Ymosodiadau yn Jakarta
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Yn dilyn yr ymosodiadau yn Jakarta, rydym yn ymwybodol bod grŵp bach o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar daith maes yn y ddinas ar hyn o bryd.
Gallwn gadarnhau ein bod yn gwybod ble mae'r holl staff a'r myfyrwyr a'u bod yn ddiogel.
Mae'r grŵp wedi’i leoli ym Mhrifysgol Indonesia, sydd y tu allan i'r ardal lle digwyddodd yr ymosodiadau. Mae staff lleol yn cynghori'r grŵp ac maent yn parhau i ddilyn canllawiau swyddogol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO).
Mae gan y Brifysgol gymuned fawr o fyfyrwyr rhyngwladol – gan gynnwys myfyrwyr o Indonesia.
Os yw'r digwyddiadau hyn wedi effeithio ar unrhyw fyfyriwr, gallant gysylltu â Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol i gael cyngor ar unwaith neu ofyn am gefnogaeth drwy wasanaeth cwnsela'r Brifysgol: www.caerdydd.ac.uk/studentsupport
Mae cyngor swyddogol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ar gael yma hefyd: www.gov.uk/foreign-travel-advice/indonesia