Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth i raddedigion

Diweddarwyd: 19/03/2024 11:38

Efallai mai graddio fydd pen y daith i chi o ran eich astudiaethau cyfredol, ond nid oes rhaid ffarwelio.

Mae profiad Caerdydd yn mynd y tu hwnt i'ch amser ar y campws. Wrth raddio, byddwch yn dod yn rhan o'n teulu cyn-fyfyrwyr – cymuned fyd-eang fywiog sydd dros 130 oed. Bydd gennych hefyd fynediad at gefnogaeth, cyngor a chyfleoedd.

Mae angen i ni gadw mewn cysylltiad ar ôl i'ch cwrs ddod i ben fel y gallwn anfon gwybodaeth bwysig atoch, yn ogystal â chyfleoedd gyrfa, mentora, rhwydweithio a datblygiad proffesiynol, a gostyngiadau ar astudiaethau pellach. Er mwyn sicrhau y gallwn barhau i gysylltu â chi ar ôl graddio, gwnewch yn siŵr bod eich manylion cyswllt yn gyfredol.

Os ydych yn fyfyriwr ar hyn o bryd, diweddarwch eich manylion cyswllt ar ôl ichi raddio ar SIMS ar-lein er mwyn defnyddio cyfeiriad ebost nad yw'n un caerdydd.ac.uk a dewis cael negeseuon gan y brifysgol i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i gysylltu â chi ar ôl ichi raddio.

Os ydych yn gynfyfyriwr, diweddarwch eich manylion cyswllt gyda Swyddfa'r Cynfyfyrwyr

Graduates at the Hadyn Ellis

Cynfyfyrwyr

Cadwch mewn cysylltiad â'r Brifysgol wrth fod yn rhan o'n cymuned fyd-eang o gyn-fyfyrwyr.

Cyngor gyrfaol a chymorth

Gall Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gael mynediad at amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth gyrfaoedd sydd wedi'u cynllunio i wella eu cyflogadwyedd graddedigion.

Graduate Outcomes logo

Arolwg Deilliannau Graddedigion

Mae Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch (DLHE) yn helpu i ddarparu gwybodaeth am gyflogaeth a chanlyniadau cyrsiau addysg uwch.

birds eye

Cefnogaeth i entrepreneuriaid

Os oes gennych syniad am fusnes neu fenter gymdeithasol, neu eisiau ennill sgiliau newydd rydym yma i’ch cefnogi chi.

Online interview

Datblygiad personol a phroffesiynol

Mae’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau rhan-amser wedi’u hanelu at ddatblygiad personol a phroffesiynol.

Students listening to a lecture

Ôl-raddedig

Byddwch yn rhan o gymuned ôl-raddedig ffyniannus mewn prifysgol sydd ag enw da yn rhyngwladol am ymchwil a dysgu rhagorol.

Eich iechyd a'ch lles

Os ydych wedi bod yn derbyn cymorth gan ein Tîm Cwnsela, Iechyd a Lles, dylech drafod eich gofynion cymorth yn y dyfodol gyda'ch Cwnselydd neu Ymarferydd Lles fel eu bod yn gallu cysylltu â'ch Meddyg Teulu os bydd angen.

Gallwch barhau i gael gafael ar ein hadnoddau hunan-gymorth sy’n ymwneud ag iechyd emosiynol a chorfforol tra bod gennych fynediad at y fewnrwyd.

Hefyd, sylwer y gallai fod angen cofrestru gydag Meddyg Teulu (GP) newydd gan ddibynnu ar le rydych yn byw ar ôl i chi raddio.