Rôl allweddol teulu newydd o lipidau wrth ffurfio clotiau
28 Tachwedd 2017
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi darganfod teulu newydd o lipidau (brasterau) sydd â rôl allweddol wrth reoli sut mae clotiau'n ffurfio.
Gallai hyn arwain at ffyrdd newydd o leihau'r risg o glotiau gormodol yn ffurfio, sef thrombosis, yn ogystal ag atal marwolaethau o ganlyniad i nifer o glefydau angheuol fel trawiadau ar y galon, strociau a thrombosis yn y gwythiennau dwfn.
Dywedodd yr Athro Valerie O'Donnell, Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau ym Mhrifysgol Caerdydd, ac arweinydd y gwaith ymchwil: "Tra bod y broses o glotiau'n ffurfio yn rhan hanfodol o'r ymateb i anaf, clotiau diangen sy'n gyfrifol am lawer o'r prif glefydau sy'n lladd. Strociau a thrawiadau ar y galon yw'r rhai mwyaf amlwg, lle mae clot gwaed yn rhwystro gwaedlestri ac yn achosi prinder ocsigen a difrod i organau. Er hyn, mae newidiadau cynnil i glotiau gwaed yn rhan o nifer o glefydau ymfflamychol hefyd, fel sepsis, diabetes a chanser hyd yn oed."
Mae'r lipidau newydd, a ffurfir gan gelloedd gwyn a phlatennau yn y gwaed, yn ffurfio arwyneb ar y celloedd sy'n helpu'r clotiau i ddatblygu'n fwy effeithiol.
Ar ôl darganfod y lipidau newydd a'u cynhyrchu yn y labordy, fe gynhaliodd yr ymchwilwyr nifer o brofion arnynt. Roedd y rhain yn cynnwys eu hychwanegu at blasma i weld a oeddynt yn gallu newid gweithgareddau clotio, ac edrych sut oeddynt yn effeithio ar lygod yn gwaedu. Canfuwyd bod y llygod nad ydynt yn creu'r lipidau hyn, yn gwaedu llawer mwy ac maent hefyd yn cael eu hamddiffyn rhag thrombosis. Canfuwyd hefyd fod rhoi'r lipidau hyn yn lleol yn lleihau'r gwaedu.
Bydd yr ymchwilwyr yn parhau â'r gwaith hwn, a'r nod yw darganfod sut i dargedu'r lipidau newydd i ddatblygu therapïau newydd.
Cyhoeddir y gwaith newydd mewn dwy astudiaeth: ‘Effective haemostasis requires networks of oxidized lipids in cell membranes that support calcium-dependent coagulation factor binding’ (Science Signalling), a arweinir gan grŵp Caerdydd, ac ‘Enzymatic lipid oxidation by eosinophils propagates coagulation, haemostasis and thrombotic disease’ (Journal of Experimental Medicine) a arweinir gan gydweithwyr o Ysbyty Prifysgol Erlangen drwy weithio gyda grŵp Caerdydd.
Ariannwyd yr astudiaethau yng Nghaerdydd gan Gyngor Ymchwil Ewrop, Ymddiriedolaeth Wellcome, a Sefydliad Prydeinig y Galon.