Gwasanaethau
Mae Medicentre Caerdydd yn cynnig gweithfannau hyblyg, cymorth hanfodol, a chyfleoedd i gysylltu.

Mannau a chyfleusterau
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau hyblyg sydd wedi’u cynllunio i gefnogi eich anghenion busnes, ar gampws Ysbyty Athrofaol Cymru.
- Unedau Swyddfeydd a Labordai (284 - 1045 troedfedd sgwâr)
- Mynediad cyflym iawn i’r rhyngrwyd
- Ystafelloedd cyfarfod fforddiadwy
- Termau prydles hyblyg
- Rhentu desg ar les am bris rhesymol
- Derbynfa gyda staff
- mynediad ddydd a nos, 365 diwrnod y flwyddyn
- Parcio preifat
- Systemau diogelwch wedi’u rheoli
Mae Canolfan Medicentre Caerdydd yn cynnig mannau y gellir eu haddasu ar gyfer busnesau ym maes technoleg feddygol, maes biotechnoleg a meysydd cysylltiedig, i helpu busnesau i dyfu a llwyddo mewn awyrgylch sy’n cefnogi arloesi.
Digwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio
Mae Medicentre Caerdydd yn cefnogi busnesau i dyfu drwy gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, cyfleoedd rhwydweithio, a chysylltiadau â’r diwydiant. Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau sy'n annog rhwydweithio a meithrin gwaith ar y cyd, cyfnewid gwybodaeth a datblygu busnes.
Mae ein partneriaeth agos â Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd â’n haelodaeth yn MediWales yn cryfhau’n gallu ymhellach i gysylltu busnesau â maes ehangach arweinwyr ymchwil, arloesi a gofal iechyd. P'un a ydych chi’n cymryd rhan yn ein digwyddiadau neu’n defnyddio’r rhwydweithiau hyn, rydyn ni’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu a gweithio ar y cyd.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn denant yn Medicentre Caerdydd, cysylltwch â:
Medicentre Caerdydd
Darganfyddwch fwy am ein cymuned fusnes