Ewch i’r prif gynnwys

Cymru’n cael ei rhwydwaith cyntaf o synwyryddion pelydrau cosmig

30 Tachwedd 2017

cosmic rays
Recent research shows that galactic cosmic rays flowing into our solar system originate in supernova remnants like these.

Mae rhwydwaith o ddyfeisiau i ganfod cawodydd o ronynnau egni uchel sy’n bwrw’r Ddaear yn cael ei osod yng Nghymru am y tro cyntaf.

Mae’r gronynnau, a elwir yn belydrau cosmig, yn teithio o ddyfnder y gofod ar gyflymder sydd ychydig dan gyflymder golau, a chredir eu bod yn tarddu o’r ardaloedd o gwmpas tyllau duon a sêr sy’n ffrwydro. Maent wedi bod yn bwrw’r Ddaear a phlanedau eraill ers i gyfundrefn yr haul gael ei ffurfio.

Drwy ganfod pelydrau cosmig, mae gwyddonwyr ledled y byd yn gobeithio dysgu mwy am rai o gwestiynau mwyaf seryddiaeth, megis gwreiddiau’r Bydysawd, marwolaeth sêr, a sut mae galaethau a thyllau duon yn ffurfio. Ar y Ddaear, defnyddiwyd dull o arsylwi ar belydrau cosmig i “edrych y tu mewn” i losgfynyddoedd, ac yn ddiweddar defnyddiwyd y dull hwn i ddarganfod siambr fawr gudd yn y Pyramid Mawr yn Giza.

Mae synhwyrydd cyntaf y rhwydwaith eisoes wedi’i osod ar do Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd ger canol y ddinas. Mae ail synhwyrydd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae cynlluniau ar droed am drydydd synhwyrydd yng nghanolfan arddangos Oriel Gwyddoniaeth yng nghanol dinas Abertawe.

cosmic ray detector
Two cosmic ray detectors on the roof of the School of Physics and Astronomy

The team are now exploring the possibility of installing another detector at a school in Wales, as the network will also be used as an educational resource for schoolchildren across Wales

Nawr mae'r tîm yn archwilio i'r posibilrwydd o osod synhwyrydd arall mewn ysgol yng Nghymru, oherwydd bydd yr ysgol yn cael ei ddefnyddio fel adnodd addysgu i blant ysgol ledled Cymru

Mae prosiect "QuarkNet Cymru", sydd werth £93 mil, yn cael ei ariannu gan Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Lywodraeth Cymru, ac mae'n cysylltu Cymru â dau brosiect rhyngwladol blaenllaw – sef y "Prosiect Ysgolion Uwchradd ar Ymchwil Astroffiseg a Chosmig" (HiSPARC) yn Ewrop, a'r rhaglen "QuarkNet" yn UDA.

Mae HiSPARC a QuarkNet yn galluogi ysgolion uwchradd a sefydliadau academaidd i gydweithio a ffurfio rhwydwaith i fesur pelydrau cosmig. Maent yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i gymryd rhan mewn ymchwil go iawn, gyda'r nod o ddysgu mwy am y gronynnau cosmig rhyfeddol hyn.

Pan mae pelydr cosmig yn cyrraedd atmosffer y Ddaear, mae'n creu ton o ronynnau eilaidd o'r enw mwonau sy'n lledaenu wrth iddynt deithio i'r ddaear. Drwy ddefnyddio synwyryddion sy'n gallu canfod mwonau, bydd y plant ysgol yn gallu gweithio gyda'r data i ganfod gwybodaeth am y pelydr cosmig gwreiddiol, megis ei ynni ac o le ddaeth y pelydr yn yr awyr.

O fis Ionawr 2018 ymlaen, bydd ysgolion yn gallu benthyg cyfarpar ffiseg gronynnau gan Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe, a bydd gweithdai a chyflwyniadau i ennyn diddordeb y plant ysgol mewn ymchwil go iawn i belydrau cosmig.

"Mae'n gyfle gwych i fyfyrwyr ysgol ledled Cymru gymryd rhan mewn gwaith astroffiseg cyffrous, gan ddefnyddio data sy'n dod o'n hoffer ein hun sy'n rhan o'r rhaglen ymchwil ryngwladol hon."

Yr Athro Paul Roche MSc Astrophysics Programme Coordinator

Dywedodd yr Athro Chris Allton, o Oriel Gwyddoniaeth ac Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe: "Rydym yn gyffrous i gydweithio â Chaerdydd a chynnig casgliad o synwyryddion ledled de Cymru i fyfyrwyr ysgol. Bydd hwn yn helpu i ysbrydoli'r myfyrwyr hyn i fod y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yng Nghymru."

"Mae prosiect QuarkNet Cymru yn enghraifft wych o sut mae buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn helpu i hwyluso gwaith ymchwil gwirioneddol arloesol ynghylch rhai o’r cwestiynau pwysicaf am astroffiseg drwy gydweithio ag arweinwyr byd-eang yn y maes. Yn fwy lleol, mae mor braf gweld buddsoddiad o'r fath yn galluogi QuarkNet Cymru a’i rwydwaith i gyflwyno gweithgareddau diddorol ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i ddisgyblion ledled Cymru."

Ken Skates AC Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Llywodraeth Cymru

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.