Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr meddygaeth Prifysgol Caerdydd

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Gallwn gadarnhau ein bod wedi cael nifer o gwynion mewn perthynas â digwyddiad honedig sy'n ymwneud â myfyrwyr meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

"Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal ymchwiliad ffurfiol i'r digwyddiad, yn unol â Chôd Disgyblu Myfyrwyr y Brifysgol. Penodwyd swyddog ymchwilio sy'n annibynnol ar yr Ysgol Meddygaeth.

"Mae Prifysgol Caerdydd yn ystyried materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth o ddifrif, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl weithgarwch.

"Mewn ymateb i'r honiadau hyn mae'r Deon Meddygaeth wedi ysgrifennu at yr holl staff a myfyrwyr i'w hatgoffa o bolisi clir y Brifysgol ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth.

"Nod y Brifysgol yw sefydlu diwylliant cynhwysol sy'n seiliedig ar urddas, cwrteisi a pharch, heb unrhyw wahaniaethu.

"Gallai unrhyw fyfyriwr y canfu ei fod wedi ymddwyn yn annerbyniol, fod yn destun camau disgyblu fel y nodir yn y Côd Disgyblu Myfyrwyr.

"Gan fod yr ymchwiliad annibynnol yn dal i fynd rhagddo, ni fydd y Brifysgol yn gwneud unrhyw sylw pellach nes y cyhoeddir canlyniad yr ymchwiliad."