Ewch i’r prif gynnwys

Cynfyfyriwr yn ennill yng Ngwobrau Cyfryngau Cynaliadwyedd Bwyd

7 Rhagfyr 2017

Newyddiadurwr Justice Baidoo
Newyddiadurwr - Justice Baidoo

Hoffai'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol longyfarch Justice Baidoo ar ennill y wobr am y ‘Fideo Cyhoeddedig’ gorau yng Ngwobrau Cyfryngau Cynaliadwyedd Bwyd.

Dyfarnwyd y wobr i Justice, a gwblhaodd ei MA mewn Newyddiaduraeth Rhyngwladol yn 2015, am ei adroddiad ar ‘Wastraff Bwyd yn Ghana’ a bydd yn cael gwobr o €10,000.

Roedd yr adroddiad ar gyfer Joy News Today yn ystyried pam nad yw bron hanner y cnydau bwyd a gynhyrchir yn Ghana yn cyrraedd y defnyddwyr terfynol, yn ôl astudiaeth yn 2014, mewn gwlad lle mae oddeutu 2 filiwn o bobl – menywod a phlant yn bennaf – mewn perygl o ddioddef newyn a diffyg maeth.

Aeth y stori â’r gohebydd yn ddwfn i rai o gefnwledydd ffermio Ghana i ddarganfod sut mae rhwydwaith o ffyrdd gwael yn rhwystro bwyd rhag mynd o giât y fferm i'r marchnadoedd.

Yn ôl arweinydd llwybr y ddogfen, Dr Janet Harris, wnaeth addysgu Justice yn ystod ei astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, “hoffwn estyn ein llongyfarchion cynhesaf i Justice ar ennill y wobr hon. Mae ei adroddiad yn enghraifft o’r hyn y dylai newyddiaduraeth dda fod bob amser.

Yn ôl Justice, “I mi, mae hyn yn fwy na gwobr. Mae’n cynnig cyfle unigryw i daflu goleuni ar un o'r materion pwysicaf y dylai newyddiaduraeth mewn gwledydd fel Ghana fynd i’r afael ag ef yn fy marn i – diogelwch bwyd.”

Yn ôl arweinydd llwybr y ddogfen, Dr Janet Harris, wnaeth addysgu Justice yn ystod ei astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, “hoffwn estyn ein llongyfarchion cynhesaf i Justice ar ennill y wobr hon. Mae ei adroddiad yn enghraifft o’r hyn y dylai newyddiaduraeth dda fod bob amser.

“Mae ei adroddiad yn ceisio adrodd stori nad sy’n cael ei chlywed ddigon, i gynulleidfa fwy o lawer. Yn sgil hynny, mae’n codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â gwastraff bwyd.

“Mae Justice yn un o nifer o gynfyfyrwyr rhyngwladol llwyddiannus sy'n rhan o rwydwaith byd-eang o gysylltiadau Prifysgol Caerdydd sy’n gweithio ar draws meysydd newyddiaduraeth darlledu, rhaglenni dogfen ac amlgyfrwng.”

Aseswyd pob cofnod ar y rhestr fer gan banel annibynnol o weithwyr proffesiynol blaenllaw o feysydd newyddiaduraeth, ffotograffiaeth, polisïau ac ymchwil bwyd a chynaliadwyedd amaethyddol.

Nod Gwobr Cyfryngau Cynaliadwyedd Bwyd, menter gan Sefydliad Thompson Reuters a Chanolfan Bwyd a Maeth Barilla, yw dod o hyd i atebion arloesol i heriau bwyd yr oes ohoni.

Gallwch gysylltu â Justice ar Twitter.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil, cyrsiau ac aelodau staff, ewch i wefan yr Ysgol.