Ewch i’r prif gynnwys

Cyfathrebwr Astudiaethau Gwleidyddol y Flwyddyn

6 Rhagfyr 2017

Roger Scully

Mae arbenigwr gwleidyddol o Brifysgol Caerdydd sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil a sylwebaeth yng Nghymru wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniad at helpu'r cyhoedd i ddeall gwleidyddiaeth.

Mae’r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn y Brifysgol, wedi ei enwi’n Gyfathrebwr Gwleidyddol y Flwyddyn gan Gymdeithas yr Astudiaethau Gwleidyddol.

Mae’r Athro Scully yn arbenigwr ym maes cynrychiolaeth wleidyddol ym Mhrydain a'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n aml yn y cyfryngau. Mae hefyd yn gweithio'n agos gyda YouGov a ITV Cymru Wales i lunio ac adrodd ar Faromedr Gwleidyddol Cymru – yr unig arolwg barn rheolaidd a gynhelir yng Nghymru.

Cyflwynwyd y wobr i‘r Athro Scully yn seremoni Wobrwyo Flynyddol Cymdeithas yr Astudiaethau Gwleidyddol yn Llundain ar 5 Rhagfyr 2017. Dyma’r tro cyntaf erioed i rywun o brifysgolion Cymru ennill un o wobrau Cymdeithas yr Astudiaethau Gwleidyddol.

"Mae gwleidyddiaeth yn berthnasol i bawb – ac mae'n rhan bwysig o'm swydd i helpu pobl i ddeall hynny."

Cafodd yr Athro Scully ei ganmol gan y panel dyfarnu am wneud: "Cyfraniad awdurdodol a diriaethol wrth ymchwilio a rhoi sylwadau ar wleidyddiaeth Cymru yn ogystal â chyfleu materion gwleidyddol ehangach yn graff a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o wleidyddiaeth drwy’r cyfryngau".

Ychwanegodd yr Athro Scully: "Mae ennill y wobr hon yn fraint aruthrol. Mae ennill Gwobr Cyfathrebwr Gwleidyddol y Flwyddyn yn anrhydedd enfawr ar lefel broffesiynol a phersonol fel ei gilydd.

"Yn yr amseroedd cynyddol anodd hwn yng ngwleidyddiaeth Prydain a byd-eang, credaf ei bod yn hollbwysig i arbenigwyr academaidd gymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus. Mae gennym gyfrifoldeb i gyfleu ein gwybodaeth mewn ffordd mor effeithiol â phosibl i ystod mor eang â phosib o bobl.

"Rwy'n ceisio siarad am ddatblygiadau gwleidyddol cymhleth a materion polisi mewn ffordd sy'n eu gwneud yn haws i'r person cyffredin eu deall. Wedi'r cyfan, nid dim ond rhywbeth i wleidyddion proffesiynol, newyddiadurwyr ac academyddion fel fi yw gwleidyddiaeth. Mae'n effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Mae gwleidyddiaeth yn berthnasol i bawb – ac mae'n rhan bwysig o'm swydd i helpu pobl i ddeall hynny."

Mae Gwobrau Cymdeithas yr Astudiaethau Gwleidyddol yn cydnabod cyfraniad gwleidyddion, academyddion, newyddiadurwyr, llunwyr polisïau ac artistiaid at ymarfer ac astudio gwleidyddiaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel o feirniaid arbenigol o restr fer o enwebiadau gan aelodau o Gymdeithas yr Astudiaethau Gwleidyddol.

Diben Cymdeithas yr Astudiaethau Gwleidyddol yw datblygu a hyrwyddo sut mae gwleidyddiaeth yn cael ei hastudio.

Cawsom ein sefydlu yn 1950 ac rydym y gymdeithas fwyaf blaenllaw yn ein maes yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym aelodau ar draws y byd gan gynnwys academyddion ym meysydd gwyddoniaeth wleidyddol a materion cyfoes, damcaniaethwyr ac ymarferwyr, llunwyr polisïau, ymchwilwyr a myfyrwyr ym maes addysg uwch.

Rhannu’r stori hon

Yn ymgymryd â gwaith ymchwil arloesol ynghylch pob agwedd ar y gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â chyd-destun llywodraethu tiriogaethol ehangach y DU ac Ewrop.