Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau Da Vinci'n chwilio am syniadau mawr yfory

15 Tachwedd 2017

Virtuvian man

Bydd myfyrwyr a staff â syniadau mawr sy'n gallu trawsnewid bywydau'n gwneud cyflwyniadau er mwyn ceisio cael arian yng Ngwobrau Da Vinci Prifysgol Caerdydd.

Bydd pum ymgeisydd llwyddiannus yn cael hyd at £3,000 yn y fan a'r lle, er mwyn helpu i droi eu syniadau'n brosiectau economaidd a chymdeithasol.

Mae'r Gwobrau – a gynhelir ar 21 Tachwedd – yn arddangos gallu pobl ifanc o Brifysgol Caerdydd i arloesi, ac yn helpu i feithrin cysylltiadau rhwng y Brifysgol a chefnogwyr o'r sector preifat.

Ymhlith enillwyr y llynedd roedd Liz Bagshawe, sydd wedi bod yn gweithio i ddatblygu synwyryddion ansawdd dŵr cost isel gan ddefnyddio'r arian i ddatblygu prototeipiau i’w profi mewn dalgylchoedd afon yn Nyfnaint.

Mae llawer o'r cyflwynwyr yn dod o dimau ymchwil sy'n gweithio ar draws Ysgolion y Brifysgol, ac yn cynnwys staff, myfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig o bob disgyblaeth.

Mae'r digwyddiad, sy'n agored i'r cyhoedd, wedi'i gynllunio i helpu pobl â syniadau newydd i ddod o hyd i gyllid sbarduno, a hynny â chyn lleied o drafferth â phosibl.

"Rydym ni wrth ein bodd yn nodi ein pumed Gwobrau Da Vinci blynyddol," dywedodd yr Athro David Barrow, o'r Ysgol Peirianneg.

"Eleni, bydd Ana Avaliana, o'r Academi Peirianneg Frenhinol yn ymuno â ni i gyflwyno'r Gwobrau, a hefyd cyflwyno Rhaglen Canolfan Menter yr Academi ei hun i'r gynulleidfa, sy'n cynnig cyfle gwych i ddarpar entrepreneuriaid. Er mai Peirianneg sy'n sail i'r digwyddiad, rydym ni'n awyddus i'w ehangu a chreu cysylltiadau gyda busnesau a sefydliadau allanol."

"Mae'r digwyddiad wedi tyfu bob blwyddyn, ac mae iddo un nod syml: sicrhau bod arian ar gael i staff a myfyrwyr yn gyflym, yn uniongyrchol, a heb waith papur, er mwyn annog arloesedd ar sail gwaith ymchwil."

David Barrow Professor

Mae'r Brifysgol yn datblygu Campws Arloesedd werth £300m fydd yn helpu i ddod â llewyrch economaidd a chymdeithasol i Gymru drwy greu partneriaethau rhwng arloeswyr Caerdydd a'r byd ehangach.

Bydd Gwobrau Arloesedd ac Effaith Da Vinci 2017 yn dechrau'n brydlon am 17:30 ddydd Mawrth 21 Tachwedd yng Nghlwb KuKu, Gwesty Park Plaza, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd.

Dylai myfyrwyr, graddedigion a staff sy'n dymuno cyflwyno ebostio’r Athro David Barrow i gofrestru eu syniad ar yr amseroedd olaf sydd ar gael, cyn 17:00 ddydd Gwener 17 Tachwedd, a chael manylion y cwestiynau cyffredin.

I gasglu neu archebu tocyn, cysylltwch ag Aderyn Reid, Ystafell S2.04, Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, Adeiladau'r Frenhines, The Parade, Caerdydd. CF24 3AA. Ffôn: +44 (0)29 2087 4930.

Rhannu’r stori hon

Archwiliwch ein campysau a dysgu mwy am ein cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer ein myfyrwyr.