Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Mae Medicentre Caerdydd yn cynnig mannau gwaith hyblyg o safon sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion unigryw busnesau yn y sector technoleg feddygol, y sector biotechnoleg a’r gwyddorau bywyd.

Mae Medicentre Caerdydd ar gampws Parc y Mynydd Bychan yn Prifysgol Caerdydd.
Mae Medicentre Caerdydd ar gampws Parc y Mynydd Bychan yn Prifysgol Caerdydd.

Ers 1992, rydyn ni wedi bod yn rhoi cymorth i gwmnïau dyfu drwy ddarparu swyddfeydd y mae modd eu haddasu’n rhwydd, labordai a desgiau pwrpasol.

Cewch gymorth gan ein tîm gwybodus a brwd yn ein cyfleusterau modern, aml-bwrpas, gan gynnwys ein staff derbynfa arbenigol a chydweithwyr ar draws y Brifysgol a’i Gwasanaeth Ymchwil. Mae'r arbenigedd hwn yn cael ei gryfhau ymhellach gan fwrdd strategol arloesol. Mae'r fenter hon ar y cyd rhwng Medicentre Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi helpu llawer o fusnesau i lwyddo i gael mynediad i faes gofal iechyd a’r gwyddorau bywyd, yn lleol ac yn fyd-eang.

Rydyn ni’n cymryd balchder mewn helpu busnesau i lwyddo, a’u helpu i dyfu a ffynnu. P’un a oes angen man gwaith pwrpasol arnoch, mynediad i ystafelloedd cyfarfod hyblyg a chyfforddus, neu gymorth gan dîm proffesiynol, mae Medicentre Caerdydd yn cynnig yr hyblygrwydd a’r adnoddau sydd eu hangen ar eich busnes i lwyddo.

“Mae Medicentre Caerdydd wedi bod yn berffaith i ni. Lleoliad rhagorol, hyblygrwydd gyda rhenti a thîm cymorth cyfeillgar. Cyfuniad perffaith ar gyfer busnesau newydd.”
Stuart Gall – Prif Swyddog Gweithredol Intelligent Ultrasound

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol

Cadwch mewn cysylltiad â'r newyddion diweddaraf gan y Medicentre a thenantiaid ar Linkedin.