ardderchog yn y maes drwy gyfrwng y cydweithredu hwn â Chyngor Prydeinig Gwlad Thai a Phrifysgol Caerdydd, er mwyn datblygu’r canolfannau arloesedd a rheolwyr y Ganolfan.

“Mae gan reolwyr Canolfan rôl bwysig iawn wrth gysylltu’r adnoddau, yr wybodaeth a'r cymunedau â'i gilydd er mwyn sbarduno arloesedd a thechnoleg, fydd yn cael effaith fawr ar y cymunedau lleol. Hyderaf y bydd yr hyn a ddysgir ac a rennir gan reolwyr y Ganolfan yn wirioneddol werthfawr i'w helpu i reoli eu canolfannau yn llwyddiannus, ac i gynnal effaith y canolfannau, sef nod pennaf y rhaglen, yn y pen draw.”

Dechreuodd y Cyngor Prydeinig ei waith ar ganolfannau creadigol yng Ngwlad Thai y llynedd gan gynhyrchu pecyn Canolfan Greadigol yng Ngwlad Thai, sy’n becyn cymorth ar gyfer y rheini sydd am sefydlu canolfannau creadigol a'u rheoli'n llwyddiannus.

Yn ôl Andrew Glass, Cyfarwyddwr Gwlad, Cyngor Prydeinig Gwlad Thai: “Ers 2014, mae’r Cyngor Prydeinig wedi sefydlu rhaglen i ddatblygu canolfannau creadigol yn fyd-eang. Rydym wedi gweithio gyda thros 800 o ganolfannau creadigol o amgylch y byd. Mae ein gwaith yn dod â phobl o’r canolfannau hyn ynghyd er mwyn adeiladu economïau creadigol cryfach drwy rannu syniadau, profiadau a sgiliau.

“Rydym yn ystyried bod gan ganolfannau rôl ganolog yn nhwf yr economi greadigol, tra bod rheolwyr canolfannau’n cysylltu pobl a partneriaid ar bob lefel gyda'i gilydd, er mwyn cael effaith economaidd, diwylliannol a chymdeithasol, sy’n llywio’r gymdeithas. Hoffwn ddiolch i'r holl bartneriaid sy’n cymryd rhan, a’m dymuniad yw y bydd y cydweithio yn parhau fel y gallwn gael effaith wirioneddol ar y Gymdeithas ac elwa ar y cyd yn sgil cyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd rhwng y ddwy wlad.”

Rhannu’r stori hon

Ymunwch â'n rhwydwaith ar gyfer cymuned greadigol y brifddinas.