Ewch i’r prif gynnwys

Cyrraedd y tudalennau blaen

Rydym yn rhannu ein harbenigedd ac yn newid ein dealltwriaeth o hanes, archaeoleg a chrefydd dros fwy na dwy fileniwm.

Mae galw mawr am ein dirnadaeth, o gyfresi teledu mawr i gyfres podlediadau amlwg, gydag arbenigedd yn rhoi cyd-destun i newyddion ledled y byd.

Edrychwch ar rai uchafbwyntiau diweddar yn y ciplun hwn.

Mobile phone and laptop showing news pages

Sylw yn y wasg

Drwy gydol y flwyddyn, mae ein hymchwil, ein cenhadaeth ddinesig a’n prosiectau ymgysylltu yn cyrraedd y tudalennau blaen.

Cafodd pedwar o'n darganfyddiadau diweddaraf sylw enfawr, gyda 1000+ o drawiadau yn y cyfryngau yn fyd-eang o gyfnodolion a chylchgronau arbenigol fel New Scientist, Cosmos a Science News, prif gyfryngau’r newyddion fel The Guardian, The Times a The Telegraph i eitemau nodwedd ar y radio a’r teledu yn y DU ac yn rhyngwladol.

Myfyrwyr yn amgylchynu'r bedd ac yn cloddio'r ardal

Tystiolaeth o ddefodau gwledda hynafol yr Oesoedd Canol yn cael ei datgelu ar dir eiddo hanesyddol

Safle unigryw a phrin yn cynnig cipolwg newydd inni ar sut beth oedd byw yng Nghymru gynnar

The Many Faces of Tudor Britain

Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn arwain at ganfyddiadau newydd am y Mary Rose

Dadansoddiad archeolegol yn allweddol i daflu goleuni ar orffennol amrywiol y criw

Ieir am oes nid cinio yn unig

Roedd anifeiliaid, sydd bellach yn cael eu bridio ar raddfa fawr ar gyfer cig ac wyau, yn cael eu hystyried yn y lle cyntaf yn bethau anarferol ac anghyffredin ac roedd ganddynt swyddogaethau arbennig

Stonehenge

Prydeinwyr cynhanesyddol yn casglu milltiroedd bwyd i wledda ger Côr y Cewridda ger Côr y Cewri

Astudiaeth arwyddocaol yn dangos y pellteroedd aruthrol a deithiwyd ar gyfer digwyddiadau torfol cenedlaethol

Gŵyl y Gelli

Y Maes Cyhoeddus

Drwy gydol y flwyddyn, rydym yn rhannu ein gwaith gartref mewn sefydliadau mawr.

O'r Llyfrgell Brydeinig i'r Smithsonian ac mewn digwyddiadau rhyngwladol o Ŵyl y Gelli i'r Eisteddfod, mae ein harbenigwyr yn ymddangos yn rheolaidd mewn cyfresi sgwrsio poblogaidd.

Gwyliwch sgyrsiau TedX diweddar

Dysgu o'r gorffennol i ddiogelu ein dyfodol

Gyda'r Athro Mary Heimann

Gwyddoniaeth, celf a dychymyg

Gyda'r Athro Jacqui Mulville

Film camera with subject on preview screen

Teledu

Mae ein hacademyddion yn ymddangos yn rheolaidd ar sgriniau teledu, gan roi dirnadaeth i'r celfyddydau, treftadaeth, hanes, diwylliant a chrefydd.

Dyma rai enghreifftiau diweddar:

Digging for Britain

Mae ein prosiectau a'n cloddiadau archaeoleg yn ymddangos yn rheolaidd yn y gyfres deledu boblogaidd hon gan y BBC, gan ddatgelu'r darganfyddiadau archeoleg diweddaraf yn y wlad hon.

Roedd tri o'n cloddiadau 2023 i'w gweld yn y gyfres ddiweddaraf, a ddarlledwyd gyntaf ym mis Ionawr 2024:

Cyfres 11

Alice Roberts
BBC Radio 4 In Our Time

Radio

Rydym yn rhannu ein gwybodaeth arbenigol ar y tonnau awyr hefyd, gydag effaith boblogaidd dorfol ar gyfresi fel In Our Timear BBC Radio 4.

Mae ein cyfraniadau i bynciau’r gyfres hirsefydlog am hanes syniadau yn cynnwys:

Podlediadau

Mae ein harbenigwyr yn ymddangos yn rheolaidd mewn podlediadau amlwg.

History Hit

Cyfres The Ancients

Mae ein haneswyr hynafol yn rhannu eu harbenigedd a'u hymchwil ddiweddaraf yn rheolaidd yn The Ancients, sef cyfres sy’n deillio o History Hit. Dyma rai o'r diweddaraf, yn cynnwys yr Athro Guy Bradley, yr Athro Lloyd Llewellyn-Jones, Dr Eve MacDonald a Dr Louis Rawlings.

Carthage

Persia

Rome

Sasanian Empire

Britain

A large radio mic