Ewch i’r prif gynnwys

Graddedigion ‘92 - Aduniad 25 Mlynedd

Class of '92
Class of '92.

Ar 23 Medi eleni, ar ôl blwyddyn o gynllunio, dychwelodd Graddedigion Meddygol ‘92 i Gaerdydd, eu cartref pan oeddent yn fyfyrwyr.

Daeth 120 o westeion ynghyd yng Ngwesty’r Park Plaza i fwynhau noson o lawenydd, chwerthin a rhannu atgofion.

Ddeuddeg mis yn gynharach, ar ôl taro llwch oddi ar y blwyddlyfr myfyrwyr gwerthfawr a’r llun grŵp du a gwyn cynglinigol, aeth tri aelod o’r grŵp (Ceri, Claire a Davida) ati i ddod o hyd i ddosbarth ‘92. Sawl sesiwn ‘Google’, ‘sleepovers’ a photeli o ‘bubbly’ yn ddiweddarach, roedd y gwesty wedi’i drefnu, y dyddiad wedi’i bennu a phob cyd-fyfyriwr ond deg wedi cael gwahoddiad. Roedd hi’n anos cael gafael ar rai o’r cynfyfyrwyr nag eraill, ond drwy ddyfalbarhad ac wrth i’r si fynd ar led, roedd llai na llond llaw na chafodd eu canfod.

Roedd grŵp Facebook caeedig yn ffordd amhrisiadwy o ddiweddaru’r grŵp, ac yn llwyfan i rannu syniadau a chyffro hyd at y digwyddiad, ac ar ôl hynny.

Daeth 90 o gynfyfyrwyr a 30 o westeion i’r cinio a’r ddawns. Daeth gwesteion o bob cwr o’r byd gan gynnwys America, Canada, Malaysia, yr Almaen, Ffrainc a’r Alban. Fe wnaeth rhai droi eu taith yn wyliau, tra bo eraill wedi aros dros nos i fod yn rhan o ddathliad y flwyddyn!

Class of '92....now
Class of '92......as they are now!

Dechreuodd y noson gyda derbyniad diodydd lle’r oedd gwesteion yn croesawu’i gilydd yn llawn hoffter a llawenydd. Dim ond ychydig o wynebau a oedd yn anodd eu hadnabod, yn bennaf oherwydd bod lliw eu gwallt wedi newid, neu eu bod yn ei golli!

Cofleidiwyd yr her nesaf gan ffotograffydd lleol o Gaerdydd (Sian Trenberth) a geisiodd ail-greu y llun grŵp o ‘87. Heb os ac oni bai, dyma oedd her fwyaf y noson oherwydd erbyn hyn, roedd y 90 o feddygon yn ymddwyn fel y myfyrwyr a arferant fod 25 mlynedd yn ôl – swnllyd a drygionus. Cafwyd trefn ar y sefyllfa yn y diwedd, gan arwain at lun grŵp gwych.

Ar ôl y fwydlen a chanddi thema Gymreig, dangoswyd sioe sleidiau o ffotograffau a dynnwyd yn ystod y pum mlynedd yn yr Ysgol Meddygol gyda sylwebaeth ddifyr gan Claire Young. Ac i orffen y noson, roedd disgo 80au, gyda phob trac yn cael ei dewis yn ofalus o gasgliad nos Wener y ‘Med Club’.

Gwibiodd y noson heibio mewn bwrlwm o gofleidio, cusanau, gwenu, sgwrsio a chwerthin. Daeth amser gwely ac amser brecwast yn un i’r rheiny a oedd yn aros yn y gwesty, a barhaodd i gyfnewid straeon hyd oriau man y bore.

Dyma fersiwn fyrrach o'r erthygl lawn oedd yn rhifyn 27 o ReMEDy.

Darllenwch yr erthygl lawn

ReMEDy edition 27

Darllenwch nhw i weld beth rydym wedi bod yn ei wneud.