Ewch i’r prif gynnwys

Consortiwm ATLAS

Mae teithio llesol yn cyfrannu at wneud Cymru’n lle iachach ac yn fwy cyfartal. Mae’n lleihau allyriadau carbon a thagfeydd, ac yn cynyddu rhyngweithio cymdeithasol gan greu rhagor o gydlyniant yn ein cymunedau.

Consortiwm Ymchwil ar Deithio Llesol Cymru (ATLAS)


Mae’r arbenigedd amrywiol yn ein consortiwm, ar y cyd â’n grŵp llywio, yn ein galluogi i gyflwyno rhaglen ymchwil sy’n cefnogi’r newidiadau graddol tuag at deithio llesol yng Nghymru. Mae teithio llesol yn cyfeirio at deithio mewn ffyrdd sy’n gorfforol lesol, megis cerdded, olwyno, beicio neu sgwtera ac mae wrth wraidd polisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015).

Bydd y prosiect hwn yn golygu y gall y consortiwm, sy’n cynnwys saith ymchwilydd mewn chwe phrifysgol yng Nghymru, ddod at ei gilydd i gynnal amryw o drafodaethau a datblygu cwestiynau ymchwil newydd a fydd yn rhoi atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy raglen ymchwil.

Cyllid

Ariennir y prosiect hwn gan Rwydwaith Arloesi Cymru

Prif ymchwilydd

Thema’r ymchwil