Ewch i’r prif gynnwys

TRACT: Gwneud gwaith anweledig, yn weladwy

Mae TRACT yn adnodd digidol sy'n helpu nyrsys i asesu, mesur a chynllunio gwaith rheoli llwybrau gofal.

Cefndir

Adnodd digidol ar gyfer asesu, mesur a chynllunio gwaith rheoli llwybrau gofal yw TRACT.

Mae rheoli llwybrau gofal yn cyfeirio at y gwaith mae nyrsys yn ei wneud o ran trefnu a chydlynu gofal cleifion.  Er gwaethaf ei bwysigrwydd i ansawdd a diogelwch gofal iechyd, mae rheoli llwybrau gofal yn elfen anweledig, i raddau helaeth, o ymarfer nyrsio.  Ni chyflwynwyd iaith i nyrsys ar gyfer disgrifio’r gwaith hwn, nid yw’n cael ei gefnogi gan systemau cynllunio ffurfiol, ac nid yw wedi’i gynnwys ymhlith methodolegau gweithluoedd sy’n pennu lefelau diogel o staff nyrsio.

Mae TRACT wedi cael ei ddatblygu gan nyrsys, gyda nyrsys, ar gyfer nyrsys.  
Mae'n adeiladu ar ymchwil Allen a archwiliodd, a hynny am y tro cyntaf, y gydran sefydliadol sydd ynghlwm â’r rôl nyrsio. Arweiniodd hyn at ddatblygu fframwaith cysyniadol at ddibenion mynegi'r gydran hon o ymarfer nyrsio.

Mae TRACT wedi’i ddatblygu drwy ymgysylltu â defnyddwyr (uwch nyrsys BIP Caerdydd a’r Fro, grŵp cynghori rhyngwladol, arweinwyr polisi Cymru).  Mae’n cynnwys y canlynol:

  • Cymhwysiad digidol ar y we (E-TRACT)
  • Pecyn Gweithredu TRACT
  • Gwefan benodedig

Canlyniadau astudio

Mae'r prosiect yn mynd rhagddo, ac astudiaeth beilot ffurfiol yn cael ei chynllunio ar hyn o bryd.

Cyllid

Ariennir y prosiect hwn gan Gyfrifon Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Prif ymchwilydd

Thema