Ewch i’r prif gynnwys

Cadw lle ar gyfer Ystafell Gyfarfod

Yn Medicentre Caerdydd, mae yna ddwy ystafell gynadledda ar gael.

Ystafell Allenbanks ym Medicentre Caerdydd
Ystafell Allenbanks ym Medicentre Caerdydd

Mae'r ystafell gynadledda fach, Ystafell Allensbank (Allenbanks Suite), yn addas ar gyfer hyd at 10 o bobl mewn cynllun arddull ystafell fwrdd. Mae'r ystafell gynadledda fawr, Ystafell y Mynydd Bychan (Heath Suite) yn addas ar gyfer hyd at 14 mewn cynllun arddull ystafell fwrdd a hyd at 30 mewn cynllun seminar.

Mae’r ddwy ystafell yn cynnwys technoleg hybrid er mwyn i chi wneud galwadau fideo dros Zoom a Microsoft Teams ac maent wedi'u gosod gyda'r canlynol:

  • WiFi a mynediad at y rhyngrwyd
  • Teledu HD 68" a 54" gyda Rheolyddion
  • Arddangosfa Ddi-wifr / Adlewyrchu / Castio drwy HDMI
  • Camera HD gyda thracio symudiadau
  • Seinyddion
  • Meicroffonau
  • Bysellfyrddau Di-wifr

Isod, rhestrir yr holl gostau archebu sydd ynghlwm â’r ystafelloedd cyfarfod a'u cyfleusterau.

  • Ystafell Gynadledda Fawr - ar gyfer pobl allanol - £26.00 yr awr
  • Ystafell Gynadledda Fach - ar gyfer pobl allanol - £21.00 yr awr
  • Fflasg o Goffi - £8.00
  • Fflasg o de - £6.00
  • Pecyn o Fisgedi - 2 fisged fesul pecyn - £0.25

Sut i gadw lle

E-bostiwch Medicentre Caerdydd i holi am yr ystafelloedd cyfarfod.

Lleoliad

Mae ein lleoliad yn gyfleus i'r rhai sydd angen bod yn agos at gampws Ysbyty Parc y Mynydd Bychan a llwybrau bysiau lleol.

Mae’r Ganolfan gyferbyn â Choleg Nyrsio Brenhinol Tŷ Maeth.

Medicentre Caerdydd