Ewch i’r prif gynnwys

Treialu graddfa arsylwi lles (WEBS) gyda phlant gan ddefnyddio'r Innowalk.

Datblygwyd graddfa lles gyda phlant a phobl ifanc anabl, gan ddefnyddio'r Innowalk.

Mae lles yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at sut mae plant a phobl ifanc sydd ag anableddau cymhleth yn nodi eu bod yn ffynnu yn eu hamgylcheddau gan adlewyrchu’n uniongyrchol felly y ffordd y maent yn profi ansawdd eu bywyd. Arsylwodd yr ymchwil hon ddeg o blant yn defnyddio'r Innowalk, dyfais robotig; hyn yn un cyd-destun iddynt nodi eu lles, er mwyn galluogi dealltwriaeth ddyfnach o les i'r grŵp hwn o blant nad ydynt yn gallu cerdded ac sy’n ddieiriau.

Nid yw ymchwilwyr wedi dod o hyd i fesur lles dilys a dibynadwy ar gyfer y sawl sydd ag anableddau cymhleth. Mae anableddau dwys yn cyfeirio at blant sydd ag anableddau dysgu dwys ac anghenion cymhleth. Mae meysydd y raddfa lles arsylwadol arfaethedig hon ar gyfer plant sydd ag anableddau cymhleth wedi'u datblygu'n raddfa fesur sy’n dwyn yr enw WEBS. Mae'r raddfa yn cynnwys dangosyddion ar gyfer teimlo’n heddychlon, creadigrwydd, teimlo’n gysurlon, egni, ymgysylltu a llawenydd.

Defnyddiodd yr ymchwil hon gyd-destun yr Innowalk i arsylwi dangosyddion llesiant yn ymatebion y plant, gan ddefnyddio dyluniad astudiaeth achos. Cafwyd deg achos ac roedd y rhain yn seiliedig ar nodiadau maes arsylwadol, dyddiaduron a chyfweliadau gyda phlant a'u rhieni. Gwnaed dadansoddiad gan ddefnyddio dadansoddiad thematig Braun a Clarke ac ystadegau disgrifiadol a ddefnyddiwyd ar gyfer y raddfa mesur llesiant arfaethedig.

Nodwyd tair thema:

  • lles: hwyliau a chyflawniadau
  • cyfranogiad: disgwyliadau a goddefgarwch
  • effeithiau corfforol: gwell hunanreoleiddio o ran cwsg, y coluddyn a ffurf y cyhyrau

Mae'r sgorau WEBS wedi’u darlunio ar ffurf cynllun Gwe Pry Copyn i dynnu sylw at yr amrywiadau yn lles pob cyfranogwr. Bydd y WEBS yn cael ei brofi ar boblogaeth fwy ei maint ar gyfer dilysrwydd cynnwys a dichonoldeb.

Cyllid

Ariannwyd y prosiect hwn gan Gymdeithas y Ffisiotherapyddion Pediatrig Siartredig.

Prif ymchwilydd

Picture of Dawn Pickering

Dr Dawn Pickering

Darllenydd mewn Ffisiotherapi

Telephone
+44 29206 87741
Email
PickeringDM@caerdydd.ac.uk

Thema’r ymchwil