Ewch i’r prif gynnwys

Gohirio’r penderfyniad cynllunio - 23 Tachwedd 2016

Mae Cyngor Dinas Caerdydd heddiw wedi gohirio’r penderfyniad cynllunio i gais Brifysgol Caerdydd i ddechrau codi adeilad nodedig yng nghanol Campws Cathays.

Roedd y penderfyniad i fod i gael ei gwneud yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd ddydd Mercher 23 Tachwedd, ond mae’r Pwyllgor bellach wedi gohirio'r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad â’r safle.

Mae'r Ganolfan Bywyd Myfyriwr yn fuddsoddiad gwerth £50m a gynigiwyd gan y Brifysgol i wella profiad myfyrwyr Caerdydd. Bydd yn creu canolbwynt ar gyfer gwasanaethau cymorth heb fod yn rhai academaidd yn y Brifysgol yn ogystal â chynnig mannau dysgu cymdeithasol modern, hyblyg a darlithfa 550-sedd gyfoethog ei thechnoleg.

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i greu’r profiad gorau oll ar gyfer ein myfyrwyr. Rydym yn edrych ymlaen at symud ymlaen â'n cynlluniau ar gyfer Canolfan ar gyfer Bywyd Myfyrwyr, a byddwn yn croesawu penderfyniad gan y Pwyllgor Cynllunio maes o law."