Ewch i’r prif gynnwys

Pennu cyfeiriad ymchwil lipidau fyd-eang mewn cyfarfod yng Nghaerdydd

21 Mawrth 2018

LIPID MAPS advisory board
Members of the LIPID MAPS International Advisory Board meeting in Cardiff.

Mae 30% o'n corff yn lipidau (brasterau), a 60% o'n hymennydd.  Mae'r moleciwlau hyn yn hanfodol i fywyd.

Maent yn ffynhonnell egni, maent yn dal ein celloedd ynghyd, ac maent yn galluogi ein celloedd i gyfathrebu yn ystod cyfnodau iach a chlefydau.  Maent yn dod o'n deiet ac yn cael eu creu yn ein celloedd, ac mae ein cyrff yn cynnwys miloedd o wahanol fathau o'r moleciwlau unigryw hyn.

Mae ymchwilwyr lipidau ledled y byd yn dibynnu ar Borth Lipidomeg LIPID MAPS (www.lipidmaps.org).  Mae'r gronfa ddata unigryw hon yn cynnwys dros 40,000 o strwythurau sydd wedi eu curadu, a thros 100,000 o ddefnyddwyr yn fyd-eang.  Mae LIPID MAPS wedi'i reoli o Brifysgol Caerdydd bellach, gan gonsortiwm sy'n cynnwys Valerie O'Donnell (Caerdydd), gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Califfornia San Diego (Edward Dennis, Shankar Subramaniam) a Sefydliad Babraham, Caergrawnt (Michael Wakelam).  Mae LIPID MAPS yn arwain ar lefel fyd-eang yn y gwaith o guradu a chasglu strwythurau lipid newydd ar gyfer un safle canolog.

Cynhaliodd Fwrdd Cynghori rhyngwladol LIPID MAPS gyfarfod yng Nghaerdydd yn ddiweddar.  Gweithiodd ymchwilwyr lipid rhyngwladol o UDA, DU, Asia ac Ewrop dros ddau ddiwrnod, yn ail-ddylunio'r wefan i wella hygyrchedd a defnyddioldeb, a byddant yn gwneud penderfyniadau strategol allweddol fydd yn helpu datblygiad a chynaliadwyedd yr adnodd unigryw hwn.

Mae LIPID MAPS bellach wedi'i gefnogi gan grant adnoddau biofeddygol gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ac mae wedi adleoli i'r DU.  Cafodd LIPID MAPS ei greu yn 2003 drwy NIH Glue Grant i Dr Dennis, ac mae wedi dod yn arweinydd byd-eang yn y gwaith o hyrwyddo maes Lipidomeg (bioleg a dadansoddi lipidau) i'r gymuned ymchwil ryngwladol.  Mae LIPID MAPS yn cynnig system ddosbarthu a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac mae'r gronfa ddata lipidau sydd wedi'i churadu ymhlith y mwyaf yn y byd. Mae'r adnodd yn cynnig mynediad at offer, protocolau, safonau, tiwtorialau a chyhoeddiadau, ac mae'n ffynhonnell wybodaeth hanfodol ar gyfer ymchwilwyr lipidau ledled y byd.

Professor Valerie O'Donnell
Professor Valerie O'Donnell

Dywedodd yr Athro Valerie O'Donnell o Brifysgol Caerdydd:

"Mae cyfarfod y Bwrdd Cynghori yn garreg filltir i ni yn dilyn y grant Wellcome a ddyfarnwyd i ni, ac roedd yn bleser mawr croesawu ein cydweithwyr i Gaerdydd. Mae LIPID MAPS yn mynd drwy broses ail-ddylunio fawr ac yn cael ei ail-lansio (yn y 3-6 mis nesaf) ac mae ein hymdrechion i guradu'r strwythur wedi dechrau o ddifrif, ynghyd â'n blog newydd gan Bill Christie.

Bydd cylchlythyr yn cael ei lansio'n ddiweddarach eleni, ac rydym am wneud rhagor o ymgysylltu â'n defnyddwyr, i gael offer systemau lipidomeg hanfodol ac adnoddau ar y safle ar gyfer y gymuned fyd-eang.  Rydym hefyd wrth ein bodd i groesawu unrhyw endidau masnachol sydd am gysylltu i ffurfio partneriaeth â ni er mwyn sicrhau cynaliadwyedd LIPID MAPS ar gyfer y gymuned ymchwil lipidau ledled y byd"

Aelodau'r Bwrdd Cynghori

  • Edward Dennis  (Advisory Board Chair), University of California San Diego, USA
  • Valerie O’Donnell, Cardiff University, UK
  • Shankar Subramaniam, University of California San Diego, USA
  • Michael Wakelam, Babraham Institute, UK
  • Al Merrill, Georgia Institute of Technology, USA
  • Fritz Spener, Medical University of Graz, Austria
  • Robert Murphy, University of Colorado School of Medicine Denver, USA
  • Takao Shimizu, University of Tokyo, Japan
  • Markus Wenk, National University of Singapore, Singapore
  • Bill Griffiths, Swansea University, UK
  • Eoin Fahy, University of California San Diego, USA

Mae Prifysgol Caerdydd, Sefydliad Babraham a Phrifysgol California San Diego yn rheoli’r adnodd hwn ar y cyd.

Rhannu’r stori hon