Ewch i’r prif gynnwys

Peidiwch â bod ofn newid eich bywyd

4 Rhagfyr 2017

 Cardiff School of Social Science
Cardiff School of Social Sciences

Peidiwch â bod ofn newid eich bywyd

Newidiodd Karin Kanias ei bywyd pan fachodd gopi o’r llyfryn Dewisiadau yn 2013, a daeth o hyd i’r Llwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol.  Bydd stori Karin yn eich ysbrydoli yn ogystal â’ch cymell i ddychwelyd at ddysgu (hyd yn oed os ydych wedi bod yn ddieithr i fyd addysg am sawl blwyddyn).

“Ar ôl gadael yr ysgol yn dilyn Safon Uwch, ymunais â’r byd gwaith ac roedd amgylchiadau’n pennu mai dyna lle fyddwn i am fwy nag 20 mlynedd. Fodd bynnag, bu’n fwriad gennym erioed i barhau i ddysgu ac ar ôl cymryd prawf ar-lein wnaeth awgrymu fy mod yn rhoi cynnig ar Seicoleg, chwiliais am gyrsiau rhan amser a dod o hyd i’r llyfryn Dewisiadau.

Roedd fy nghwrs cyntaf yn gwrs chwe wythnos mewn Seicoleg Gymdeithasol; cam bychan yn ôl i fyd addysg, wnaeth roi blas i mi o’r hyn i’w ddisgwyl a’m tynnu i mewn! Roeddwn eisiau rhagor, a des i wybod am Lwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol Addysg Barhaus a Phroffesiynol, felly rhoddais gynnig arni a dechrau ar y cwrs ym mis Medi 2013.

Dyma’r union beth oedd ei angen arnaf. Gwyddwn lle’r oeddwn am fynd, ac roedd hwn yn cynnig llwybr i mi yno. Yn ogystal, roedd yn siwrnai nad oedd yn rhaid i mi ei chymryd wrth fy hun. Cefais gefnogaeth lawn gan bob aelod o’r staff ac am fod y grwpiau’n gymharol fach, roedd yn hawdd mynd at y tiwtoriaid am gymorth, pe byddai ei angen.

Llwyddais ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, gan fy ngalluogi i ymuno ag Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn un o Brifysgolion y grŵp uchel ei fri, Grŵp Russell. Er i mi simsanu rywfaint yn ystod fy mhrofiad o ddysgu – sydd i’w ddisgwyl, fel myfyriwr aeddfed – cefais fy nghymell i barhau gan y cymorth oedd ar gael, ac rwy’n hynod o falch iddynt wneud hynny!

Graddiais ym mis Gorffennaf eleni gyda BSc yn y Gwyddorau Cymdeithasol (2:1) ac rwy’n aelod graddedig o Gymdeithas Seicolegol Prydain. Yn ogystal, rwyf wedi gwneud ffrindiau gydol oes! Rwyf wedi dychwelyd i Brifysgol Caerdydd ar gyfer fy nghwrs ôl-raddedig a’m gobaith yw graddio eto’r haf nesaf!

Byddwn yn cynghori unrhyw un i beidio ag ofni newid eich bywyd drwy addysg – oni fyddai aros yn eich unfan am 20 mlynedd arall yn fwy brawychus? Trowch yr ofn hwnnw'n gyffro, a wynebwch yr her, wyddoch chi ddim lle bydd hynny'n mynd â chi!"

Bydd y Llwybr at y Gwyddorau Cymdeithasol nesaf yn dechrau ym mis Medi 2018.  Mae manylion am ein ystod eang o lwybrau i’w cael yma.

Rhannu’r stori hon