Ewch i’r prif gynnwys

Rhodd hael yn galluogi gwaith ymchwil i waedlifau ar yr ymennydd

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Kath Jasper presents the cheque to Dr Malik Zaben and BRAIN Unit Manager Laura Bunting 1
Kath Jasper presents donation to Dr Malik Zaben and BRAIN Unit Manager Laura Bunting

Mae rhodd werthfawr gan unigolyn sydd wedi goroesi gwaedlif ar yr ymennydd wedi galluogi'r niwrolawfeddyg academaidd, Dr Malik Zaben i gynnal astudiaeth yn archwilio meddygaeth offerynnol.

Penderfynodd Kath Jasper, roi cyfraniad hael o £800 i Dr Zaben, Darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd hyn ar ôl cael llawdriniaeth ar gyfer gwaedlif ar yr ymennydd a fu bron i'w lladd, a sylweddoli'r angen brys am waith ymchwil i'r maes hwn.

Aeth Dr Zaben ati'n ddiymdroi, wrth iddo wneud defnydd da o'r arian drwy lansio archwiliad ôl-weithredol ar gyflwyniad clinigol a sut y rheolir gwaedlifau ar yr ymennydd yng Nghymru.

Cyflwr dinistriol

Mae gwaedlifau digymell ar yr ymennydd, a achosir yn gyffredinol gan ymlediadau yn yr ymennydd, camffurfiadau rhedweli-wythiennol (AVMau), a chamffurfiadau yn y rhedweli-wythiennol dwral (DAVMau), yn aml yn arwain at anafiadau difrifol i'r ymennydd sydd ag effeithiau sy'n gallu para am oes.

Mae'r astudiaeth yn edrych ar gyflwyniad clinigol a delweddau ymennydd yr holl achosion o DAVM sydd wedi'u derbyn i uned niwrolawfeddygol Ysbyty Athrofaol Cymru dros y pum mlynedd diwethaf yn ogystal â sut mae'r rhain wedi'u rheoli a beth oedd eu canlyniadau clinigol.

Nod Dr Zaben hefyd yw hysbysu sut y mae AVDMau serfigol yn y penglog yn cael eu rheoli. Dyma nodwedd bwysig iawn yng ngwaedlifau'r ymennydd er nad ydynt yn cael eu trafod yn aml mewn llenyddiaeth niwrowyddoniaeth.

Cyfraniad gwerthfawr

Yn dilyn cymeradwyaeth foesegol gan Adran Archwilio Ysbyty Athrofaol Cymru, cafwyd proses chwe wythnos o gasglu data, dadansoddi a chrynhoi gyda'r nod o gyflwyno'r canlyniadau i sut y caiff AVDMau eu trin yn llawfeddygol a radiolegol.

"Ni ellir gorbwysleisio pa mor werthfawr oedd cyfraniad hael y rhoddwr," dywedodd Dr Zaben. "Mae'r ffaith fod rhywun sydd â phrofiad personol o waedlifau ar yr ymennydd am gyfrannu'n ymarferol at ein gwaith ymchwil yn atgyfnerthu pwysigrwydd pam ein bod ni yma.

"Diolch i gymorth anhygoel ein rhoddwr, rydym yn gobeithio y bydd yr astudiaeth hon yn taflu mwy o oleuni ar y cyflwr difrifol hwn sy'n distrywio bywydau miloedd ar draws y wlad."

Wedi eich ysbrydoli?

I gefnogi gwaith ymchwil Prifysgol Caerdydd, ewch i: http://www.caerdydd.ac.uk/neuroscience-mental-health/support-us.