Ewch i’r prif gynnwys

Gofal mewn argyfwng i blant a phobl ifanc

Rydyn ni’n edrych ar y ffordd y mae gofal i blant a phobl ifanc mewn argyfwng iechyd meddwl yn cael ei gynnal, ei brofi a'i gyfuno’n rhan o wasanaethau lleol.

Bu cynnydd sydyn a phryderus yn y problemau iechyd meddwl y bydd plant a phobl ifanc yn eu hwynebu. Ymhlith y rheini ag anhawster iechyd meddwl, mae bron i hanner y rheini yn eu harddegau hŷn a chwarter y rheini rhwng 11-16 oed yn dweud eu bod wedi hunan-niweidio neu wedi ceisio lladd eu hunain. Cyfeirir yn aml at drallod emosiynol eithafol, ar y cyd â hunan-niweidio neu hebddo, yn 'argyfwng'. Mae gwasanaethau i bobl ifanc mewn argyfwng yn flaenoriaeth yn y DU ac mae nifer y gwasanaethau'n ehangu. Fodd bynnag, ychydig a wyddom am y gwasanaethau argyfwng sy’n bodoli ar hyn o bryd, pwy sy’n eu defnyddio, neu ba fath o wasanaeth sy’n gweithio orau i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd.

Y nod

Nod y prosiect hwn yw ymchwilio i’r mathau o wasanaethau argyfwng iechyd meddwl sydd ar gael ar hyn o bryd i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru a Lloegr, ac ystyried y ffordd maen nhw’n cael eu trefnu, eu canfod a'u cyfuno’n rhan o systemau gofal lleol eraill.

Y dulliau

Byddwn ni’n defnyddio arolwg i greu cronfa ddata o wasanaethau ymateb i argyfwng ledled Cymru a Lloegr gan gynnwys sut y cânt eu trefnu, eu rhoi ar waith a'u defnyddio. Gan ddefnyddio'r gronfa ddata hon byddwn ni’n pennu wyth gwasanaeth gwahanol a gaiff eu dewis ar sail amrywiaeth. Gan drin pob un yn astudiaeth achos, byddwn ni’n cynnal cyfweliadau gyda phlant a phobl ifanc ac aelodau o'r teulu sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth yn ogystal â rheolwyr a staff. Byddwn ni’n edrych ar sut mae'r gwasanaethau'n gweithio ac yn casglu data ar sut y cânt eu defnyddio a chan bwy. Yn ein dadansoddiad, byddwn ni’n canolbwyntio ar ddeall sut mae pob gwasanaeth argyfwng yn cael ei roi, ei ganfod a'i roi ar waith.

Effaith

Ar ôl cymharu a chyferbynnu pob astudiaeth achos a chasglu’r holl ddata, byddwn yn dysgu gwersi o ran darparu gwasanaethau argyfwng o safon yn y dyfodol sy'n sensitif i anghenion cymorth ystod amrywiol o blant a phobl ifanc.

Cyllid

Rhaglen Ymchwil Cyflawni ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSDR) y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) sy’n ariannu’r prosiect hwn.

Prif ymchwilydd

Thema’r ymchwil