Ewch i’r prif gynnwys

Algorithm clinigol yn arwain at newidiadau rhyngwladol wrth drin gwaedlif ôl-enedigol

Baby at birth

Mae datblygu protocolau triniaeth newydd yn arwain at ostyngiad mewn gwaedu enfawr a thrallwysiad ar ôl genedigaeth ledled Cymru, a newidiadau i ganllawiau ymarfer clinigol cenedlaethol a rhyngwladol.

Gwaedlif ôl-enedigol (PPH) yw prif achos marwolaethau mamau ledled y byd. Mae'r cyflwr wedi dyblu yn y DU yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, gan effeithio ar tua 5300 o fenywod ac wedi arwain at fwy na 750 o dderbyniadau i unedau gofal dwys bob blwyddyn.

Rhwng 2014 a 2016, achosodd 31 o farwolaethau i famau ledled y DU. Mae'r gwaedu yn cael ei achosi gan gymhlethdodau obstetreg ar ôl geni babi ac yn aml mae'n cael ei waethygu gan annormaleddau ceulo gwaed, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â lefelau isel y ffibrinogen ffactor ceulo.

Blood transfusion

Bydd rhywun yn dioddef Gwaedlif ôl-enedigol (PPH) os ydynt yn colli dros 500ml o waed yn ystod y 24 awr cyntaf ar ôl geni plentyn, ac yn dioddef PPH anferth os ydynt yn colli dros 2500ml. Gall nodi lefelau isel o'r protein ffibrinogen mewn plasma gwaed yn gynnar yn ystod gwaedlif helpu i ragweld pa mor debygol ydyw y byddai’r gwaedu’n troi o fod yn PPH cymedrol i fod yn PPH anferth. Fodd bynnag, mae’n cymryd rhwng 60-90 munud i gael canlyniad y prawf gwaed o’r labordy, sy'n rhy araf i fod o werth mewn argyfwng. Cyn 2013, roedd PPH fel rheol yn cael ei drin gan arllwysiad o blasma ffres wedi'i rewi (FFP) a phlatennau, gyda ffibrinogen ond yn cael ei argymell pe bai’r gwaedu’n parhau.

Ymchwil yn arwain at ddatblygu pecyn gofal newydd ar gyfer PPH

Rhwng 2008 a 2018 datblygodd tîm o Brifysgol Caerdydd dan arweiniad yr Athro Peter Collins ymchwil i gynhyrchu algorithm clinigol, a gynlluniwyd i ddisodli ffibrinogen yn gyflym yn seiliedig ar brofion pwynt gofal.

Yna datblygodd y tîm becyn gofal 4 cam, a gyflwynwyd ledled Cymru, sy'n golygu gwneud asesiad risg o famau yn ystod y cyfnod esgor a monitro colli gwaed yn ofalus, ochr yn ochr â'r defnydd o'r algorithm i adnabod mamau a allai fod angen camau ychwanegol i atal gwaedu.

Datblygwyd y pecyn ymchwil a gofal ochr yn ochr â'i gyflwyno mewn partneriaeth â chydweithwyr rhagorol yn y GIG ar draws de Cymru, hebddynt ni allai’r gwaith fod yn bosibl. Yn benodol, roedd yr anesthetyddion obstetreg Rachel Collis, Lucy de Lloyd a Sarah Bell ochr yn ochr â bydwragedd, ymgynghorwyr a meddygon iau di-ri eraill yn allweddol yn natblygiad y pecyn a'i ddefnydd dilynol yng Nghymru a thu hwnt.

Baby at birth

Herio'r dull sy'n bodoli eisoes

Mae'r pecyn gofal, a ddatblygwyd rhwng 2008 a 2018, yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Mesur colli gwaed yn gywir yn ystod genedigaeth — dangosodd ymchwil Prifysgol Caerdydd y gallai amcangyfrif gweledol o golli gwaed fod yn gamamcangyfrif o hyd at 1500ml. Creodd tîm a chydweithwyr y brifysgol ddull newydd, mwy cywir o amcangyfrif colli gwaed a allai gael ei gyflawni mewn amser real gan staff iau.
  • Profi pwynt gofal cyflym ar gyfer biofarcwyr gwaedu — gwnaeth tîm y brifysgol a chydweithwyr ymgorffori'r defnydd o brawf pwynt gofal 10 munud ar gyfer lefelau ffibrinogen, a helpodd i nodi menywod a fyddai angen trallwysiad gwaed a gweithdrefnau llawfeddygol yn ddiweddarach i reoli gwaedu.
  • Defnydd priodol o fibrinogen a ffactorau ceulo eraill - yn absenoldeb profion fibrinogen pwynt gofal, roedd llawer o fenywod yn cael trallwysiadau cynnar o plasma ffres wedi'i rewi (FFP) yn awtomatig. Gwnaeth yr ymchwil ddarganfod, gan ddefnyddio’r prawf 10 munud newydd, y pwynt lle’r oedd angen ymyrryd â thrallwysiad a ffibrinogen newydd, gan arwain at lai o drallwysiadau diangen.

Canlyniadau allweddol

Mae'r pecyn gofal newydd yn cynnig dulliau cliriach, wedi’u safoni ar gyfer monitro colli gwaed. Bydd hynny’n lleihau nifer yr achosion o PPH anferth sy'n peryglu bywyd a'r angen am drallwysiad gwaed, yn ogystal ag atal trallwyso cynhyrchion gwaed yn ddiangen.

Pan gafodd y dull newydd hwn ei ddefnyddio fel triniaeth ledled Caerdydd, bu gostyngiad o 83% mewn PPH anferth a lleihad yn nifer y mamau a oedd angen trallwysiad gwaed o 32%.

Ddeunaw mis ar ôl diwedd y cynllun peilot, cyfanswm nifer yr achosion o PPH anferth, dros 5 uned o drallwysiad gwaed neu drallwysiad FFP oedd 2.8 bob 1000 genedigaeth, o'i gymharu â 6/1000 mewn mannau eraill yn y DU.

Yn dilyn y llwyddiant hwn, cafodd y pecyn gofal newydd ei ddefnyddio mewn unedau mamolaeth ledled Cymru fel rhan o Strategaeth Gwaedu Obstetrig Cymru (OBS Cymru), gan arwain at ostyngiad o 23% mewn gwaedlif anferth ledled y wlad a gostyngiad o 29% yn yr achosion o waedu cynnar oedd yn datblygu i fod yn waedu anferth.

Yn fwy diweddar, mae'r pecyn wedi'i gyflwyno i'r Alban a Lloegr, ac mae canfyddiadau'r ymchwil hefyd wedi arwain at newidiadau i ganllawiau rhyngwladol a ddefnyddir i lywio ffordd y caiff gwaedu ei reoli’n glinigol mewn mamau yn fyd-eang.

C Section

Ffeithiau allweddol

  • Dylanwadodd canfyddiadau ymchwil Prifysgol Caerdydd hefyd ar ganllawiau clinigol, ac yn eu tro, ymarfer clinigol yn Ewrop, Awstralia a Seland Newydd.
  • Cafwyd cydnabyddiaeth am bwysigrwydd OBS Cymru gan Raglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg Gwobrau Arloesedd MediWales (Rhagfyr 2017), Gwobrau GIG Cymru ar gyfer Hyrwyddo Ymchwil Glinigol a Chymhwyso i Ymarfer (Medi 2018), gwobrau Bydwreigiaeth a Mamolaeth GIG Cymru ar gyfer hyrwyddwyr bydwreigiaeth OBS Cymru ( 2019) a gwobrau Categori Arloesedd o ran Gwella Ansawdd y British Medical Journal (Mehefin 2019).
  • Mae canfyddiadau ymchwil Prifysgol Caerdydd wedi newid canllawiau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys y rhai gan Gymdeithas Haematoleg Prydain, Coleg Brenhinol Obstetreg a Gynaecoleg, Coleg Obstetryddion a Gynaecolegwyr Brenhinol Awstralia a Seland Newydd, y Gymdeithas Ryngwladol ar Thrombosis a Haemostasis a Chymdeithasau Gynaecoleg ac Obstetreg yr Almaen, Awstria a'r Swistir.

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau pwysig