Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol y Gymraeg yn dathlu llu o enwebiadau Llyfr y Flwyddyn 2015

13 Mai 2015

Books on a library shelf

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn dathlu enwebiadau staff a chyn-fyfyrwyr am Wobr Llyfr y Flwyddyn 2015.

Cyhoeddwyd bod Dr Llŷr Gwyn Lewis, sydd yn ddarlithydd yn yr Ysgol, wedi ei enwebu mewn dau gategori. Mae ei waith yn ymddangos ar restr fer Barddoniaeth, gyda'i gyfrol Storm ar Wyneb yr Haul, a rhestr fer Ffeithiol Greadigol gyda Rhyw Flodau Rhyfel.

Yn ogystal ag enwebiadau Llŷr, derbyniodd Rhys Iorwerth, cyn-fyfyriwr yn yr Ysgol, le ar y rhestr fer hefyd. Cafodd ei waith, Un Stribedyn Bach, ei enwi yn y categori Barddoniaeth.

Bydd Llŷr yn mynychu'r Seremoni Wobrwyo, i'w chynnal yng Nghaernarfon ar Ddydd Iau 4 Mehefin, ar ôl dychwelyd o ymweliad â'r Almaen fel cyfrannwr i Ŵyl Ewropeaidd y Nofel Gyntaf. Yn ystod ei amser yn yr Ŵyl bydd Llŷr yn trafod ei waith gyda chyhoeddwyr ac awduron yn ogystal â chynnal darlleniadau a thrafodaethau cyhoeddus.

Dywed Llŷr am ei enwebiad: "Roedd hi'n rhyfeddol i glywed bod Storm ar Wyneb yr Haul

a Rhyw Flodau Rhyfel yn ymddangos ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Rydw i'n hynod o ddiolchgar i dderbyn y fath sylw am fy ngwaith ac yn ei chyfri'n fraint fawr. Edrychaf ymlaen at y Seremoni Wobrwyo fel cyfle i ddathlu'r amrywiaeth sydd ar gael o fewn ein llenyddiaeth, ac i rannu'r profiad gyda'm teulu a'm ffrindiau a phawb arall ar y rhestr fer."

Ychwanegodd Yr Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: "Roedd yna gyffro mawr yn yr Ysgol pan gyhoeddwyd y rhestr fer, ond dwi ddim yn synnu o weld bod Llŷr ymysg yr enwebiadau. Rydym yn llongyfarch Llŷr a hefyd Rhys Iorwerth am yr anrhydedd fawr hon ac yn dymuno pob hwyl iddynt yn y Seremoni Wobrwyo."

Cyflwynir Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015 i'r gweithiau llenyddol gorau a gyhoeddwyd yn 2014 yn Gymraeg ac yn Saesneg, a hynny mewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol-Greadigol. Gweinyddir y Wobr gan Llenyddiaeth Cymru.

Caiff enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015 eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo ar Ddydd Iau 4 Mehefin yn Galeri Caernarfon. Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, a phrif enillwyr y ddwy iaith yn derbyn £6,000 yn ychwanegol.