Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr Caerdydd yn mynd â gwyddoniaeth i'r Senedd

19 Mai 2015

Senedd Building in Cardiff Bay

Heddiw, bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn arddangos eu gwaith ymchwil yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhan o ddigwyddiad blynyddol Gwyddoniaeth a'r Cynulliad y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Eleni yw deuddegfed flwyddyn y digwyddiad, a'r nod yw meithrin cysylltiadau agosach rhwng y gymuned gwyddoniaeth a pheirianneg yng Nghymru, Aelodau'r Cynulliad (ACau), a Llywodraeth Cymru.

Drwy nifer o arddangosfeydd a chyflwyniadau, bydd academyddion yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymysg ACau am ddatblygiadau pwysig mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yng Nghymru, a sut mae materion polisi yn effeithio ar y meysydd hyn.

Bydd Dr Michael Harbottle, o'r Ysgol Peirianneg, yn arddangos prosiect Materials for Life, sy'n ceisio datblygu cenhedlaeth newydd o ddeunyddiau 'hunanwellhaol' sy'n monitro, yn rheoleiddio, yn addasu ac yn trwsio eu hunain heb fod angen ymyrraeth.

Mae'r prosiect yn gonsortiwm gan Brifysgolion Caerdydd, Caerfaddon a Chaergrawnt, ac mae'n ceisio creu dealltwriaeth sylfaenol o sut gellir trin deunyddiau drwy fanteisio ar ddatblygiadau arloesol mewn ystod o ddisgyblaethau gwyddonol.

Y thema ar gyfer digwyddiad Gwyddoniaeth a'r Cynulliad eleni fydd 'Ynni a'r Amgylchedd'. Bydd bore cyfan o arddangosfeydd yn y Cynulliad, a nifer o gyflwyniadau gwyddonol i ddilyn yn y prynhawn yn adeilad y Pierhead.

Bydd yr Athro Peter Kille, o Ysgol y Biowyddorau, ymysg y prif siaradwyr yn y digwyddiad, gyda'r Athro Peter Knowles o'r Ysgol Cemeg yn gadeirydd.

Trefnir digwyddiad y Gymdeithas Gemeg Frenhinol mewn cydweithrediad â nifer o chwaer sefydliadau, gan gynnwys: y Gymdeithas Frenhinol; Cymdeithas Ddysgedig Cymru; y Sefydliad Ffiseg; y Gymdeithas Bioleg; y Gymdeithas Seryddol Frenhinol; y Gymdeithas Daeareg; yr Ymgyrch ar gyfer Gwyddoniaeth a Pheirianneg; a'r Gymdeithas Microbioleg Gyffredinol.