Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i gael gwaith

learning disabled boy working in restaurant

Mae gwaith ymchwil Caerdydd wedi arwain at gefnogaeth well i bobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i'w helpu i ddod o hyd i waith cyflogedig ledled Cymru.

Mae pobl ifanc ag anableddau dysgu neu'r rhai sydd wedi cael diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yn profi lefelau sylweddol uwch o ddiweithdra na'u cyfoedion. Yn wir, yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, 22% yn unig o oedolion awtistig sydd mewn gwaith amser llawn, ac mae'r elusen anableddau dysgu genedlaethol MENCAP yn nodi mai 6 o bob 100 o bobl ag anableddau dysgu difrifol yn unig sydd mewn gwaith o gymharu â 79% o'r boblogaeth gyffredinol.

Er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn, archwiliodd ymchwilwyr Caerdydd ddull gweithredu o'r enw model 'cyflogaeth â chefnogaeth' ac asesu a allai helpu mwy o bobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i sicrhau gwaith cyflogedig yng Nghymru.

Dylanwadodd canfyddiadau'r tîm ar bolisi Llywodraeth Cymru a'i phenderfyniad i fuddsoddi £10m i lansio prosiect o'r enw 'Engage to Change'. Mae cannoedd o bobl ifanc wedi elwa o'r prosiect hwn sydd bellach yn eu cefnogi i gael profiad gwaith a dod o hyd i waith.

Beth yw 'cyflogaeth â chefnogaeth'?

Mae cyflogaeth â chefnogaeth yn fodel sefydledig sy'n cynorthwyo pobl ag anghenion a nodwyd – fel anableddau corfforol neu anableddau dysgu – i ddod o hyd i waith cyflogedig. Mae'r model hwn yn cynnwys defnyddio hyfforddwyr swyddi arbenigol i greu proffil o unigolyn i ystyried ei sgiliau, ei brofiad a'i ddiddordebau penodol cyn ei baru â chyflogwr addas. Mae cyflogaeth â chefnogaeth yn golygu cydweithio'n agos â chyflogwyr er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfle i gael pâr llwyddiannus.

Roedd gwaith ymchwil Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad Dr Stephen Beyer, yn ystyried a oedd angen model o'r math hwn yng Nghymru i helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu i ddod o hyd i waith.  Gwnaethant ddangos y byddai model cyflogaeth â chefnogaeth yn ddull gwerthfawr ac argymell sicrhau bod pobl ifanc ag anableddau dysgu ac ASD yng Nghymru yn cael hyfforddiant o ran swyddi.

Young learning disabled boy at the computer

Dylanwadu ar benderfyniadau polisi ac ariannu Llywodraeth Cymru

Dangosodd tîm ymchwil Caerdydd yn glir yr angen am raglen gyflogaeth â chefnogaeth yng Nghymru a'r manteision posibl i bobl ifanc ag anableddau dysgu.  O ganlyniad, gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniad polisi i symud oddi wrth ddefnyddio modelau cefnogaeth ar gyflogaeth cyffredinol – gan gynnwys gwasanaethau chwilio traddodiadol am swyddi a gynigir drwy'r Ganolfan Byd Gwaith – i weithredu dull cyflogaeth â chefnogaeth.

Defnyddiodd Llywodraeth Cymru gronfa £10M hefyd i sefydlu prosiect cyflogaeth â chefnogaeth o'r enw Engage to Change a gynlluniwyd gan ddefnyddio canfyddiadau Caerdydd.

Young people standing in front of a poster

Sut mae 'Engage to Change' yn newid bywydau

Mae 'Engage to Change' yn brosiect sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gynlluniwyd i helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i ddod o hyd i waith yng Nghymru.  Fe'i cyflwynir drwy gonsortiwm o elusennau ac asiantaethau cyflogaeth â chefnogaeth ac mae'n paru cyflogwyr â darpar weithwyr drwy raglen leoliadau. Mae'r prosiect hwn yn cael gwared ar brosesau cyflogaeth ffurfiol, megis cyfweliadau, profion a chyflwyniadau, a all fod yn rhwystr mawr i bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ddod o hyd i gyflogaeth. Mae 'Engage to Change' yn argymell hyfforddiant cyn cyflogaeth, yn hytrach na'r dull traddodiadol o gyflogi gweithiwr cyn cael unrhyw hyfforddiant i wneud y gwaith.  Dyma elfen allweddol o'r model hwn sy'n ei gwneud yn fwy effeithiol i unigolion ifanc ag anableddau dysgu neu ASD gan eu bod yn cael y cyfle i gymhwyso eu hyfforddiant i sefyllfaoedd gwaith go iawn wrth ddysgu sut i gyflawni eu rôl.

engage to change logo 3

Erbyn diwedd 2021, roedd 610 o bobl ifanc anabl neu awtistig wedi ymuno â'r prosiect 'Engage to Change' i gael cefnogaeth i ddod o hyd i waith. O'r rhain, roedd 490 wedi elwa o brofiad gwaith di-dâl ac roedd 388 wedi cael lleoliadau gwaith â thâl.

'Un peth yw fy mod i'n gyflogedig, felly os yw pobl yn gofyn gallaf ddweud "ydw!". Rwy'n fwy hyderus ynof fy hun, yn dechrau bywyd newydd ac rwy'n fwy annibynnol mewn rhai pethau. Rwyf wedi dod yn fwy annibynnol yn y swydd, yn gwneud pethau, ac nid wyf yn golygu mewn gwaith yn unig ond yn gymdeithasol.'
'Un peth yw fy mod i'n gyflogedig, felly os yw pobl yn gofyn gallaf ddweud "ydw!". Rwy'n fwy hyderus ynof fy hun, yn dechrau bywyd newydd ac rwy'n fwy annibynnol mewn rhai pethau. Rwyf wedi dod yn fwy annibynnol yn y swydd, yn gwneud pethau, ac nid wyf yn golygu mewn gwaith yn unig ond yn gymdeithasol.'

Ffeithiau Allweddol

  • Ymchwiliodd ymchwilwyr Caerdydd i sut y gallai model cyflogaeth â chymorth helpu pobl ifanc anabl ac ASD i gael gwaith.
  • Dylanwadodd yr ymchwil hwn ar bolisi Llywodraeth Cymru ac arweiniodd at fuddsoddiad o £10M gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol i ariannu'r prosiect cyflogaeth â chymorth o'r enw 'Engage to Change'.
  • Mae'r prosiect 'Engage to Change' wedi cael cyfradd gyflogaeth o 53% o leoliadau â thâl, gydag 86% yn aros yn eu swyddi yn unol â metrig yr Adran Gwaith a Phensiynau o lwyddiant cyflogaeth.