Teclyn newydd ar gyfer asesu peryg sy’n cael ei “anwybyddu i raddau helaeth” yn y diwydiant fferyllol
5 Ionawr 2018
Mae dull newydd o brofi’r tebygolrwydd y bydd cyffur yn troi i mewn i fersiwn ohono’i hun allai fod yn niweidiol ar ôl mynd i’r corff, wedi’i ddatblygu gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol John Moores Lerpwl, ar y cyd ag Astra Zeneca.
Mae'r tîm wedi datblygu dull syml o chwilio drwy gronfeydd data mawr o gyffuriau fferyllol ac asesu’r peryg posibl y bydd cyffur yn rasemeiddio – proses pan fo cyffur yn trawsnewid i mewn i ddrych-ddelwedd ohono’i hun, gan droi’n anadweithiol neu o bosibl yn beryglus.
Dyma’r tro cyntaf i declyn meintiol at ddibenion asesu risg gael ei ddatblygu ar gyfer y broses hon.
Ym marn y tîm – sydd wedi cyhoeddi eu canfyddiadau newydd yn y cyfnodolyn Cemeg blaenllaw, Angewandte Chemie – mae’n bosibl y gallai'r dull newydd arwain at ostyngiad sylweddol yn y risg ariannol sy'n gysylltiedig â datblygu cyffuriau, drwy ganfod cyffuriau ‘mewn perygl’ yn gynnar yn y broses gynhyrchu fyddai, yn y pen draw yn arwain at ddatblygu meddyginiaeth diogel mewn modd effeithlon.
Mae cyfansoddion cyffuriau yn aml yn bodoli naill ai ar ffurf llaw dde neu law chwith, gyda chyfansoddiad cemegol union yr un fath i’r ddau, ond â strwythur sy'n ddrych-ddelwedd o’i gilydd na ellir ei arosod. Mae’r cyfansoddion hyn, a elwir yn enantiomerau, yn debyg iawn i’n llaw chwith a’n llaw dde – mae gan y naill strwythur sy'n adlewyrchu’r llall yn llwyr, ond mae'n amhosibl ffitio un ar ben y llall yn berffaith tra bod y ddwy gledr yn wynebu am i fyny.
Gall cyffuriau gynnwys fersiynau llaw dde yn ogystal â llaw chwith o'r cyfansoddyn, ond yn aml dim ond un o enantiomerau cyffuriau sy’n gyfrifol am yr effeithiau ffisiolegol a ddymunir, tra bod yr enantiomer arall yn llai actif, yn segur, neu weithiau’n gallu peri effeithiau andwyol.
Yr enghraifft enwocaf o'r hyn yw’r cyffur tawelyddol, thalidomid, a gafodd ei darganfod gan y cwmni Almaenig Chemie Grünenthal a'i gwerthu mewn nifer o wledydd ledled y byd o 1957 hyd 1961. Fe'i tynnwyd oddi ar y farchnad pan ganfyddwyd ei fod yn achosi o namau geni. Roedd un o’r enantiomerau wedi peri’r effeithiau tawelyddol a fwriadwyd, tra bod y llall – na ellir bod wedi osgoi ei bresenoldeb yn y cyffur – wedi achosi namau geni.
Ers yr argyfwng thalidomid, mae datblygwyr cyffuriau wedi ymdrechu i greu cyffuriau sy'n cynnwys dim ond un enantiomer.
Fodd bynnag, mae'n bosibl y gall enantiomer sengl droi’n sydyn i mewn i ddrych-ddelwedd ohono’i hun pan aiff i mewn i'r corff, drwy gyfrwng proses a elwir yn rasemeiddiad. Credir bod y trawsnewidiad hwn yn cael ei achosi pan fo’r cyffur yn rhyngweithio â chyfansoddion sylfaenol yn y dŵr yn y corff.
Yn eu hastudiaeth, sefydlodd y tîm arbrofion lle gwnaethant ffugio amodau cemegol y corff dynol a chyflwyno nifer o gyffuriau i'r system, gan fonitro’r gyfradd yr aeth y cyffuriau gwahanol drwy broses rasemeiddio. Gan ddefnyddio’r canlyniadau hyn, roeddent yn gallu i gynhyrchu model mathemategol syml allai ragdybio cyfradd proses rasemeiddio mewn unrhyw gyfansawdd cyffuriau gan ddangos, wedyn, pa mor ddiogel a chynhyrchiol fyddai’r cyffur hwnnw pe cai ei gymryd.
Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, Dr Niek Buurma o Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: “Yn dilyn y drychineb thalidomid, mae ymchwilwyr ledled y byd wedi canolbwyntio ar wneud cyfansoddion ar sail dethol enantiomerau – hynny yw, cyffuriau sy'n cynnwys dim ond un enantiomer.
“Fodd bynnag, er y caiff cyfansoddion eu profi'n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gynhenid sefydlog o dan amodau ffisiolegol, nid oes llawer wedi cael ei ystyried ynglŷn â sut i osgoi ansefydlogrwydd cyfluniadol wrth y cam dylunio, gan ddefnyddio modelau rhagfynegi addas.”