Ewch i’r prif gynnwys

Farsiti Cymru 2017

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Mae cyflwr canol dinas Caerdydd ͏– yn enwedig Parc Bute a'r ardaloedd o gwmpas Castell Caerdydd – ar ôl Gornest y Prifysgolion ddoe yn siomedig, ac rydym yn ymddiheuro i'r trigolion lleol ac i ymwelwyr fel ei gilydd.

"Fel rhan o'r gwaith o gynllunio ar gyfer digwyddiad mor fawr â Gornest y Prifysgolion, mae Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn cydweithio'n agos â phartneriaid allweddol, gan gynnwys Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru. Mae'r broses gynllunio yn cynnwys ystyried y goblygiadau ehangach sy'n gysylltiedig â chynnal digwyddiad mawr o'r fath i fyfyrwyr, megis sŵn, yfed yn gyfrifol, ac osgoi ymddygiad amhriodol.

"Roedd gennym dimau o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn gwirfoddoli ochr yn ochr â staff Cyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru i sicrhau bod y digwyddiad wedi'i reoli a bod yr heddlu'n bresennol, er mwyn ceisio osgoi unrhyw broblemau. Ar y cyfan, roedd y mesurau rhagweithiol hyn yn effeithiol.

"Fodd bynnag, mae trigolion lleol yn gywir i ofyn beth sy'n cael ei wneud i lanhau'r sbwriel. Mae timau o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn gwirfoddoli i godi'r sbwriel yn y ddinas. Maen nhw'n canolbwyntio'n benodol ar yr ardaloedd a effeithiwyd fwyaf, gan gynnwys Castell Caerdydd a Pharc Bute. Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Caerdydd yn ystod y gwaith o lanhau'r ddinas.

"Hoffem roi sicrwydd i drigolion bod Prifysgol Caerdydd yn ystyried ei chyfrifoldebau at y ddinas a'r gymuned leol yn bwysig dros ben. Byddwn yn gwneud rhagor o waith i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto yn y dyfodol."