Ewch i’r prif gynnwys

Darparu cyfleoedd Addysgu Ôl-raddedig (PGT) o ansawdd

Delivering quality Postgraduate Taught (PGT) opportunities

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i ddatblygu a meithrin gwybodaeth yn barhaus.

Yr Ysgol Meddygaeth yw un o ddarparwyr cyrsiau iechyd a meddygol ôl-raddedig mwya’r DU ar gyfer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hynny sy’n dysgu’n barhaus. Mae’n cynnig cyfres o raglenni sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am effaith ymchwil a datblygiadau technolegol arloesol a modern.

Heddiw, mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael eu herio’n barhaus gan yr ymgyrch i wella gofal cleifion a deall achosion problem glinigol yn well. Mae dealltwriaeth ac amgylchedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn newid yn barhaol. Felly, mae’r Ysgol Meddygaeth yn ymdrechu i gynnig cyrsiau addas i ategu gwaith ac uchelgais gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

O gyrsiau rhagflas Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) annibynnol i raglenni Meistr wyneb-ynwyneb amser llawn, gall yr amgylchedd dysgu fodloni amrywiaeth o ofynion. Mae’r Ysgol Meddygaeth yn cynnig dros 20 o gyrsiau sy’n cael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu maes sy’n awyddus i ddangos y dystiolaeth ddiweddaraf yn seiliedig ar dystiolaeth, boed yn yr ystafell ddosbarth, drwy ddysgu o bell ar-lein neu gyfuniad o’r ddau.

Edrychwch ar yr holl gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir sydd ar gael.

Fel yr esbonia’r Athro Ann Taylor, Cyfarwyddwr Addysgu Ôl-raddedig yn yr Ysgol Meddygaeth:

“Mae ein rhaglenni’n amrywiol ac, ar y cyfan, yn benodol i bwnc, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o ddulliau astudio, gan gynnwys ar-lein, dysgu wyneb-ynwyneb a chyfuniad o’r ddau. Mae gennym ymrwymiad hirdymor i wella ac ehangu ein gweithgarwch ôl-raddedig, gan gefnogi’r gwasanaethau iechyd i gyflawni rhagoriaeth.

Wrth dyfu a datblygu ein rhaglenni, mae angen i ni fod yn hyblyg. Mae angen i ni gynnig amrywiaeth o weithgareddau i fyfyrwyr, o weithgarwch DPP di-gredyd i raglenni Meistr. Hyd yn oed yn ein portffolio MSc, mae angen i ni gynnig opsiynau hyblyg i fyfyrwyr gyda chynnwys sy’n alinio’n well â’u gofynion gwaith.

Mae PgCert a PgDips yn dod yn fwy poblogaidd na rhaglenni MSc cyflawn, yn yr un modd â rhaglenni amser llawn ar gyfer gweithwyr gofal iechyd a gwyddonwyr sy’n hanu o’r DU. Mae angen i ni ymateb i’r newidiadau hyn. Mae angen i ni wneud mwy o waith ar yr hyn sydd ei angen ar fyfyrwyr yn dilyn eu profiad israddedig, a hynny ar gam cynnar o’r profiad hwnnw, fel y gallwn gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Eleni, cynhaliwyd Adolygiad Coleg adeiladol iawn o’n gweithgarwch PGT, ac erbyn hyn mae gennym fframwaith cadarn ar gyfer y 5 mlynedd nesaf i gefnogi a gwella profiad y myfyriwr. Mae gweithgarwch yn canolbwyntio ar wella ein hyblygrwydd, llunio 3 rhaglen newydd a chynnydd yn ein gweithgareddau DPP di-gredyd yn ogystal â rhai sy’n cynnig credydau.

Mae angen i ni fuddsoddi’n well yn ein staff, a byddwn yn cyflwyno camau datblygu mwy cadarn i staff ar ôl penodi Arweinydd(ion) Academi Addysgu newydd. Byddwn yn ymgysylltu â’r GIG yng Nghymru i geisio barn ar sut y gall Prifysgol Caerdydd wasanaethu ei anghenion orau. Rydym hefyd yn awyddus i gael awgrymiadau ynghylch sut y dylwn ddarparu hyfforddiant ôlraddedig, a byddai’n wych clywed barn ein cynfyfyrwyr.”

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 27 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy edition 27

Darllenwch nhw i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.