Ewch i’r prif gynnwys

Ymateb Prifysgol Caerdydd i’r Adolygiad Annibynnol o Faterion Cydraddoldeb Hiliol yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd - 25 Ionawr 2017

Ymateb Prifysgol Caerdydd i'r argymhellion yn adroddiad Bhugra.

1. Dylid mynd ati yn rhagweithiol i annog pobl i beidio â stereoteipio unrhyw unigolyn, neu grŵp o unigolion, mewn modd sarhaus. Dylai'r argymhelliad hwn gael ei rannu'n eang a'i amlygu'n glir yn y Côd Ymddygiad ar gyfer yr holl staff a myfyrwyr Dylid egluro y gall ymddygiad o'r fath arwain at gamau disgyblu neu gamau eraill.

DERBYN: Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ei bod yn mynd ati yn rhagweithiol i annog pobl i beidio â stereoteipio unrhyw unigolyn, neu grŵp o unigolion, mewn modd sarhaus.

Mae hyn wedi'i gynnwys ac yn cael ei orfodi mewn sawl un o brif bolisïau'r Brifysgol. Fe eglurir hefyd y gall ymddygiad o'r fath arwain at gamau disgyblu neu gamau eraill.

Mae'r polisïau yn cynnwys:

  • Gweithdrefn Addasrwydd i Ymarfer. Dyma un rhan o reoliadau ymddygiad y Brifysgol (sydd hefyd yn cynnwys Ymddygiad Myfyrwyr/Disgyblaeth ac Arfer Annheg). Mae'r Weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer yn cyflwyno'r safonau ymddygiad a gofynion eraill o ran Addasrwydd i Ymarfer, ac mae'n egluro sut caiff pryderon eu hymchwilio a'u cyflwyno i bwyllgor er mwyn cosbi, os yn briodol. Pan mae myfyriwr yn ymrestru ar raglen broffesiynol, bydd disgwyl i'r myfyriwr ddangos, drwy gydol cyfnod ei astudiaethau, ei fod yn addas i ymarfer yn ei broffesiwn dewisol. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod ei ymddygiad fel myfyriwr yn broffesiynol yn ystod cyfnod ar leoliad, yn y Brifysgol ac yn ei fywyd personol. Dyma'r ddolen i drosolwg o'r Weithdrefn Addasrwydd i Ymarfer ac arweiniad iddo: https://intranet.cardiff.ac.uk/students/your-study/your-rights-and-responsibilities/fitness-to-practise
  • Polisi Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio. Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r ffyrdd y mae disgwyl i staff a myfyrwyr ymddwyn tuag at eraill. Ei nod yw sicrhau bod honiadau o aflonyddu, bwlio neu erledigaeth, (gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig rhywedd, hil, oed, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd/cred, ailbennu rhywedd, priodas/partneriaeth sifil neu feichiogrwydd a mamolaeth) yn cael sylw teg ac yn parchu hawliau ac urddas pawb o dan sylw.
  • Ymddygiad a Disgyblaeth Myfyrwyr. Mae'r Brifysgol hefyd wedi diffinio'r Rheolau Ymddygiad y mae'n rhaid i bob myfyriwr eu dilyn. Mae Gweithdrefn Ymddygiad y Myfyrwyr yn cyfeirio at y drosedd o aflonyddu myfyrwyr neu aelodau staff ac mae'r diffiniad yn cynnwys aflonyddu neu fwlio mewn cysylltiad â nodwedd warchodedig.
  • Mae'r weithdrefn hefyd yn cyfeirio at hawliau a chyfrifoldebau sydd wedi'u cynnwys mewn dogfennau eraill gan gynnwys ein Polisi Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio.
  • Siarter y Myfyrwyr. Mae'r Siarter yn egluro beth y gall myfyriwr ei ddisgwyl gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr a beth a ddisgwylir gan fyfyriwr.

Rydym yn derbyn y gallai'r polisïau hyn gael eu rhannu'n well. Ar sail yr argymhelliad hwn, byddwn yn ystyried pa gamau ychwanegol y gellir eu cymryd i wella ymwybyddiaeth staff a myfyrwyr o'r polisïau hyn.

Mae gennym dudalennau penodol ar eu cyfer ar ein gwefan ac ar fewnrwyd y staff. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.caerdydd.ac.uk/public-information/equality-and-diversity

Mae'r Brifysgol wedi treialu sesiwn cydraddoldeb ar gyfer myfyrwyr newydd yn rhan o'r broses sefydlu hefyd, ac mae cyflwyniad am hyfforddiant cydraddoldeb ar gael ar-lein ar gyfer yr holl fyfyrwyr: https://learningcentral.cf.ac.uk/bbcswebdav/courses/REGOS-ELTTStudent/E%26DTrainingNov16/story_html5.html

Mae'r Brifysgol yn adolygu'r Polisi Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio a Siarter y Myfyrwyr ar hyn o bryd.

2. Fel mater o frys, dylai'r Brifysgol ofyn i wasanaeth allanol gynnal gwaith cymodi i geisio dod â'r ddau grŵp o fyfyrwyr ynghyd i drafod eu gwahanol safbwyntiau er mwyn i bawb allu symud ymlaen.

DERBYN: Mae'r Ysgol Meddygaeth eisoes yn gweithio gyda sefydliad cymodi allanol er mwyn paratoi rhaglen fydd yn cefnogi cyfathrebu ac egwyddorion cymodol.

Y nod yw cynyddu atebolrwydd, empathi a chyfrifoldeb, ac adfer y niwed lle bo'n bosibl; cynnwys pawb a gafodd eu heffeithio fel eu bod yn cael dweud eu dweud; camau cymodol gan y rhai a achosodd y niwed; a symud ymlaen fel corff i ailadeiladu cysylltiadau; mynd ati fel Prifysgol i ddatrys problemau ac atal niwed yn y dyfodol drwy addysgu a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn ogystal â mabwysiadu egwyddorion cymodol er mwyn camu i mewn cyn gynted â phosibl.

Mae rhaglen ddrafft yn cael ei llunio ar hyn o bryd a bydd manylion yr holl gamau gweithredu ar gael yn gyffredinol.

3. Clywodd y Panel ystod eang o safbwyntiau ynghylch anfanteision i staff benywaidd a staff Du a Lleiafrifoedd Ethnig. Er nad oedd edrych ar fanylion penodol achosion unigol yn rhan o'i gylch gorchwyl, roedd y Panel yn credu y dylai'r Brifysgol geisio cynyddu amrywiaeth ei staff.

DERBYN: Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo gant y cant i gynyddu amrywiaeth ei staff. Rydym yn derbyn bod rhagor i'w wneud i wrthdroi'r duedd hirsefydlog hon ar draws y sector.

Mae'r Brifysgol eisoes yn cymryd nifer o gamau rhagweithiol i gynyddu amrywiaeth ein staff.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Rhaglen benodedig i ddatblygu gyrfaoedd academyddion benywaidd. Dyma raglen sydd wedi bod ar waith ers tro byd sy'n rhoi cyfle i academyddion benywaidd ystyried eu gyrfa a'u proffil ar gyfer y dyfodol. Maent yn gallu treulio amser gydag aelod benywaidd o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol i drafod eu dewisiadau gyrfaol a sut maent wedi ymdopi â gwahanol sefyllfaoedd. Ystyrir eu sgiliau cyfathrebu a rheoli gwrthdaro yn ogystal â'u pendantrwydd, a rhoddir y cyfle iddynt ddysgu am sut i gael dyrchafiadau academaidd ac edrych ar enghreifftiau llwyddiannus o geisiadau am ddyrchafiadau o'r fath.
  • Mae'r Brifysgol yn mynd ati mewn modd rhagweithiol i hyrwyddo a chefnogi Sefydliad Arweinyddiaeth Addysg Uwch. Ei nod penodol yw helpu academyddion Du ac o Leiafrifoedd Ethnig ar ddechrau eu gyrfa sy'n ystyried cyflwyno cais am uwch-swydd reoli mewn addysg uwch, neu am wneud hynny yn y dyfodol.
  • Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno cais i gyflawni'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol ac mae wedi ymrwymo'n llawn i wneud hynny. Nod y Siarter yw gwella cynrychiolaeth, datblygiad a llwyddiant staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig mewn addysg uwch. Ym mis Gorffennaf 2017 mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ein cais.
  • Mae gan y Brifysgol wobr Athena Swan (Efydd). Ar ben hynny, mae gan Ysgolion a Cholegau ddyfarniadau unigol. Mae’r Wobr yn cydnabod y gwaith a wneir i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn fwy eang, ac nid rhwystrau at ddilyniant sy’n effeithio ar fenywod yn unig.

Byddwn yn parhau i hyrwyddo pob un o'r camau hyn ac ychwanegu atynt lle bo'n bosibl.

4. Dylid rhannu'r adroddiad hwn yn ddiymdroi er mwyn iddo allu arwain staff a myfyrwyr. Dylai'r Brifysgol geisio mynd i'r afael â'r pryderon arwyddocaol ac eang a godwyd gan staff benywaidd a Du neu o Leiafrifoedd Ethnig, gan gynnwys y ffaith nad oes digon o staff o'r grwpiau hyn mewn uwch-swyddi academaidd.

Derbyn: Penderfyniad y Brifysgol oedd cynnal yr Adolygiad Annibynnol hwn.

Er mwyn bod yn agored a thryloyw, rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod yr adroddiad ar gael i'r cyhoedd.

Bydd yr adroddiad llawn ac ymateb y Brifysgol ar gael ar wefan y Brifysgol.

Bydd pob datganiad sy'n berthnasol i'r ymchwiliad hefyd ar gael ar wefan y Brifysgol.

Caiff erthygl a dolen i'r adroddiad llawn ei hanfon at bob aelod o staff a'r holl fyfyrwyr drwy e-gylchlythyrau Blas y Brifysgol.

O ran y camau i fynd i'r afael â diffyg cynrychiolaeth ymysg uwch-staff, gweler ein hymateb blaenorol (Argymhelliad 2).

5. Dylai'r Brifysgol roi sylw manwl i'w weithdrefn gwynion i wneud yn siŵr bod cyfres glir o ganllawiau ar gyfer cwynion ynghylch hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu. Dylai'r Brifysgol wneud yn siŵr ei bod yn ymateb i gwynion o'r fath mewn modd sensitif a chydnabod bod modd datrys rhai cwynion heb orfod troi at weithdrefnau ffurfiol drwy gymryd camau datrys anffurfiol.

DERBYN: Rydym yn croesawu'r argymhelliad hwn a byddwn yn ystyried y dewisiadau a allai adael i ni ddilyn gweithdrefnau amgen ac anffurfiol.

Mae'r Brifysgol yn adolygu ei Pholisi Urddas yn y Gwaith ac Wrth Astudio ar hyn o bryd a byddwn yn ystyried yr argymhelliad yn rhan o'r adolygiad hwn.

Fodd bynnag, rhaid cydnabod hefyd ein bod yn gorfod cynnal ymchwiliad os bydd grŵp o fyfyrwyr yn dewis gwneud cwyn ffurfiol, a chymryd camau ar sail ein canfyddiadau.

6. Mae'r Panel yn cydnabod bod cefnogaeth wedi'i chynnig i'r ddau grŵp o fyfyrwyr. Fodd bynnag, o ystyried y cwynion parhaus bod y myfyrwyr yn teimlo eu bod heb gael eu cefnogi, efallai y byddai'n syniad symleiddio'r prosesau. Er enghraifft, dylai'r Brifysgol ystyried diwygio ei gweithdrefnau fel bod modd cynnig aelod penodol o staff/mentor i'r sawl sy'n cwyno i roi cefnogaeth fugeiliol ar unwaith lle bo angen. Yn yr un modd, dylid cynnig cefnogaeth o'r fath i'r unigolyn/unigolion y cwynir yn eu cylch.

DERBYN: Rydym yn croesawu'r argymhelliad hwn a byddwn yn ceisio gwneud yn siŵr bod staff bugeiliol a chynghorol ar gael ar gyfer y rhai sy'n gwneud cwyn yn y dyfodol a bod myfyrwyr yn deall yr arfer hwn yn llawn fel eu bod yn manteisio'n llawn ar y gefnogaeth ychwanegol hon.

O ran y digwyddiad o dan sylw, mae'r Brifysgol yn croesawu'r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod y gefnogaeth a roddir i'r cwynwyr drwy'r broses, ac rydym yn tynnu sylw at y gefnogaeth a gynigir gan Ddirprwy Is-Ganghellor a Chofrestrydd Academaidd y Brifysgol i fyfyrwyr.


Yn fwy cyffredinol ac ym mhob achos, mae ein gweithdrefnau cyfredol yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cefnogi'r Brifysgol ac y dyrennir unigolyn penodol ar eu cyfer. Rydym hefyd yn cyfeirio pobl at Wasanaeth Cynghori annibynnol Undeb y Myfyrwyr. Rydym wedi nodi bod y Panel Adolygu wedi canmol y gwasanaeth hwn yn benodol.

Mae'r myfyrwyr hefyd yn gallu manteisio ar:

  • Diwtor personol;
  • Manylion cyswllt sy'n ymwneud ag ymchwiliad y weithdrefn gwynion;
  • Gwybodaeth am sut i gael gafael ar gefnogaeth fugeiliol e.e. drwy'r Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr

7. Dylid cyfathrebu'n brydlon ac yn glir â phawb sydd wedi'u heffeithio'n uniongyrchol gan unrhyw gŵyn. Dylai'r unigolyn/unigolion sy'n cwyno, a'r unigolyn/unigolion y gwneir y cwyn amdanynt, gael gwybod am sefyllfa ddiweddaraf y gŵyn yn rheolaidd yn ystod y broses. Os bydd y sefyllfa anarferol hon yn digwydd eto, dylai unrhyw un sydd wedi cael ei bortreadu mewn modd sarhaus gael cefnogaeth briodol

DERBYN: Gwneir pob ymdrech i wneud yn siŵr bod unigolion yn cael gwybod am hynt a helynt unrhyw gŵyn.

Fodd bynnag, mae'r weithdrefn a'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â diogelu data yn gallu ein rhwystro rhag rhannu gwybodaeth. Yn aml, mae'r cyfyngiadau hyn ar waith am resymau dilys.


Rhaid i'r Brifysgol ddilyn ei gweithdrefn sydd wedi'i chyhoeddi oherwydd gallai peidio â gwneud hynny fod yn sail ar gyfer apêl a her. Mae datgelu gwybodaeth bersonol i unigolyn heb awdurdod yn anghyfreithlon.

Rydym yn derbyn y gallwn wneud mwy i gyfathrebu ag unigolion. Yn benodol, dylem egluro wrth y rhai sy'n cwyno ar y dechrau pa fath o wybodaeth y gallwn ei rhannu am yr achos a'r canlyniad.

Felly, byddwn yn ailedrych ar ein gweithdrefn i wneud yn siŵr bod unigolion yn gwybod yn union pryd y byddant yn cael gwybodaeth. Byddwn yn ceisio creu datganiad clir ar ddechrau unrhyw gŵyn sy'n nodi beth y gallant ei ddisgwyl yn ystod y broses.

8. Cafodd y Panel drafferth deall strwythurau'r Cynlluniau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Brifysgol a'r Ysgol Meddygaeth, ac awgrymodd bod angen eu hegluro.

DERBYN: Rydym yn derbyn bod angen egluro'r strwythurau. Ar ôl penodi Is-ddeon Cydraddoldeb ac Amrywiaeth newydd Ysgol Meddygaeth y Brifysgol, mae strwythurau newydd yn cael eu rhoi ar waith ar draws yr Ysgol Meddygaeth. Mae Pwyllgorau Adnoddau Dynol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth penodedig yn cael eu sefydlu ym mhob isadran a chanolfan (8 i gyd) yn yr Ysgol Meddygaeth.

Mae'r cylch gorchwyl wedi'i baratoi sy'n nodi manylion strwythur y pwyllgorau. Bydd staff (a myfyrwyr) o bob gradd a rhyw yn cael eu cynrychioli ynddynt. Bydd yr aelodau yn cynrychioli'r amrywiaeth eang o staff ym mhob gweithle.

9. Dylai'r cwricwlwm ar gyfer myfyrwyr meddygol blwyddyn gyntaf gynnwys Meddygaeth a Chymdeithas yn rhan o'r rhaglen sefydlu yn fuan ar ôl iddynt ddechrau yn yr Ysgol Meddygaeth. Rhaid i hyn gynnwys hyfforddiant mewn proffesiynoldeb meddygol. Dylai hefyd gynnwys mynd i'r afael ag achosion o ragfarn anymwybodol a stereoteipio. Dylai'r pynciau hyn gael eu cynnwys yn y cwricwlwm bob blwyddyn o ran cyflwyno'r syniadau sylfaenol a'u datblygu.

DERBYN: Fe gyflwynodd Deon Addysg Feddygol y Brifysgol hyfforddiant am gydraddoldeb ac amrywiaeth i fyfyrwyr yn ystod wythnos gyntaf eu hastudiaethau.

Mae wedi'i gyflwyno yn y gorffennol, ond rhoddwyd mwy o bwyslais arno yn ystod y cyflwyniad eleni a bydd yn flaenoriaeth yn y dyfodol.

Byddwn hefyd yn datblygu'r hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth sylfaen yr ydym yn ei gyflwyno ar hyn o bryd am hil, rhywedd a rhagfarn/stereoteipio anymwybodol.

Caiff y rhan hon o'r cwricwlwm ei hystyried o dan gylch gorchwyl Thema Deall Pobl.

Cafodd gweithgor penodol ei sefydlu ar ddechrau cwricwlwm C21, a bydd yn atebol i dîm y cwricwlwm ac yn cyd-fynd ag agweddau am broffesiynoldeb ar y cwrs.

Rydym wedi gwahodd yr Athro Nisha Dogra i wneud cyflwyniad yng nghynhadledd flynyddol cwricwlwm yr Ysgol Meddygaeth er mwyn tynnu mwy o sylw at y materion hyn ac annog mwy o drafodaeth ac arloesedd yn y maes.

Mae Ysgol Meddygaeth y Brifysgol wedi bod yn sgwrsio gyda chydweithiwr yn Seland Newydd ac mae'n mynd ati mewn modd rhagweithiol i chwilio am ffyrdd y gallwn rannu'r arferion da ym maes cymhwysedd diwylliannol.

10. Dylai'r Ysgol Meddygaeth gydweithio ag Undeb y Myfyrwyr a'r gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr i addysgu a galluogi myfyrwyr meddygol i baratoi gweithgareddau fel adolygiadau myfyrwyr sy'n cyd-fynd â chenhadaeth a gwerthoedd y Brifysgol. Bydd cydweithio ag Undeb y Myfyrwyr hefyd yn gwneud yn siŵr bod cyngor effeithiol ar gael i'r holl fyfyrwyr wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath.

DERBYN: Byddwn yn ystyried yr argymhelliad hwn yn rhan o adolygiad parhaus y Brifysgol o Siarter y Myfyrwyr. Caiff ei ystyried ymhellach yn rhan o ymgysylltiad parhaus yr Ysgol Meddygaeth ag Undeb y Myfyrwyr.

Bydd Cofrestrydd Academaidd y Brifysgol yn cwrdd â Llywydd a Swyddog Materion Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig Undeb y Myfyrwyr i drafod yr argymhelliad hwn ac ystyried pa gamau sydd eu angen i symud ymlaen ar y mater.

11. Dylai holl staff y Brifysgol gael hyfforddiant rheolaidd am amrywiaeth gan gynnwys materion sy'n ymwneud â hil, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.

DERBYN: Mae holl staff y Brifysgol yn cael hyfforddiant ar-lein gorfodol am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Rydym yn diwygio'r rhaglen ar hyn o bryd a chaiff ei ail-lansio maes o law.

Byddwn yn gofyn i bob aelod o staff sydd wedi bod gyda'r Brifysgol ers blwyddyn gwblhau'r hyfforddiant hwn eto.

Mae'r Brifysgol hefyd wedi paratoi rhaglen ar-lein am 'ragfarn anymwybodol'. Mae hwn yn orfodol i rai grwpiau ond nid pob un. Byddwn yn ystyried hyn unwaith eto yn sgîl yr argymhelliad hwn.

12. Dylid sefydlu Cynllun Mentora effeithiol sydd ar gael ar gyfer pob aelod newydd o staff yn ogystal â staff mwy profiadol er mwyn canolbwyntio ar ddilyniant eu gyrfa. Dylai hyn hefyd ddiwallu anghenion staff Du a Lleiafrifoedd Ethnig neu fenywaidd sydd, yn draddodiadol, wedi cael mwy o anhawster dilyn gyrfa lwyddiannus yn y Brifysgol. Dylai mentoriaid gael hyfforddiant a chael eu dewis yn ofalus o gefndir amrywiol.

DERBYN: Mae gan y Brifysgol nifer o gynlluniau mentora sydd wedi'u paratoi'n benodol i ddiwallu anghenion staff Du a Lleiafrifoedd Ethnig a staff benywaidd.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Dyrennir mentor ar gyfer staff sy'n aelodau o raglen arweinyddiaeth y staff;
  • Mae gan golegau unigol gynlluniau mentora wedi'u teilwra;
  • Dyrennir menter priodol hefyd ar gyfer y staff sy'n cymryd rhan yn y Sefydliad Arweinyddiaeth;
  • Mae'r Brifysgol yn aelod o Gynllun Mentora Menywod mewn Prifysgolion (WUMS). Cynllun Cymru-gyfan yw hwn sy'n ceisio hyrwyddo a hwyluso datblygiad proffesiynol menywod sy'n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru drwy sefydlu partneriaeth fentora rhwng prifysgolion.

Rydym yn derbyn bod lle i wella o hyd a byddwn yn ystyried yr argymhelliad hwn yn rhan o'r gwelliannau parhaus.

13. Dylid ymgysylltu'n barhaus â Chyngor yr Ysgolion Meddygol er mwyn ystyried camau pellach i fynd i'r afael â hiliaeth ac amrywiaeth mewn gwaith cwrs yn hytrach nag addysgu amdano ar un achlysur penodol.

Derbyn: Mae Ysgol Meddygaeth y Brifysgol wedi ymgysylltu â Grŵp Amrywiaeth mewn Meddygaeth ac Iechyd (DIMAH) sy'n dod â'r holl ysgolion meddygaeth ynghyd i edrych ar sut y cyflwynir Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac i rannu arferion gorau. Fe gyflwynwyd ein data ganddynt y llynedd a byddant yn parhau i wneud hynny. Mae'r adnoddau a ddatblygir drwy DIMAH yn cael eu rhannu gyda ni a byddwn yn gwneud ein gorau i'w mabwysiadu a'u gweithredu, gan roi sylw penodol i'r cwricwlwm cudd.