Ewch i’r prif gynnwys

Adolygiad Annibynnol – 08.06.2016

Mae Prifysgol Caerdydd wedi gofyn i Dinesh Bhugra CBE, Athro Iechyd Meddwl ac Amrywiaeth yn Sefydliad Seiciatreg Coleg y Brenin Llundain, gynnal adolygiad annibynnol er mwyn ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb hiliol.

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar yr Ysgol Meddygaeth yn y lle cyntaf, ac yn rhoi sylw penodol i bryderon a honiadau diweddar mewn cysylltiad â'r ddrama Anaphylaxis a arweiniwyd gan fyfyrwyr.

Fodd bynnag, mae'r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, yn awyddus i'r Brifysgol gyfan ddysgu gwersi o'r adolygiad, a bydd ei argymhellion yn rhan o gais y Brifysgol i fod yn rhan o'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol.

Dywedodd yr Athro Riordan: "Rwyf yn falch bod yr Athro Bhurga wedi cytuno i gadeirio'r adolygiad hwn. Mae'n hanfodol cael cadeirydd uchel ei barch ac sydd â'r arbenigedd priodol, ac mae'r Athro Bhugra yn ddewis addas heb os nac oni bai.

"Rhaid i'n myfyrwyr a'n staff allu ffynnu ym Mhrifysgol Caerdydd beth bynnag fo'u cefndir, ac mae'r adolygiad yn rhan o'n hymagwedd ragweithiol i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd.

"Mae Prifysgol Caerdydd yn ystyried materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth o ddifrif, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl weithgarwch."

Bydd yr adolygiad yn dechrau yn ystod yr haf a bydd adroddiad yn barod yn yr hydref.

Bydd yr Athro Bhugra yn cael ei gefnogi gan ysgrifennydd a dau aelod annibynnol o'r panel sydd heb eu penodi eto.

Dywedodd yr Athro Bhugra: "Rwyf yn croesawu'r cyfle i gadeirio'r adolygiad hwn a chefnogi ymagwedd ragweithiol y Brifysgol.

"Edrychaf ymlaen at weithio gyda staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wrth i'r adolygiad fynd rhagddo."

-Diwedd

Nodiadau:

Y Panel

Bydd tri aelod ar y panel, gan gynnwys :

  • Unigolyn sydd â dealltwriaeth o'r gofynion cyfreithiol ym maes cydraddoldeb hiliol
  • Unigolyn sydd â phrofiad o arfer da o ran ymgorffori cydraddoldeb hiliol mewn lleoliad addysg uwch
  • Cadeirydd proffil uchel

Bydd gan un o'r rhai uchod brofiad o weithio yn y GIG ac ym maes addysg feddygol.

Cylch gorchwyl

Mae'r Brifysgol wedi penodi Panel Annibynnol i ystyried y broses o dderbyn myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig, eu profiad, eu cynnydd a'u llwyddiant. Bydd hefyd yn ystyried sut mae staff o leiafrifoedd ethnig yn cael eu recriwtio, yn ogystal â'u profiad a sut maent yn cael eu dyrchafu yn Ysgol Meddygaeth y Brifysgol.

Bydd yn ystyried a ydynt yn wynebu unrhyw rwystrau sefydliadol a diwylliannol.  Bydd y Panel yn rhoi ystyriaeth benodol i bryderon diweddar mewn perthynas â'r ddrama Anaphylaxis a arweiniwyd gan y myfyrwyr, yn ogystal â chymdeithasau myfyrwyr ac arferion yn yr Ysgol Meddygaeth, er mwyn asesu eu heffaith ar staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig.

Dyma gylch gorchwyl y Panel:

  • Ystyried y data sydd ar gael am recriwtio, cadw, cynnydd a chyrhaeddiad myfyrwyr a staff, a llunio adroddiad am ba mor ddigonol yw'r data ac unrhyw anghydraddoldebau hiliol a ddaw i'r amlwg;
  • Adolygu polisïau a gweithdrefnau perthnasol y Brifysgol, y Colegau a'r Ysgolion, gan gynnwys y rhai yn yr Ysgol Meddygaeth, er mwyn asesu pa mor addas ydynt. Drwy drafod gyda staff a myfyrwyr y Brifysgol, bydd hefyd yn cynghori ynglŷn â'u heffeithiolrwydd ac yn cynnig argymhellion perthnasol;
  • Ystyried y pryderon a fynegwyd ynghylch y gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr ac arferion yn yr Ysgol Meddygaeth. Yn benodol, bydd yn ystyried y rhai sy'n gysylltiedig â chynhyrchiad blynyddol y myfyrwyr, Anaphylaxis, a chynnig argymhellion perthnasol;
  • Ystyried effeithiolrwydd cwricwlwm academaidd a chlinigol yr Ysgol Meddygaeth o ran amrywiaeth a phroffesiynoldeb, a chynnig argymhellion perthnasol;
  • Clywed am brofiadau myfyrwyr a staff yn y Brifysgol ac amlygu unrhyw anghydraddoldebau hiliol a ddaw i'r amlwg yn ystod y trafodaethau hyn.
  • Ystyried amcanion a thargedau presennol yr Ysgol Meddygaeth o safbwynt cydraddoldeb hiliol, a chynnig argymhellion perthnasol yng ngoleuni'r materion a nodir uchod.

Bydd y Panel yn cynnig argymhellion penodol o fewn fframwaith i'r Ysgol Meddygaeth a chymdeithasau myfyrwyr cysylltiedig. Bydd modd rhoi'r rhain ar waith yn ehangach mewn meysydd arferion proffesiynol eraill a'r Brifysgol yn gyffredinol.

Y Broses

Bydd y Brifysgol yn:

  • Penodi Ysgrifennydd y Panel i arwain y broses o gasglu'r data, y polisïau, a'r tystion yr hoffai'r Panel gwrdd â nhw; a
  • Galw am dystiolaeth er mwyn i staff a myfyrwyr allu cyflwyno gwybodaeth i'r Panel sy'n cyfleu eu barn ynglŷn â chydraddoldeb hiliol yn y Brifysgol, a'u profiad ohono.

Manylion bywgraffiadol – Yr Athro Dinesh Bhurga

Mae Dinesh Bhugra yn Athro Emeritws Iechyd Meddwl ac Amrywiaeth Diwylliannol yn Sefydliad Seiciatreg, Coleg y Brenin Llundain.

Roedd yn Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ymddiriedolaeth Sefydliad De Llundain a Maudsley y GIG. Roedd yn Llywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion rhwng 1992 a 2014, ac mae'n Llywydd Cymdeithas Seiciatryddol y Byd ar hyn o bryd.

Mae'r Athro Bhugra wedi bod yn aelod o Bwyllgor Addysg Cymdeithas Seiciatryddol Ewrop, a bu'n arwain prosiect ymchwil rhyngwladol a ariannwyd gan Gymdeithas Seiciatryddol y Byd am recriwtio myfyrwyr meddygol i faes seiciatreg ar draws 23 o wledydd.  Mae wedi arwain modiwlau hyfforddiant a dylanwadu ar gwricwla mewn llawer o sefydliadau, gan gynnwys Prifysgol Tsieineaidd Hong Kong.

Mae wedi ysgrifennu/golygu dros 30 o lyfrau, 90 o benodau, 100 o erthyglau golygyddol a thros 180 o bapurau. Enillodd ei lyfr 'Textbook of Cultural Psychiatry' Wobr Ysgoloriaeth Greadigol 2012 gan y Gymdeithas Astudio Seiciatreg a Diwylliant, a chafodd ganmoliaeth yng Ngwobrau Llyfrau BMA yn 2008. Cafodd ei lyfr ‘Mental Health of Refugees and Asylum Seekers’ ei ganmol i'r cymylau yng Ngwobrau BMA 2011.

Mae'r Athro Bhugra yn arbenigwr ac yn sylwebydd cymdeithasol adnabyddus ym maes seiciatreg iechyd cyhoeddus: seiciatreg traws-ddiwylliannol, iechyd meddwl mewnfudwyr, proffesiynoldeb mewn seiciatreg, iselder, meddygaeth seicorywiol, darparu gwasanaethau a gwneud penderfyniadau.

Cewch ragor o wybodaeth yn: www.dineshbhugra.net/