Ewch i’r prif gynnwys

Mapio Economi Greadigol Caerdydd

12 Rhagfyr 2016

Aerial view of Cardiff Creative Capital conference

Mae tim yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cynhyrchu map manwl o weithlu economi greadigol Caerdydd. Nododd yr ymchwil 2,788 o gwmnïau, sefydliadau a gweithwyr llawrydd creadigol yng Nghaerdydd a'r wardiau cyfagos.

Yn ôl yr adroddiad, Mapio Economi Greadigol Caerdydd, lleoliad agos i ganol y ddinas a thueddiad gweithgarwch creadigol i glystyru mewn cymdogaethau penodol yw dau o'r prif ffactorau sy'n sicrhau presenoldeb gweithgarwch creadigol.

Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â ffurfio Rhwydwaith Caerdydd Greadigol, sydd â 800 o aelodau sy'n bobl yn gweithio mewn sefydliadau, busnesau a swyddi creadigol yng Nghaerdydd a'r ddinas-ranbarth.

Lluniwyd a golygwyd yr adroddiad gan yr Athro Justin Lewis, o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.

"Mae tystiolaeth o wahanol ffynonellau'n cadarnhau argraffiadau greddfol o Gaerdydd fel dinas greadigol ag iddi sector diwylliannol sylweddol. Ond does dim llawer o ddata cyfredol ar gael am siap, cymeriad ac ehangder yr economi greadigol yng Nghaerdydd. Aethom ati felly i gynnal ymarfer mapio i gofnodi cryfderau a gwendidau creadigol y ddinas, er mwyn i ni allu cyfrannu at strategaethau ar gyfer cefnogi a datblygu creadigrwydd ar draws y ddinas-ranbarth."

Yr Athro Justin Lewis Professor of Communication

Fe'i trefnwyd gan y grwp diwydiannau creadigol - fel y'i diffinnir gan Adran y Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon - a cheir pedwar maes lle'r ymddengys bod gan Gaerdydd gryfderau arbennig (hynny yw, swm cymharol y gweithgarwch yn hytrach nag ansawdd yr allbwn):

  • Cerddoriaeth, Perfformio a’r Celfyddydau Gweledol yw'r sector creadigol mwyaf yng Nghaerdydd. Mae cyfran y gweithwyr llawrydd bedair gwaith yn fwy na’r cyfartaledd cyflogaeth cenedlaethol a chyfran y cwmnïau/busnesau yn fwy na dwbl y cyfartaledd cyflogaeth cenedlaethol.
  • Ffilm, Teledu, Fideo, Radio a Ffotograffiaeth yw’r sector creadigol ail fwyaf, gan adlewyrchu twf clwstwr ffilm a theledu mawr ym Mae Caerdydd.
  • Dylunio: Cynnyrch, Graffig a Ffasiwn yw'r trydydd mwyaf, gyda'r gyfran o gwmniau o ddeutu dwywaith y cyfartaledd cenedlaethol.
  • Er mai Crefftau yw un o’r sectorau llai yng Nghaerdydd, mae’n fwy sylweddol o lawernag yng ngweddill y DU yn ôl cyfartaledd cyflogaeth, gyda chyfran y cwmnïau a’r gweithwyr llawrydd dros ddeng gwaith yn fwy na ffigurau cyflogaeth cyfartalog y DU.

Cafodd data y mwyafrif o'r cwmnïau a'r cyrff (85%) ei fapio yn ôl ward ac er bod gweithgarwch creadigol wedi'i nodi ar draws pob ward, mae 58% wedi'i glystyru mewn pum ward yn unig - pob un yn agos i, neu'n cwmpasu, canol y ddinas a Bae Caerdydd.

Lansiwyd adroddiad Mapio Economi Greadigol Caerdydd yr wythnos hon yn Caerdydd: Prifddinas Greadigol - symposiwm i ystyried yr elfennau a geir mewn dinas greadigol, mewn partneriaeth â British Council Cymru.

Daeth y symposiwm â meddylwyr a gweithredwyr blaenllaw at ei gilydd o economi greadigol y ddinas ac o bob rhan o'r DU.

Yn dilyn cyhoeddi Mapio Economi Greadigol Caerdydd, bwriad Caerdydd Greadigol yw gweithio gyda’r aelodau a’i sefydlodd, sef BBC Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd, a'i rhwydwaith ehangach, i ddatblygu'r gwaith a wnaed yn ystod ei blwyddyn gyntaf i alluogi a chynyddu economi greadigol y brifddinas.

Lawrlwythwch Mapio Economi Greadigol Caerdydd yn llawn i archwilio map economi greadigol y ddinas ar wefan Caerdydd Greadigol.

Rhannu’r stori hon

Ymunwch â'n rhwydwaith ar gyfer cymuned greadigol y brifddinas.