Ewch i’r prif gynnwys

Hybu amrywiaeth iaith

21 Chwefror 2018

Thank you in different languages

Lansiwyd datganiad sy'n annog unigolion, corfforaethau, sefydliadau a llywodraethau i fabwysiadu meddylfryd amlieithog ar Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig, Chwefror 21ain, gan dîm o feddylwyr byd-eang sy'n cynnwys un o academyddion Prifysgol Caerdydd.

Mae Loredana Polezzi, sy’n Athro mewn Astudiaethau Cyfieithu, yn gyd-awdur ‘Datganiad Salzburg’, galwad i weithredu a ysgrifennwyd gan dîm o wneuthurwyr polisi rhyngwladol, arbenigwyr yn y diwydiant ac academyddion i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth iaith, i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail iaith, a datblygu polisïau sy’n hybu amlieithrwydd.

Mae miliynau o bobl ledled y byd sy’n methu cael gafael ar fodd o ddysgu iaith o ganlyniad i amrywiaeth o faterion cymdeithasol cyfoes sy'n cynnwys tlodi, diffyg addysg, dadleoli a lleoliad daearyddol.

Ar hyn o bryd siaredir 7,097 o ieithoedd ar draws y byd ond disgwylir i bron i hanner ohonynt farw o fewn ychydig o genedlaethau. Yn anffodus, dim ond ychydig gannoedd o ieithoedd sydd wedi eu hintegreiddio i mewn i’n systemau addysg gwladol a chaiff llai na chant eu defnyddio yn y byd digidol.

Mae'r datganiad yn dadlau fel a ganlyn: “Yn y byd rhyng-gysylltiedig sydd ohoni, mae'r gallu i siarad ieithoedd niferus a chyfathrebu ar draws rhaniadau ieithyddol yn sgil hanfodol. Mae hyd yn oed gwybodaeth rannol o fwy nag un iaith yn fuddiol. Mae hyfedredd mewn ieithoedd ychwanegol yn fath newydd o lythrennedd byd-eang. Mae angen ehangu dysgu ieithoedd i bawb - hen ac ifanc.”

Mae’r datganiad, sydd â chefnogaeth Microsoft a’r Cyngor Prydeinig ymysg eraill, yn galw am gywiro hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae'n annog adolygu'r polisïau er mwyn hyrwyddo amlieithrwydd mewn modd cadarnhaol; cymorth gweithredol i hawliau iaith, amrywiaeth a dinasyddiaeth mewn dogfennau swyddogol a negeseuon cyhoeddus; mynd i'r afael â’r holl achosion o wahaniaethu sy'n gysylltiedig ag iaith; cydnabod cyfalaf ieithyddol uchel lleiafrifoedd, ymfudwyr a ffoaduriaid; a phwysigrwydd hanfodol cyfieithu a dehongli i sicrhau cyfranogiad cyfartal mewn cymdeithasau amlieithog. Er mwyn cyflawni hyn mae nifer o randdeiliaid allweddol yn cael eu targedu. Mae'r rhain yn cynnwys athrawon, gweithwyr cymunedol, sefydliadau anllywodraethol, y cyfryngau, llywodraethau, busnes ac asiantaethau cymorth a datblygu.

Dywedodd yr Athro Polezzi: “Gall pawb gymryd camau i sicrhau bod cyfoeth ac amrywiaeth ein hieithoedd yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae 'Datganiad Salzburg' rhoi amlieithrwydd ôl ar yr agenda cyn iddi fynd yn rhy hwyr..."

"Mae angen polisïau iaith arnom ar draws y gymdeithas sy'n cydnabod pwysigrwydd addysg iaith ac yn cefnogi cymunedau amlieithog ac unigolion.”

Ysgrifennwyd Datganiad Salzburg gan gymrodyr Seminar Byd-eang Salzburg, sefydliad annibynnol dielw a sefydlwyd ym 1947. Cenhadaeth y Seminar byd-eang Salzburg yw herio arweinwyr y presennol a’r dyfodol i lunio'r byd gwell.

Mae wedi'i gyfieithu i amrywiaeth o ieithoedd gan gynnwys fersiwn Cymraeg a gynhyrchwyd gan Brifysgol Caerdydd. Darparwyd yr holl gyfieithiadau drwy ewyllys da ac ymdrechion gwirfoddol yr awduron a’u cydweithwyr.

Mae cyfraniad yr Athro Polezzi i’r Datganiad Salzburg yn ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiectau ymchwil Trawswladoli Ieithoedd Modern – Transnationalizing Modern Languages (TML) – a Heriau Byd-eang TML – TML Global Challenges – a ddechreuodd yn 2014, ac y mae hi’n gyd-ymchwilydd arno. Mae prosiectau wedi dwyn ynghyd tîm rhyngwladol o ymchwilwyr ac ymarferwyr i fynd i'r afael â materion allweddol mewn addysg iaith a diwylliant.

Rhannu’r stori hon