Ewch i’r prif gynnwys

Dan y Chwyddwydr: Lansio BSc ymsang mewn Gofal Brys, Cyn Mynd i’r Ysbyty, ac Ar Unwaith (EPIC)

EPIC
The launch of the Emergency, Pre-hospital and Immediate Care (EPIC) intercalated BSc

Mae’r cwrs hwn yn bodoli i hyfforddi meddygon brys cymwys, hyderus a diogel sy’n barod am yrfa ar reng flaen y GIG.

Cafodd y gwaith i ddatblygu EPIC ei arwain gan un o gynfyfyrwyr ac aelod o staff Prifysgol Caerdydd, Dr Huw Williams, ac mae’n enghraifft unigryw o gwrs a gaiff ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Pam y datblygwyd y cwrs?

Mae argyfwng cenedlaethol o ran recriwtio a chadw staff ym maes Meddygaeth Frys. Yng Nghymru, cadw staff yw’r brif broblem. Mae’r gyfradd ‘rhoi’r gorau iddi’ yn uchel. Nid yw chwarter yr hyfforddeion Meddygaeth Frys yn cwblhau eu hyfforddiant arbenigol, er bod hyfforddeion ôl-raddedig sy’n seiliedig yng Nghymru wedi rhoi’r sgôr boddhad uchaf erioed i hyfforddiant Meddygaeth Frys yn ddiweddar. Gallai hyn fod oherwydd y cysylltiad cyfyngedig â’r arbenigedd cyn dechrau ar hyfforddiant arbenigol.

Trafodwyd y mater hwn yn Symposiwm Rhyngwladol Cyntaf Cymru ar Feddygaeth Frys (WISEM16), digwyddiad Prifysgol Caerdydd a gynhaliwyd ym mis Mai 2016 lle’r oedd cynrychiolwyr o gyrff academaidd, llywodraethol a phroffesiynol yn bresennol. Plannodd WISEM16 syniad ar gyfer gradd israddedig newydd a fyddai’n rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi Meddygaeth Cyn Mynd i’r Ysbyty a Meddygaeth Frys, gan roi iddynt beth o’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt, gan hefyd sicrhau bod eu dysgu o ddefnydd waeth pa yrfa maent yn ei dewis yn y pen draw.

Sicrhau cyllid a chymeradwyaeth

Mae myfyrwyr ar y cwrs yn mynd ar leoliadau clinigol mewn adrannau brys prysur ac yn dod i gysylltiad wythnosol, cyn yr ysbyty, â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

I sicrhau cyllid ar gyfer y lleoliadau hyn, cyflwynwyd cais i Lywodraeth Cymru am gyllid Cynyddiad Gwasanaeth Meddygol ar gyfer Addysgu (SIFT). Roedd y cais yn cynnig ehangu’r ddarpariaeth o 10 myfyriwr yn Ne-ddwyrain Cymru i 15 o fyfyrwyr yng Nghymru gyfan mewn 3 blynedd yn unig, ac yn rhestru’r manteision lu y byddai hyn yn ei olygu i Brifysgol Caerdydd, Meddygaeth Frys a Chymru gyfan.

Dros gyfnod o 9 mis, fe aeth y radd drwy’r broses gymeradwyo addysgol a chafodd ei chymeradwyo gan y Coleg ym mis Rhagfyr 2016. Y mis Awst canlynol, enillodd y radd gyllid SIFT o oddeutu £100,000 ar gyfer y flwyddyn gychwynnol, a chafodd ei lansio ym mis Medi 2017 gan Vaughan Gething AC (Ysgrifennydd Iechyd), yr Athro Gary Baxter (Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd), a Dr Cliff Mann (Cyn-Lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys).

Strwythur a chynnwys y cwrs

Mae’r radd iBSc EPIC yn cynnwys 5 modiwl gan gynnwys: Argyfyngau Chwaraeon, Cyn Mynd i’r Ysbyty a Rhai Brys Eraill, Diagnosteg Frys, Gwyddorau Dadebru, Gwyddorau Trawma a Meddygaeth Bediatrig Frys, pob un ag wythnos addysgu wedi’i dilyn gan leoliad clinigol. Yn ogystal, mae’r myfyrwyr yn cynnal Prosiect Ymchwil Cynhwysol, gan roi’r cyfle iddynt ymchwilio i un o’r meysydd Meddygaeth Frys / Meddygaeth Cyn Mynd i’r Ysbyty i lefel uwch.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch ag:

Medicine Intercalation

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 27 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy edition 27

Darllenwch nhw i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.