Her bocs sebon i wyddonwyr benywaidd
4 Mehefin 2015
Bydd pump o wyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn camu i ben bocs sebon yn Abertawe i ennyn diddordeb y cyhoedd am eu gwaith ymchwil
Mae Soapbox Science, sy'n teithio o amgylch y DU, yn arddangos esiamplau o fenywod llwyddiannus ym myd gwyddoniaeth ar bob cam o'u gyrfaoedd, ac o wahanol gefndiroedd.
Bydd y gwyddonwyr yn sefyll ar grât ben i waered mewn stryd brysur, a dywedir wrthynt am gyfleu eu neges i'r bobl sy'n mynd heibio.
Y pum gwyddonydd sy'n cymryd rhan o Brifysgol Caerdydd yw: yr Athro Karen Holford, yr Ysgol Peirianneg a Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg; Dr Rebecca Price-Davies, yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol; Dr Alison Paul, yr Ysgol Cemeg; Dr Caroline Lear, Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd; a Dr Lovleen Tina Joshi, yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.
Nod gwaith ymchwil yr Athro Holfrod yw gwella technegau i ganfod difrod mewn strwythurau fel pontydd, tyrbinau gwynt a chydrannau awyrennau. Hi oedd y cyntaf o'i theulu i fynd i'r brifysgol.
Dywedodd: "Mae'n bwysig dangos i'r cyhoedd pa mor amrywiol yw'r gweithlu STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) – mae'r oes yn newid, ac yn sicr, nid yw pawb yn cydymffurfio â'r stereoteip hen ffasiwn o hen ddynion blewog mewn cotiau gwyn.
"Roedd technoleg bob amser yn fy niddori. Ond yr hyn a wnaeth ennyn fy niddordeb go iawn oedd gwylio dynion yn glanio ar y lleuad gyda fy nheulu pan oeddwn yn chwe blwydd oed.
"Bellach, darganfod pethau sy'n fy ysgogi. Mae'n hynod ddiddorol gweithio gyda phobl ddawnus sy'n llawn syniadau; mae'r broses o weithio mewn tîm i ddatrys problem a'r ymdeimlad o gyflawniad pan fyddwch yn darganfod rhywbeth newydd yn bwysig i mi."
Bydd y pum gwyddonydd yn cymryd eu tro ar y bocs sebon, a fydd yn edrych dros Fae Abertawe ddydd Sadwrn, 6 Mehefin.
Heb gyfyngiadau sleidiau PowerPoint a darlithfeydd, eu nod yw ysbrydoli pobl ynglŷn â'u gwaith.
Meddai Dr Price-Davies, a fydd yn egluro sut mae maeth mewnwythiennol yn achub bywyd y rheini nad ydynt yn gallu bwyta bwyd yn gorfforol: "Rwy'n cymryd rhan yn Soapbox Science am fy mod wir yn mwynhau gwyddoniaeth, boed yn clywed amdano neu'n sôn amdano, ac rwyf am i bobl eraill gynhyrfu yn ei gylch hefyd.
"Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at yr her o siarad â chynulleidfa a fydd yn cerdded oddi yno os na fyddaf yn hoelio'u sylw. Mae'n wahanol iawn i fyfyrwyr sy'n gaeth mewn darlithfa!"
Bydd Dr Lear yn esbonio sut mae'n defnyddio cyfansoddiad cemegol ffosiliau i weld sut mae llen iâ'r Antarctig wedi ymddwyn yn y gorffennol.
Dywedodd: "Credaf ei bod yn bwysig i ni geisio chwalu'r stereoteipiau cyffredin am wyddonwyr ac ymchwil wyddonol.
"Rwy'n gobeithio y bydd y rheini sy'n dod i'r digwyddiad Soapbox Science yn sylweddoli bod gwyddoniaeth i bawb, a bod gwyddoniaeth yn hwyl."
Mae ymchwil Dr Joshi yn cyfuno microbioleg DNA a pheirianneg electromagnetig i ddatblygu dulliau o wneud diagnosis cyflym ar y pwynt gofal ar gyfer cleifion sy'n dioddef heintiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, naill ai mewn gofal iechyd (Clostridium difficile/MRSA) neu at ddibenion diogelwch (anthracs).
Meddai: "Roeddwn am gymryd rhan yn Soapbox Science gan ei fod yn llwyfan gwych i siarad â'r cyhoedd am wyddoniaeth mewn ffordd hwyliog, diddorol ac ysgafn.
"Dylai'r bobl sy'n ymweld â'n bocsys sebon ni ddod oddi yno gydag ymdeimlad newydd o gyffro, parch a rhyfeddod wrth feddwl am wyddoniaeth.
"Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli ac yn annog mwy o fenywod i gymryd mwy o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, ac ymuno â byd gwyddoniaeth yn y dyfodol."
Bydd Dr Paul yn sôn am gyflenwi cyffuriau'n gynnil, a sut gellir targedu'r cyffuriau hyn at safleoedd penodol clefydau.
Bydd cyfanswm o 16 o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan yn y digwyddiad yn Abertawe.